Newyddiaduraeth lenyddol
Saesneg: Literary journalism
Math o newyddiaduraeth sy’n defnyddio technegau sy’n gysylltiedig ag ysgrifennu llenyddol er mwyn cyfleu gwirionedd ehangach y byd. Fe’i gelwir hefyd yn ‘newyddiaduraeth newydd’, ‘ffuglen greadigol’ a’r ‘nofel ffeithiol’, ac yn aml mae’n gysylltiedig â newyddiaduraeth ‘gonzo’. Credir i newyddiaduraeth lenyddol ddod i’r amlwg yn Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg, pan ddefnyddiodd Daniel Defoe (ac yna Jonathan Swift, Samuel Johnson a Charles Dickens) dechnegau llenyddol er mwyn creu storïau am broblemau a phryderon bywyd go-iawn.
Ymledodd newyddiaduraeth lenyddol i Unol Daleithiau America (UDA) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddefnyddiodd awduron fel Samuel Clemens (sef enw cywir Mark Twain), Walt Whitman, Dorothy Day a Lincoln Steffens dechnegau llenyddol yn eu hadroddiadau newyddiadurol, gan gynnig yr hyn a alwodd Stephen Crane yn ‘feel of the facts’.
Yn ystod yr ugeinfed ganrif, aeth Truman Capote, Tom Wolfe a Norman Mailer gam ymhellach wrth geisio datblygu math gwahanol o adrodd storïau newyddiadurol a oedd yn rhoi sylw cyfartal i naratif, arddull a sylwedd, neu weithiau’n blaenoriaethu naratif ac arddull dros sylwedd. Gan fynd yn groes i newyddiaduraeth gonfensiynol a’i safonau o wrthrychedd, cywirdeb a gwirio ffeithiau, defnyddiodd newyddiadurwyr llenyddol dechnegau fel creu cymeriadau cyfansawdd (h.y. cymeriadau wedi eu seilio ar sawl unigolyn neu sy’n gyfuniad o nodweddion sawl person), gosod yr olygfa, ynghyd â defnyddio eironi a sarhad er mwyn creu math gwahanol o ddeunydd (Sims 2007). Er enghraifft, wrth ymchwilio i achos llofruddiaethau teulu yn Kansas yn 1966, nid oedd yr awdur Truman Capote yn cymryd nodiadau pan oedd yn cyfweld â phobl fel y byddai newyddiadurwr yn ei wneud. Yn hytrach, wrth ysgrifennu’r llyfr In Cold Blood yn ddiweddarach, roedd yn dibynnu ar ei gof. Disgrifiodd y llyfr fel ‘non-fiction novel’.
Cyhoeddwyd sawl enghraifft o newyddiaduraeth lenyddol ar ffurf llyfr, ond wrth i bapurau newydd symud yn gynyddol tuag at wrthrychedd, cafodd yr erthyglau hyn eu gweld yn fwyfwy aml mewn cylchgronau. Fodd bynnag, mae’r cwestiwn o bwy all gael ei ddisgrifio fel newyddiadurwr llenyddol yn parhau i gael ei drafod gan mai dim ond ymhél â newyddiaduraeth yn achlysurol y bu rhai awduron, megis George Orwell, er bod llawer o newyddiadurwyr, megis Daniel Defoe, yn defnyddio nodweddion llenyddol yn eu gwaith ysgrifenedig. Bu eraill fel Albert Camus, John Steinbeck, Ernest Hemingway ac Emile Zola yn byw yn y ddau fyd. Ers y 1990au, mae tueddiadau cyfoes tuag at ddefnyddio naratif mewn newyddion a symud tuag at ‘ffuglen greadigol’ yn rhoi’r cyfle i arbrofi â ffurfiau newydd o ddweud storïau newyddiadurol sy’n debyg i newyddiaduraeth lenyddol y 1960au.
Sims, N. 2007. True Stories: A Century of Literary Journalism. Evanston, Il: Northwestern University Press.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.