Sŵnami
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp pop indie o ardal Dolgellau yw Sŵnami a ffurfiwyd yn 2010. Aelodau gwreiddiol y band oedd Ifan Davies (llais a gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitâr fas), Huw Ynyr Evans (allweddellau, llais) a Tom Ayres (drymiau). Bu newid yn yr aelodaeth yn 2012 pan ymunodd Lewis Williams (drymiau), gynt o’r grŵp Helyntion Jôs y Ficar, a Gruff Jones (allweddellau).
Mewn cyfnod pan oedd bandiau indie megis Two Door Cinema Club a Phoenix yn cael llwyddiant yn y byd Saesneg, daeth Sŵnami i amlygrwydd cenedlaethol yn 2011 wrth ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Lledaenwyd eu hapêl ymhellach yn dilyn ymddangosiadau ar S4C ar raglenni pop Bandit a Y Lle, ynghyd â recordio sesiwn ar gyfer sioe Huw Stephens ar Radio Cymru, gyda’r gân ‘Ar Goll’ yn dod yn arbennig o boblogaidd. Wedi hyn rhyddhawyd y senglau ‘Mynd a Dod’ (Copa, 2012), ‘Eira’ (Copa, 2012) ac yna’r EP Du a Gwyn (Copa, 2013).
Erbyn 2014, gyda chorff o ganeuon pop egnïol a osodai bwyslais ar alawon bachog, cofiadwy i’r llais a’r gitâr, a rhai a oedd yn aml yn creu gwrthgyferbyniadau trawiadol rhwng cytganau anthemig a phenillion tawelach (megis y gân effeithiol ‘Gwreiddiau’), daeth Sŵnami yn un o fandiau ifanc mwyaf poblogaidd a phrysuraf Cymru. Yr un flwyddyn cawsant wahoddiad i ddod yn rhan o gynllun Gorwelion, a sefydlwyd gan BBC Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol a thalent newydd yng Nghymru – un o’r grwpiau cyntaf i fod yn rhan o’r prosiect.
Arwyddodd Sŵnami gytundeb gyda label I Ka Ching yn 2014, gan ryddhau dwy sengl yn yr un flwyddyn, ‘Cynnydd’ a ‘Gwenwyn’. Hwy oedd prif berfformwyr Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014. Yn 2015 rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Sŵnami (I Ka Ching, 2015), a oedd yn tystio i allu’r band i gynhyrchu pop gafaelgar wedi’i adeiladu’n grefftus allan o haenau o synau. Cafwyd rhagflas o’r albwm pan chwaraewyd y trac ‘Magnet’ ar Radio 1. Roedd y band ar eu ffordd ar y pryd i Groningen yn yr Iseldiroedd i gynrychioli Gorwelion yng Ngŵyl Eurosonic 2014. Neilltuwyd rhaglen arbennig o’r gyfres bop Ochr 1 ar S4C i ddilyn hynt a helynt y band yn yr Iseldiroedd.
Rhwng 2011 a 2015 bu’r band yn llwyddiannus yng Ngwobrau’r Selar gan ennill gwobr y Band Newydd Gorau yn 2011, y Record Fer Orau am ‘Du a Gwyn’ a’r Fideo Cerddoriaeth Gorau am ‘Mynd a Dod’ yn 2013, a’r Record Fer Orau am ‘Cynnydd’/‘Gwenwyn’ a’r Fideo Cerddoriaeth Gorau am ‘Gwenwyn’ yn 2014. Yn ogystal, enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, wobr Offerynnwr y Flwyddyn yn 2014. Yn 2015 enillodd Sŵnami wobrau’r Band Gorau, y Record Hir Orau, y Gwaith Celf Gorau am eu halbwm Sŵnami a’r Gân Orau (‘Trwmgwsg’) – y tro cyntaf erioed yn hanes Gwobrau’r Selar i un grŵp ennill pedair gwobr mewn un flwyddyn. Uchafbwyntiau eraill yn ystod 2014–15 oedd recordio sesiwn ym Maida Vale, Llundain, a pherfformio yng Ngŵyl Rhif 6. Mae prif leisydd a gitarydd Sŵnami, Ifan Davies, hefyd yn aelod o fandiau Yws Gwynedd a’r Eira.
Aeth ei gân ‘Dydd yn Dod’, a gyfansoddwyd ar y cyd â’r cerddor Gethin Griffiths, i rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2014.
Nia Davies Williams a Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- ‘Mynd a Dod’ [sengl] (Copa LL015, 2012)
- ‘Eira’ [sengl] (Copa LL016, 2012)
- Du a Gwyn [EP] (Copa CD020, 2013)
- ‘Gwenwyn’ [sengl] (I Ka Ching, 2014)
- ‘Cynnydd’ [sengl] I Ka Ching, 2014)
- Sŵnami (I Ka Ching IKACHING016, 2015)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.