Celt
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Band roc a sefydlwyd yn Rachub, ger Bethesda, yw Celt a hynny yn niwedd yr 1980au. Daeth criw o gerddorion lleol at ei gilydd, yn rhannol yn dilyn llwyddiant bandiau lleol megis Maffia Mr Huws rai blynyddoedd ynghynt a’r diddordeb mewn canu pop Cymraeg a ddaeth yn sgil sefydlu gŵyl Pesda Roc. Ymhlith yr aelodau gwreiddiol yr oedd Steven Bolton (llais), Barry ‘Archie’ Jones (gitâr a gitâr fas) ac Alwyn Jones (drymiau). Ychydig yn ddiweddarach, fe ymunodd y canwr Martin Beattie (cyn-aelod o’r grŵp lleol, Machlud), ac yn fuan fe ddatblygodd sain nodweddiadol y band – sef caneuon roc syml a baledi canadwy a gyfansoddwyd yn bennaf gan Barry Jones a roddai bwyslais ar asiad lleisiol arbennig Beattie a Bolton. Daeth Siôn Jones (gynt o Maffi a Mr Huws) ar y gitâr flaen yn aelod pwysig maes o law, tra bod Huw Smith o’r grŵp Mojo yn cyfeilio ar yr allweddellau o dro i dro.
Rhyddhawyd record gyntaf y band, Da Di’r Hogia, yn 1989, a Cynffon yn 1991, ill dwy ar eu label eu hunain, gan ddod â sylw i’r band gyda chaneuon hwyliog megis ‘Byw yn Braf yn Gibraltar’. Daeth sylw pellach iddynt yn dilyn eu hymddangosiad yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1993 gyda’r anthemig ‘Dwi’n Amau Dim’. Er na fu’r gân yn fuddugol (cipiwyd y wobr gyntaf gan un o’r Brodyr Gregory), fe’i chwaraewyd yn gyson ar Radio Cymru.
Bu’r band yn perfformio’n rheolaidd ledled Cymru yn ystod y cyfnod, gan fagu dilyniant selog ymysg cynulleidfaoedd, ond bu’n rhaid disgwyl tan 1998 am eu halbwm llawn cyntaf. Recordiwyd @.com (Sain, 1998) yn stiwdio Brynderwen ger Bethesda a’i gymysgu gan Les Morrison yn Sain. Bu’r albwm yn llwyddiant, gan werthu rhai miloedd o gopïau. Ar sail caneuon grymus megis ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’, ‘Dros Foroedd Gwyllt’ a’r faled ‘Un Wennol’, daeth Celt yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd yr 1990au. Dilynwyd @.com gydag EP yn cynnwys y gân ‘Telegysyllta’ (Sain, 2001), ond bu llai o weithgaredd gan y grŵp yn dilyn ymadawiad Martin Beattie. Perfformiodd y band yng Ngŵyl y Faenol, Bangor, yn 2000 ac eto yn 2003. Rhyddhawyd casgliad o’u caneuon gorau, Pwy **** Di Celt?, ar Recordiau Howget yn 2006, ac albwm byw, Cash Is King, ar yr un label yn 2009.
Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- @.com (Sain SCD2215, 1998)
- ‘Telegysyllta’ [sengl] (Sain SCD2305, 2001)
- Cash Is King (Howget HOWGCD004, 2009)
Casgliadau:
- Pwy **** Di Celt? (Howget HOWGCD001, 2006)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.