Teisennau Mair
Cynnwys
Crynodeb
Ffilm gyfnod Edwardaidd gyda theimlad gothig iddi sy'n dilyn helyntion cariadol Mair (Marged Esli), wrth iddi adael ei chariad sy'n ofaint ifanc lleol o'r enw Llew (Cefin Roberts) am barchusrwydd dyn cyfoethog o'r enw Goronwy (J.O Rioberts). Defnyddia'r ffilm lawer o symboliaeth i gyfleu'r trasiedi sydd i ddod wrth i baranoia ei gŵr am ei anffyddlondeb â Llew droi'n drasiedi i'r tri.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Teisennau Mair
Blwyddyn: 1979
Hyd y Ffilm: 60 munud
Cyfarwyddwr: Gareth Wynn Jones
Sgript gan: Iwan Meical Jones
Stori gan: Seiliwyd ar stori wir a chwedl Blodeuwedd
Cynhyrchydd: Gwilym Owen
Cwmnïau Cynhyrchu: Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Genre: Drama
Rhagor
Cyllideb y ffilm oedd £56,000.
Cast a Chriw
Prif Gast
- Marged Esli (Mair)
- J.O. Roberts (Goronwy)
- Cefin Roberts (Llew)
Cast Cefnogol
- Clive Roberts
- Glyn Williams
Ffotograffiaeth
- Graham Edgar, Kevin Duggan
Cerddoriaeth
- Dulais Rhys
Sain
- Bob Webber, John Cross
Golygu
- Huw Griffiths
Cydnabyddiaethau Eraill
- Cynorthwywr i'r Cyfarwyddwr - Angharad Anwyl
- Coluro - Mary Hillman
- Gwisgoedd - Kate Fox
- Celfi - Arthur Evans
- Graffeg - Ian Cellan Jones
Manylion Technegol
Fformat Saethu: 16mm
Lliw: Lliw
Gwlad: Cymru
Iaith Wreiddiol: Cymraeg
Lleoliadau Saethu: Grugan Ddu, Y Groeslon.
Gwobrau: Prif Wobr yr Wyl Ffilmiau Geltaidd, Harlech 1981.
Manylion Atodol
Llyfrau
- David Berry, Wales and Cinema (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- ap Dyfrig, R., Jones, E. H. G., Jones, G. The Welsh Language in the Media (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)