Theori seicdreiddiol

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:44, 4 Ebrill 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Theori a thechneg a ddefnyddir i ddadansoddi’r meddwl a seicoleg yr unigolyn yw seicdreiddiad a arloeswyd gan Sigmund Freud yn Fienna o amgylch troad yr ugeinfed ganrif. Bathodd Freud y term i ddisgrifio’i ddull chwyldroadol o drin cleifion a oedd yn dioddef o anhwylderau meddyliol trwy eu hannog i siarad am eu teimladau, a’u breuddwydion yn arbennig, mewn modd cwbl benrhydd (Freie Assoziation, neu gysylltu rhydd). Trwy ddadansoddi breuddwydion a phrofiadau eraill a ddatgelir gan y claf, gallai’r seicdreiddiwr leddfu ei phryderon a’i dioddefaint, yn ôl Freud. Dadorchuddir yn y broses anymwybod y claf, a oedd tu allan i’w gafael fel arall. Yr anymwybod (Das Unbewusste) yw’r cysyniad canolog yn theori Freud oherwydd dyma’r haenen o’r meddwl, islaw ein hymwybyddiaeth, lle penderfynir ein hymddygiad a’n gweithredoedd i raddau helaeth.

Canfyddir y greddfau sylfaenol sy’n gyrru unigolion yn yr anymwybod, ond fe’u cuddir o’r golwg gan amlaf trwy’r broses o ataliad (Verdrängung) – yr ail gysyniad Freudaidd hollbwysig – sy’n nodweddu bywyd o fewn gwareiddiad modern. Cleddir rhai o’r profiadau a’r atgofion mwyaf arwyddocaol ac ysgytiol o’n plentyndod yn yr anymwybod trwy ataliad, ond maent yn dychwelyd ac yn cael mynegiant yn ein breuddwydion ac yn ein cynnyrch creadigol. Rôl y seicdreiddiwr a’r beirniad seicdreiddiol fel ei gilydd, o’r safbwynt Freudaidd, yw darllen a dehongli hyn mewn ffordd sy’n amlinellu ac yn egluro cymhellion anymwybodol yr awdur. Trwy wneud yr anymwybodol yn ymwybodol a’i drosglwyddo o’r claf (neu’r awdur) i’r seicdreiddiwr, fe rwystrir ei allu i’w ailadrodd ei hun ym mywyd y claf ac i greu niwrosis, a lleddfir symptomau’r niwrosis hwnnw (pryder, poenau corfforol, ac yn y blaen).

Proses o ddadansoddi iaith a naratif oedd seicdreiddiad yn ei hanfod o’r cychwyn gan mai treiddio o dan wyneb y straeon a adroddir gan y claf i’r therapydd am ei breuddwydion yw’r allwedd i ddatgloi cynnwys yr anymwybod yn nhyb Freud. Hynny yw, adrodd stori a wna’r claf wrth ddatgelu’i breuddwydion, a’r seicdreiddiwr wedyn yn eu dadansoddi a’u hailadrodd, fel y gwnaeth Freud yn ei ysgrifau ar rai o’i gleifion enwocaf fel Dora, Hans Bach a’r Dyn Blaidd. Dywedir yn aml fod y rhain yn debycach i straeon byrion na phapurau meddygol, gan awgrymu bod seicdreiddiad yn nes at dechnegau theori lenyddol nag ydyw i fethodoleg wyddonol, beth bynnag am obeithion Freud i’w sefydlu fel gwyddor. Gwelir olion ieithyddol yn bradychu’r anymwybod a’i gymhellion cudd mewn llithriadau a chamgymeriadau – y Freudian slip enwog – yn ogystal â breuddwydion, ac mewn jôcs a ffraethineb.

Ysbrydolodd cymeriad llenyddol un o gysyniadau canolog mwyaf allweddol a dadleuol Freud, sef cymhlethdod Oedipws. Un o agweddau chwyldroadol ei waith oedd ei ymdriniaeth blaen ac agored â rhyw a bywydau a dyheadau rhywiol ei gleifion, ac adlewyrchiad o hynny yw ei ddehongliad a’i ddefnydd o stori Oedipws. Yn ôl y ddamcaniaeth ddadleuol hon, rhennir yr un dymuniad i ‘feddiannu ei fam yn llwyr’ (yn ôl disgrifiad meistrolgar Yr Athro Idwal Jones o’r theori yn rhifyn 1944 o Efrydiau Athronyddol) gan bob bachgen ac mae hyn yn ei gymell i droi yn erbyn, neu hyd yn oed ddinistrio, ei dad, fel y gwna Oedipws yn nrama Soffocles. Tarddiad crefydd yw’r berthynas wrthdrawol rhwng plant a’u tadau, yn ôl y theori hon, wrth i’r plentyn drosglwyddo ei ddibyniaeth a’i edmygedd o’r tad meidrol, amherffaith i’r syniad o dad perffaith, arallfydol ar ffurf Duw. Allanoliad cwbl oddrychol o gynnwys yr anymwybod yw Duw felly, yn hytrach na bod yn wrthrychol ynddo’i hun.

Cynddeiriogwyd ei feirniaid cynnar gan y lle canolog a rydd Freud i’r reddf rywiol, neu’r libido, yn natblygiad y plentyn, ond dylid cofio, yng ngeiriau Idwal Jones eto, nad ‘yw’r “rhywioldeb” a ddarganfu Freud mewn plant bychain ond math o foddhad synhwyrus amwys a diwahaniaeth a gysylltir â rhannau arbennig o’r corff.’ Y broblem sylfaenol gyda theori’r cymhlethdod Oedipws y mae awduron ffeminyddol yn arbennig wedi tynnu sylw ati yw ei bod yn esgeuluso datblygiad seicolegol merched i raddau helaeth. Serch hynny, mae beirniaid ffeminyddol pwysig eraill, fel Juliet Mitchell yn ei chyfrol arloesol, Psychoanalysis and Feminism (1974), wedi tanlinellu nad cyfiawnhau strwythur patriarchaidd ei gymdeithas a wnaeth theori Freud yn ei chyfanrwydd ond cynnig disgrifiad ac eglurhad seicolegol ohono.

Poblogeiddiwyd syniadau Freud yn gyflym iawn rhwng y ddau ryfel byd (chwaraeodd y Cymro, Ernest Jones, ran allweddol yn lledaenu ei genhadaeth ym Mhrydain ac America yn arbennig) a benthyciwyd ei syniadau yn helaeth gan feirniaid llenyddol, yn cynnwys rhai Cymraeg fel Saunders Lewis. Datblygodd Freud ddarlun o’r meddwl ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf trwy gyflwyno model newydd i’w ddisgrifio a thrwy symud ei bwyslais cynnar ar y reddf am bleser (Eros, neu’r Lustprinzips) tuag at bwyslais ar y reddf tuag at farwolaeth (Thanatos, neu’r Todestrieb).Yn ôl ei fodel newydd, rhannwyd y meddwl yn dri phrif ran, sef yr id, yr ego a’r uwch-ego. Mae’r tair elfen hyn mewn brwydr gyson a pharhaol, yn bennaf rhwng y greddfau sylfaenol sy’n ffurfio’r id a’r gydwybod gymdeithasol a gynrychiola’r uwch-ego. Ymladd i gadw’r heddwch rhwng y ddau a wna’r ego gan amlaf, ond pan ddaw’r frwydr yn ormod i’r unigolyn ymdopi â hi, gwelir niwrosis yn ymffurfio. Y ffordd allweddol bwysig o osgoi hynny a awgrymodd Freud oedd dyrchafu greddfau a dyheadau peryglus yr id i gyfeiriadau eraill, yn bennaf rhai creadigol, celfyddydol. Trosgyfeiriad neu ddyrchafiad (Sublimierung) oedd yn rhannol gyfrifol felly am rai o weithiau llenyddol pwysicaf dynoliaeth a’u grym a'u sythwelediad seicolegol.

Ceir un o’r dadansoddiadau seicdreiddiol traddodiadol pwysicaf o waith a chymeriad llenyddol yn astudiaeth disgybl ffyddlonaf Freud, Ernest Jones, o Hamlet. Gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol Freud ei hun o safbwynt beirniadaeth lenyddol yw ei draethawd ar yr annaearol, ‘Das Unheimliche’. Dadansoddiad o stori fer Ernst Hoffmann, ‘Der Sandmann’, yw’r traethawd ac mae’n amlinellu’n glir ynddi sut mae’r ataliedig yn dychwelyd mewn gweithiau llenyddol, yn aml heb i’r awdur ei hun fod yn ymwybodol o hynny. Er mai gwrthwyneb y gair Almaeneg unheimlich yw’r cartrefol (heimlich) a thrwy hynny’r cyfarwydd, dadleua Freud yn baradocsaidd bod yr elfennau mewn straeon ysbryd fel un Hoffmann sy’n creu arswyd yn gyfarwydd iawn i’r awdur a’r darllenydd ill dau. Yr ataliedig yn dychwelyd mewn ffurf wahanol sy’n ein dychryn ac nid elfennau ymddangosiadol anghyfarwydd straeon o’r fath.

Mae’n werth nodi bod yr ymateb i waith Freud o fewn y Gymru Gymraeg wedi bod yn sylweddol rhwng y ddau ryfel byd a bod llawer o ddeallusion ac awduron blaenllaw, yn cynnwys D. Miall Edwards, E. Tegla Davies ac eraill, wedi cynnig disgrifiadau gwerthfawr o’r prif egwyddorion Freudaidd mewn cyfnodolion a chyfrolau amrywiol. Y pwysicaf ohonynt o safbwynt llenyddol yw’r dadansoddiad seicdreiddiol o fywyd a gwaith Williams Pantycelyn, a’r Seiat yn arbennig, a gynigir ym mywgraffiad arloesol Saunders Lewis ohono. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am yr ymateb i theori Freud yn y Gymraeg yw nid yn unig pa mor sydyn y digwyddodd ond hefyd pa mor soffistigedig oedd yr ymdriniaeth honno. Llwyddodd awduron fel Miall Edwards i gyflwyno, cyfieithu, ac egluro prif gysyniadau’r theori yn y Gymraeg ac hefyd i drin syniadau rhai o ddilynwyr cynnar Freud fel Carl Jung ac Alfred Adler. Llwyddwyd hefyd mewn ysgrifau yng nghyfnodolion fel Y Dysgedydd i drafod syniadau Freud am grefydd a rhywioldeb yn weddol wrthrychol, heb eu condemnio nac ychwaith eu derbyn yn ddi-gwestiwn. Parhaodd Gwilym O. Roberts â’r drafodaeth hon yn y 1950au a’r 1960au yn ei golofn wythnosol ymfflamychol yn Y Cymro. Disgrifiodd Freud yn gofiadwy ym mhennawd un ohonynt fel ‘Piwritan mewn bicini’.

Cynnig bywgraffiad gweddol amrwd o awduron a’u creadigaethau dychmygol a wnaeth y beirniaid llenyddol cynnar a ddefnyddiai syniadau Freud yn eu gwaith. Ond gydag ymddangosiad gwaith Jacques Lacan yn y 1940au, dechreuwyd symud y pwyslais beirniadol oddi wrth ddehongli bywyd a seicoleg awdur tuag at broses mwy dilechdidol o archwilio’r berthynas rhwng y darllenydd, y testun a’r awdur yn eu tro. Yn ôl math Lacan o seicdreiddiad strwythurol, dadleuir bod yr anymwybod wedi’i strwythuro fel iaith. Canlyniad hynny o safbwynt beirniadol yw bod angen ystyried testun nid fel adlewyrchiad syml o feddwl a phrosesau anymwybodol yr awdur ond fel endid mwy cymhleth, ansefydlog, sydd mewn cydberthynas barhaus, gyfnewidiol gyda’r awdur a’r darllenydd. Hynny yw, gan mai iaith sy’n rhoi strwythur i’r anymwybod (yn hytrach na’r greddfau), dylid ystyried testunau llenyddol yng ngoleuni’r hyn a ddatgelir ganddynt a’r effaith maent yn ei gael ar eu darllenwyr yn ogystal â’u hawduron. Symudodd Lacan, felly, y ffocws beirniadol oddi wrth yr hyn mae cerdd neu nofel yn ei ddatgelu am anymwybod ei hawdur at iaith y testun hwnnw. Datblygwyd ei waith ymhellach o safbwynt ffeminyddol gan feirniaid fel Julia Kristeva. O safbwynt mwy gwleidyddol, sy’n cwestiynu grym sefydliadol, ceir ymdriniaethau gan Giles Deleuze a Felix Guttari (yn dilyn ôl traed Michel Foucault), ac o safbwynt theori ddiwylliannol gyfoes yn fwyaf amlwg gan Slavoj Žižek.

O gofio cyn lleied o bobl sy’n elwa’n ymarferol trwy’r broses arloesol o therapi a chymorth seicolegol a arloesodd Freud (am resymau gwleidyddol ac economaidd), dichon mai fel techneg ddehongliadol ddefnyddiol o fewn theori ddiwylliannol yr erys pwysigrwydd parhaol ei waith o fewn cymdeithas gyfoes. Wrth ein dysgu i dreiddio mor ddwfn â phosib o dan wyneb testunau wrth eu darllen, a cheisio canfod yr arwyddion a’r symbolau anymwybodol sydd o’u mewn, dyfnhaodd a chyfoethogodd Freud ein dealltwriaeth ohonynt ac o gymhellion a seicoleg eu hawduron. Am hynny’n unig, heb sôn am ei gyfraniadau eraill, nid oes ddwywaith nad yw’n un o gewri deallusol yr ugeinfed ganrif.

Llion Wigley

Llyfryddiaeth

Brooks, S. (2008), ‘Arwyddocâd Ideoloegol Dylanwad Sigmund Freud ar Saunders Lewis’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 3, 29-49.

Davies, E. T. (1929), ‘Eneideg a’r Profiad Crefyddol’, Yr Eurgrawn Wesleaidd, 131, 161-170.

Edwards D. M. (1934), Crefydd a Diwylliant (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Ellmann, M. (gol.) (1994), Psychoanalytic Literary Criticism (Llundain: Longman).

Freud, S. (1991), The Interpretation of Dreams: Penguin Freud Library, Volume IV (Llundain: Penguin).

Freud S. (1990), ‘The Uncanny’ yn Dickson, A. (gol.), Art and Literature: Penguin Freud Library, Volume XIV (Llundain: Penguin).

Jones E. (1949), Hamlet and Oedipus (Efrog Newydd: Norton).

Jones, I. (1944), ‘Sigmund Freud’, Efrydiau Athronyddol, 7, 39-56.

Jones, H. P. (1984), Freud (Dinbych: Gwasg Gee).

Jones H. P. (1988), ‘Un Nos Ola Leuad’, Taliesin, 63, 9-14.

Lewis, S. (1927), Williams Pantycelyn (Llundain: Foyles).

Mitchell, J. (1974), Psychoanalysis and Feminism (Llundain: Penguin).

Price, A. (2007), ‘T. H. Parry Williams, Freiburg a Freud’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 2, 107-122.

Richards, D. (1926), ‘Psycho-Analysis a Chrefydd’, Y Dysgedydd, 105, 233-236 (Rhan I), 293-297 (Rhan II).

Wigley, Ll. (2016), ‘Plymio i’r Dyfnderoedd: Ymatebion Cynnar i Syniadau Sigmund Freud a’r ‘Feddyleg Newydd’ yn yr Iaith Gymraeg c.1918-1945’ yn Price A. (gol.), Ysgrifau Beirniadol XXXIV, (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 89-112.

Williams C. G. (1966), Clywsoch yr Enw: Arweiniad at Ddeuddeg Dysgawdwr (Llandysul: Gwasg Gomer).

Williams, D. G. (1924), Llawlyfr Ar Feddyleg (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Williams, L. R. (1995), Critical Desire: Psychoanalysis and the Literary Subject (Llundain: Edward Arnold).

Zaretsky, E. (2005), Secrets of the Soul: A Social and Cultural History of Psychoanalysis (Efrog Newydd: Three Rivers Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.