Newyddiaduraeth amgen

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:37, 9 Hydref 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Alternative journalism

Math o newyddiaduraeth a ddiffinnir orau fel newyddiaduraeth sy’n sefyll ar wahân i’r brif ffrwd. Fel arfer, mae newyddiaduraeth amgen yn gwrthsefyll grym gormodol y Llywodraeth a gormodedd economaidd, ac mae o blaid yr unigolyn, y gweithlu, y rhai sydd ar ymylon cymdeithas a’r rhai sydd wedi colli grym. Gall hefyd gynnwys cylchgronau adloniant, pamffledi ‘yr oes newydd’ ac ymdrechion ‘amatur’ i adrodd ar ddigwyddiadau bob dydd.

Er i’r term ‘alternative journalism’ gael ei ddefnyddio amlaf wrth gyfeirio at y wasg lenyddol wrthddiwylliannol (counter-culture) a ddaeth i’r amlwg yn ystod y 1960au (a elwir yn un enghraifft o ‘newyddiaduraeth newydd’), mewn gwirionedd roedd rhyw fath o newyddion amgen yn bodoli mewn sawl lle cyn hynny.

Mae newyddiaduraeth amgen yn gysylltiedig â newyddiaduraeth bleidiol a newyddiaduraeth gyfranogol. Mae enghreifftiau o newyddiaduraeth amgen yn cynnwys y wasg danddaearol yn Ffrainc yn y ddeunawfed ganrif, y wasg a oedd yn ymgyrchu dros ddiddymu caethwasiaeth yn Unol Daleithiau’r America yn y 1800au (American Abolitionist Press), a chrwsâd I. F. Stone yn erbyn McCarthyism yn ystod y 1950au. Gellir cynnwys yn niffiniad ‘newyddiaduraeth amgen’ y ffordd yr oedd syniadau gwrthwynebwyr yn yr hen floc Sofietaidd yn cael eu dosbarthu drwy lungopïo pamffledi ‘Samizdat’, recordiadau tâp cyfrinachol a phregethau crefyddol i gael gwared ar y Shah o Iran yn y 1970au.

Ym mhob achos, roedd y syniad y gallai newyddiaduraeth gynrychioli buddiannau pobl yn fwy effeithiol yn apelio at lawer a oedd yn anfodlon â pherfformiad a phersbectif sefydliadau newyddion prif ffrwd ar adegau penodol.

Mae newyddiaduraeth amgen yn tueddu i ddefnyddio gwirfoddolwyr, mudiadau dielw ac annibynnol, ynghyd ag unigolion sydd yn herio’r drefn gymdeithasol, ac ni cheir unrhyw fath o hierarchaeth rhwng y sawl sy’n dewis cyfrannu.

Mae nifer o declynnau a dyfeisiadau’n cael eu defnyddio, a rhai ohonynt yn rhai nad yw gwasanaethau newyddion prif ffrwd yn eu defnyddio: o recordwyr tâp, peiriannau mimeograffig, microffonau, papur carbon, llungopiwyr, gorsafoedd radio answyddogol ac, yn gynyddol, cluniaduron, safleoedd cynnal gwefannau o bell (remote hosting sites), camerâu digidol a ffonau clyfar. Defnyddir technegau fel cofnod llygad dystion a naratif person cyntaf er mwyn bod yn fwy cynhwysol na mathau eraill o newyddiaduraeth.

Mae newyddiaduraeth amgen yn tueddu i godi mewn ymateb i’r dybiaeth fod sefydliadau newyddion prif ffrwd yn esgeuluso rhai materion neu ddigwyddiadau cyfoes. Yn aml fe’i gwelir ar lwyfannau sy’n gwrthgyferbynnu â gwasanaethau newyddion prif ffrwd, megis gwleidyddiaeth flaengar, hawliau menywod a grwpiau gwrthglobaleiddio. Mae llwyfannau o’r fath wedi ymestyn i nifer o gyfeiriadau – i’r wasg danddaearol (The Voice Village, The Free Press, International Times), i’r wasg wrthddiwylliannol (Oz, Rolling Stone, New Musical Express), ac i gylchgronau sy’n mynd dan groen y ‘Sefydliad’ (Private Eye, Ramparts, The Progressive), ynghyd ag i rai cylchgronau sy’n hyrwyddo rhai grwpiau ethnig neu genedl (Spare Rib, Mother Jones, El Macriado, The Advocate).

Er taw oes fer a gafodd lawer o sefydliadau newyddion amgen (am nad oedd ganddynt y seilwaith i barhau i fynd ar eu pennau eu hunain am gyfnodau hir), mae rhai cyhoeddiadau newyddion wedi derbyn cefnogaeth hir, sefydlog, megis The Nation, In These Times, a UTNE Reader.

Mae cynhyrchwyr ffilmiau dogfen annibynnol yn defnyddio gwerthiannau DVD ar-lein a sinemâu annibynnol er mwyn dosbarthu eu ffilmiau. Yn Unol Daleithiau’r America, bu prosiectau fel yr Association of Alternative Newsweeklies (cymdeithas fasnachol o bapurau newydd, llawer wedi’u gwreiddio yn y wasg danddaearol), Pacific News Service (PNS, neu yn fwy diweddar y New America Media), a’r Independent Press Association, sydd wedi diflannu erbyn hyn, i gyd yn cydlynu newyddiaduraeth amgen a’i chadw ar wahân i newyddiaduraeth prif ffrwd. Mae’r safbwyntiau amgen y maent yn eu mynegi yn cael eu dogfennu bob blwyddyn gan Project Censored. Mewn gwledydd eraill, mae El Libertario yn Venezuela neu’r Die Tageszeitung yn yr Almaen yn enghreifftiau o ganolfannau newyddiadurol bywiog, sy’n fodd i bobl gael clywed am safbwyntiau gwahanol yn y newyddion.

Daeth teledu mynediad cyhoeddus i’r amlwg hefyd fel llwyfan hyfyw ar gyfer newyddiaduraeth amgen, ac mewn gwledydd fel Brasil, Gwlad Belg a’r Ffindir, caiff aelodau’r cyhoedd gyfle i fynegi eu barn yn rheolaidd.

Mae newyddiaduraeth amgen wedi datblygu ymhellach gyda chynnydd y cyfryngau ar-lein. Er enghraifft, sefydlwyd IndyMedia yn 1999 er mwyn adrodd ar uwchgynhadledd Sefydliad Masnach y Byd yn Seattle. Ers hynny, sefydlwyd dros 150 o ganolfannau newyddiaduraeth amgen mewn bron i 50 o wledydd, e.e. Alternet, cylchgrawn ar-lein Americanaidd sy’n cyhoeddi blogiau newyddion gan ohebwyr proffesiynol a newyddiadurwyr dinasyddion. Mae gosod post neu sylw ar YouTube, Flickr, Twitter a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill hefyd yn cael ei ystyried fel newyddiaduraeth amgen.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.