Glyn, Gwyneth (g.1979)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:06, 22 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores a chyfansoddwraig caneuon. Yn wreiddiol o Lanarmon, Eifionydd, derbyniodd Gwyneth Glyn ei haddysg yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio Athroniaeth a Diwinyddiaeth, gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf.

Ei chariad cyntaf oedd barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol yn gyffredinol. Enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth tra oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, trwy berfformio mewn cynyrchiadau gan Gymdeithas Ddrama’r Brifysgol a chanu mewn clybiau gwerin i gyfeiliant ei gitâr acwstig.

Parhaodd i ganu ar ôl dychwelyd i Gymru, yn gyntaf ar daith trwy Gymru fel rhan o’r sioe farddoniaeth a noddwyd gan yr Academi Gymreig, Un Cês a Sawl Lodes Lèn (2003–4). Plethai ei chaneuon ddylanwadau canu gwlad a chanu gwerin-protest Eingl-Americanaidd yr 1960au (megis Joan Baez a Bob Dylan) gyda’r traddodiad gwerin Cymraeg, a chlywir hyn ar ei record hir gyntaf, Wyneb Dros Dro (Slacyr, 2005). Mae ambell gyffyrddiad o’r blŵs yn y trac agoriadol ‘Tasa Ti Yma’, tra bod ‘Cân y Llong’ yn awgrymu dylanwad yr hen benillion. Daeth y gân werin-gwlad ‘Adra’, gyda’i defnydd clyfar ond cynnil o ddyfyniadau allan o ganeuon gan Neil Young, Lynyrd Skynyrd, Y Tebot Piws a John Denver, yn hynod boblogaidd. Sefydlodd Wyneb Dros Dro Gwyneth Glyn fel un o artistiaid amlycaf yr adfywiad acwstig a chanu gwerin yng Nghymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Cydnabuwyd ei phoblogrwydd yn ystod y cyfnod hwn pan enillodd wobr Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2006.

Dilynwyd Wyneb Dros Dro gan ail record hir, Tonau (Gwinllan, 2007). Symudai’r record hon oddi wrth arddull acwstig Wyneb Dros Dro at sain lawnach a mwy trydanol. Clywid cyfraniadau arni gan gerddorion megis Heather Jones ac Alun Tan Lan, ac roedd yn arwydd o awydd cyson Gwyneth Glyn i gydweithio gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhaodd fersiwn o’r gân werin ‘Paid â Deud’ ar y cyd â Cowbois Rhos Botwnnog (Sbrigyn Ymborth, 2008). Bu’n perfformio gyda’r band ynghyd â recordio gyda Derwyddon Dr Gonzo, ac yn 2009 cynrychiolodd Gymru yng Ngŵyl y Smithsonian, Washington D.C. Yn ddiweddarach, cydweithiodd am gyfnod gyda’r delynores amryddawn Catrin Finch.

Perthyn ysbryd mwy hwyliog a direidus i’w thrydedd record hir, Cainc (Gwinllan, 2011), mewn caneuon megis ‘Ewbanamandda’ a ‘Dansin Bêr’. Ar yr un pryd, roedd y record hefyd yn ceisio mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyflwyno Cass Meurig ar y ffidil a’r crwth. Cyfrannodd Twm Morys, canwr Bob Delyn a’r Ebillion, eiriau i un gân yn ogystal.

Fodd bynnag, gyda’r arddull werin gyfoes Gymraeg wedi ei dihysbyddu i raddau helaeth erbyn y cyfnod hwn yn ei gyrfa, trodd Gwyneth Glyn ei golygon y tu hwnt i draddodiadau cynhenid Cymru. Yn 2012, trwy gyswllt â’r cynhyrchydd sain Donal Whelan, cyfarfu â’r cerddor o Mumbai, Tauseef Akhtar, ac aeth y ddau ati i greu plethiad gwreiddiol a chwbl unigryw o farddoniaeth Wrdw a hen benillion Cymraeg.

Penllanw’r prosiect oedd Ghazalaw. Gyda’r gantores Georgia Ruth Williams a’r cerddorion Indiaidd Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das yn rhan o ensemble a oedd yn cynnwys telyn, tabla, gitâr a harmoniwm, perfformiodd Ghazalaw mewn nifer o wyliau cerdd, gan gynnwys y Desert Festival, Delhi, yn 2012, gŵyl Exchange yn Chennai yn 2012 a gŵyl WOMEX yng Nghaerdydd yn Hydref 2013. Ffrwyth y cydweithio hwn oedd y record hir Ghazalaw, a ryddhawyd ar Marvels of The Universe, label y gantores Cerys Matthews, ym Medi 2015.

Profai Ghazalaw allu Gwyneth Glyn i barhau i’w hailddyfeisio ei hun trwy weithio gyda cherddorion eraill yng Nghymru a thu hwnt. Bu ei chyfraniad i’r sîn werin-roc Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn bwysig, ynghyd â’i pharodrwydd i ledaenu apêl y canu Cymraeg y tu hwnt i ffiniau’r wlad. Yn ogystal â’i gwaith ym maes cerddoriaeth, fodd bynnag, y mae hefyd yn llwyddo i gynnal gyrfa fel dramodydd, sgriptiwr ac awdur llyfrau, a hi a ysgrifennodd libreto opera Y Tŵr gan y cyfansoddwr Guto Puw. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2006–7.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Wyneb Dros Dro (Slacyr SLAC007, 2005)
Tonau (Recordiau Gwinllan, 2007)
Cainc (Recordiau Gwinllan, 2011)
Ghazalaw (Marvels of The Universe, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.