Shifft ieithyddol
(Saesneg: Language shift)
Nid yw’r berthynas rhwng dwy iaith mewn cymdeithas o anghenraid yn gyfartal. Os bydd gan un iaith statws a bri uwch nag iaith arall yn y gymuned, gall hyn arwain at newid iaith, a/neu gall olygu bod deuglosia yn y gymuned honno. Efallai fod deuglosia fel hyn yn sefyllfa sefydlog, sef bod pobl y gymuned yn derbyn bod un iaith ar gyfer un pwrpas ac iaith arall ar gyfer pwrpas arall, a bod hyn yn aros yn gyson o genhedlaeth i genhedlaeth. Posibilrwydd arall yw y bydd anghymesuredd rhwng dwy iaith mewn cymuned yn newid dros amser fel y bydd un iaith yn fwy a mwy dominyddol yn y gymdeithas a’r iaith arall yn cael ei dysgu a’i defnyddio lai a llai. Gelwir proses fel hon yn shifftio ieithyddol (language shift), ac mae’n werth ystyried beth ydyw, i ba raddau y digwyddodd yn hanes y Gymraeg ac i ba raddau y bydd yn digwydd yn y dyfodol. Cysylltir shifft ieithyddol â marwolaeth iaith, felly rhoddir ystyriaeth i hynny yn y cofnod hwn hefyd. Diffinnir shifft ieithyddol fel siaradwyr yn newid o ddefnyddio un iaith i ddefnyddio un arall dros gyfnod o amser (Crystal 2000). Ar ddechrau’r broses bydd un brif iaith (Iaith A) yn y gymdeithas, a phawb yn ei siarad a’i defnyddio ym mhob sefyllfa. Yna bydd iaith arall (Iaith B) yn dechrau cael ei defnyddio yn y gymdeithas, a honno â bri uchel ac yn ddeniadol i siaradwyr, yn enwedig siaradwyr ifanc. Bydd Iaith B yn iaith o’r tu allan i’r gymuned ac yn debygol o fod yn iaith siaradwyr pwerus a niferus o gymdeithas(au) arall. Bydd siaradwyr yn dechrau defnyddio B mewn sefyllfaoedd lle roeddent yn arfer defnyddio A, ac am gyfnod bydd A a B yn cael eu defnyddio drwy’r gymdeithas, yn enwedig mewn cyd-destunau cyhoeddus ac Uchel (gweler y cofnod ar ddeuglosia), fel y gweithle a byd addysg. Ar ôl cyfnod o amser, dim ond yr hen genhedlaeth fydd yn defnyddio Iaith A, a bydd plant y genhedlaeth newydd yn dysgu Iaith B yn hytrach nag Iaith A, gan mai B sydd fwyaf blaenllaw yn y gymdeithas. Gan nad oes neb yn dysgu nac yn defnyddio A, bydd B yn cael ei defnyddio ym mhob rhan o gymdeithas a bydd A yn diflannu o’r gymdeithas fel iaith fyw. Os bydd hynny’n digwydd, gellir galw hyn yn farwolaeth iaith (language death), sef nad oes unrhyw siaradwyr ar ôl sy’n gallu siarad iaith (Crystal 2000). Mae Crystal hefyd yn nodi bod angen defnyddio iaith at ddibenion cyfathrebu er mwyn iddi gael ei galw’n iaith fyw, ac felly fod iaith i bob pwrpas yn marw pan fydd dim ond un person ar ôl yn fyw sy’n gallu ei siarad, gan nad oes gan y person hwnnw unrhyw un i gyfathrebu ag ef neu hi yn yr iaith honno. Nid yw shifft ieithyddol bob tro’n gorfod cyrraedd y pen draw hwn, fodd bynnag, fel a drafodir isod.
Mae sawl nodwedd i’w gweld mewn iaith sy’n shifftio:
(i) Lleihad yn nifer ei siaradwyr: dros amser gwelir newid demograffig lle mae llai a llai yn siarad Iaith A a mwy a mwy yn siarad Iaith B.
(ii) Lleihad neu newid yn statws Iaith A dros amser: bydd Iaith B yn cael ei gweld fel iaith fwy deniadol, defnyddiol a modern, tra bydd Iaith A yn cael ei gweld fwyfwy fel iaith hen ffasiwn, gyffredin, annefnyddiol.
(iii) Gwelir newidiadau gramadegol mewn iaith sydd yn y broses o shifftio ieithyddol: y mathau o bethau sydd wedi cael eu nodi yw cynnydd mewn benthyg geiriau i Iaith A o Iaith B, ymyrraeth ramadegol fel newid trefn geiriau, a symleiddio gramadegol lle mae systemau cymhleth (e.e. morffoleg) yn dod yn llai cymhleth wrth i siaradwyr newydd fethu caffael y system gyflawn. Nid yw’r ffaith fod iaith yn newid fel hyn o reidrwydd yn golygu bod yr iaith honno’n newid yn ramadegol neu’n strwythurol (ystyrir bod Saesneg wedi mynd drwy’r holl newidiadau gramadegol a restrwyd, a hithau ymhell o fod yn farw!), ond mae newid iaith yn aml yn digwydd os yw shifft ieithyddol yn digwydd.
Wrth droi at y Gymraeg yn benodol, gellir ystyried a yw’r tair nodwedd uchod wedi digwydd iddi yn ystod ei hanes. O ran nifer ei siaradwyr, mae’r ffigwr hwn wedi lleihau bron bob degawd ers dechrau’r 20fed ganrif, a hynny’n batrwm a oedd wedi dechrau ers o leiaf ganrif cyn hynny. Yng Nghyfrifiad 1901 nodir bod tua 50% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg; yn 2011 roedd y gyfran wedi gostwng i tua 19%, sef tua 562,000 o siaradwyr (nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys siaradwyr Cymraeg sy’n byw y tu allan i Gymru). Daeth yr iaith Saesneg yn fwyfwy blaenllaw yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, gyda’r canlyniad fod rhieni’n llai tebygol o drosglwyddo’r Gymraeg i’w plant, a’r plant felly’n llai tebygol o’i dysgu, gan ystyried nad oedd addysg Gymraeg yn gyffredin tan ail hanner yr 20fed ganrif. Wrth i boblogaeth Cymru gynyddu, yn aml oherwydd mewnfudwyr o weddill y Deyrnas Unedig neu’r tu hwnt, daeth cymunedau Cymraeg traddodiadol yn fwy dwyieithog mewn Saesneg, ac yna’n llai tebygol o fod yn gymunedau lle clywid y Gymraeg.
Mae shifft ieithyddol oddi wrth y Gymraeg tuag at y Saesneg wedi digwydd yn hanesyddol mewn nifer o gymunedau yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a rhai/neu rai sy’n agos at Loegr. Mewn mannau fel hyn yn aml ceir niferoedd isel o siaradwyr Cymraeg ac ni fydd y Gymraeg i’w chlywed mor aml ar y stryd. Ar y llaw arall, mewn ardaloedd eraill, yn enwedig rhai mwy gwledig megis rhannau o ogledd-orllewin a de-orllewin y wlad, nid oes cymaint o shifft ieithyddol wedi digwydd ac mae’r Gymraeg yn parhau fel iaith gyffredin a chlywadwy. Felly nid yw’n briodol dweud bod shifft ieithyddol wedi digwydd drwy Gymru gyfan, dim ond mewn rhai rhannau ohoni.
Gellir dadlau hefyd fod modd atal a gwrthdroi shifft ieithyddol (Fishman 1991), drwy gefnogi iaith sy’n shifftio ar lefel statudol, e.e. drwy roi mwy o statws swyddogol a chefnogaeth ariannol iddi a’i siaradwyr, a hefyd ar lefel y siaradwyr, drwy ei defnyddio a’i throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf. Mae gweithredoedd fel cyflwyno deddfau Iaith Gymraeg 1967 ac 1993 a Mesur y Gymraeg 2011 yn enghreifftiau o ymdrechion gan y llywodraeth ym Mhrydain ac yng Nghymru i amddiffyn y Gymraeg a gwrthdroi shifft ieithyddol mewn cymunedau lle mae hi’n fregus. Mae’r ffaith fod modd defnyddio’r Gymraeg ar bob lefel yn y gymdeithas bellach yn arwydd nad yw shifft ieithyddol yn beth anochel.
Dr Peredur Webb-Davies (yn deillio o’r e-lyfr Cyflwyniad i Ieithyddiaeth wedi ei olygu gan Dr Sarah Cooper a Dr Laura Arman sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Llyfryddiaeth
Crystal, D. 2000. Language death. (Stuttgart: Ernst Klett Sprachen).
Fishman, J. 1991. Reversing language shift: theoretical and empirical foundations of assistance to threatened languages. (Clevedon: Multilingual Matters).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.