Tair

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cefndir

Yn debyg i batrwm Wyneb yn Wyneb (1993) ac Fel Anifail (1995) gwelir y berthynas deuluol yn cael ei gosod o dan y chwyddwydr yn y ddrama Tair (1998). Faint bynnag y dymunant wadu neu osgoi eu cyfrifoldeb, mae gwaed yn dewach na dŵr, ac yn sicr mae’r tair [Y Nain, y Fam a’r Ferch] yn rhan annatod o orffennol a dyfodol ei gilydd, a byddant felly trwy gydol eu hoes. Wedi eu clymu gan fwy nag achau, maent yn rhannu profiadau tebyg ond eto mewn amgylchiadau gwahanol, yn unigolion ond eto’n oesol o debyg. Mae yna o leiaf ddwy stori yn plethu drwy gwrs y ddrama - stori’r gorffennol a stori’r presennol. Yn syml, tri chymeriad a geir, wedi bod, neu yn mynd drwy’r un profiad. Dywed Meic Povey;

“Dwi’n dod yn ôl yn y pendraw, fel yn y rhan fwyaf o bethau dwi’n sgwennu, at y ffaith bod pwy wyt ti a be wyt ti yn ddibynnol iawn ar dy gefndir a dy deulu di”.

Mae Meic yn barod i fentro tynnu’r ffeministiaid i’w ben trwy ychwanegu bod drama neu unrhyw waith arall sy’n cynnwys merched yn sicr o gynnwys dynion hefyd mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os nad ydynt yno o’n blaenau. Trwy gydol y chwarae, oddi ar y llwyfan mae tri chymeriad gwrywaidd y ddrama, ond canolbwyntir yn llwyr ar brofiadau’r merched. Dywed Meic;

“Er ‘mod i wedi sgwennu dramâu efo cymeriadau benywaidd cry’ ynddyn nhw, do’n i erioed wedi sgwennu dim i ferched yn unig.”

Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer Tair o’i brofiad personol, y sefyllfa deuluol y bu ynddi ei hun, yn cyfeirio at ei wraig, ei fam yng nghyfraith a’i ferch. Wedi aeddfedu a naddu ei grefft, mae yna lai o gymeriadau yn y ddrama, a mwy o ganolbwyntio ar ymateb y tair cenhedlaeth i’r sefyllfa o dan sylw ac i’w gilydd wrth gwrs. Y geiriau a’r berthynas sy’n mynnu sylw’r gynulleidfa.

Llyfryddiaeth
Roberts, Gwenan a Baines, Menna (Gorffennaf/Awst 1998) Tair gan Meic Povey (Dalier Sylw) : Barn cyfrol:426/427.
Povey, Meic (1999) Tair : Canolfan Astudiaethau Addysg

Cymeriadau

Cynhyrchiad Gwreiddiol Cynhyrchiad Radio
Y Nain Lisabeth Miles Lisabeth Miles
Y Fam Betsan Llwyd Betsan Llwyd
Y Ferch Catrin Powell Nanw Llwyd Williams

Nôl ym mis Mai 2010, fe gymerodd Lisabeth Miles at rôl y Nain a Betsan Llwyd at rôl y Fam unwaith yn rhagor ond y tro hwn ar gyfer y cynhyrchiad drama radio. Cafodd myfyrwyr Ysgol Theatr Cerdd a’r Cyfryngau eu cyfweld ar gyfer rhan y Ferch – Nanw ddaeth i’r amlwg. Yn ddiddorol iawn mae Nanw yn ferch i Betsan go iawn!

Themâu

Mae Meic Povey yn adnabyddus erbyn hyn am ymdrin â themâu mentrus, ac nid yw byth yn ofni derbyn beirniadaeth o ganlyniad. Yn Wyneb yn Wyneb dewisodd drafod cariad – rhwng dau fachgen, gan godi cwestiynau am gariad ‘normal’ ac ‘annormal’ o fewn cymdeithas. Mentrodd yr awdur wrth iddo gyflwyno Perthyn, drama sy’n trafod llosgach rhwng tad a merch, a thrafod marwolaeth a wna yn Fel Anifail, a hynny’n gignoeth ac yn eofn. Ond er gwaethaf yr amrywiaeth yma o bynciau, mae rhywun bob amser yn ymwybodol o bwysigrwydd gormesol y teulu, y gorffennol, goddefgarwch a maddeuant o fewn yr uned deuluol a’r tensiwn di-ben-draw sy’n deilio o fyw mewn uned glos. Felly, gellir dweud bod y thema yma’n perthyn i ni gyd rhyw ffordd neu’i gilydd. Trafod perthynas y gwna Meic yn Tair. Mae yna dair menyw, tair cenhedlaeth, tri bywyd gwahanol iawn...ond pa mor wahanol yw y tair mewn gwirionedd? Mae gwaed yn dewach na dŵr faint bynnag efallai y dymunant wadu neu osgoi eu cyfrifoldebau. Mae y tair yn rhan annatod o orffennol a dyfodol ei gilydd, ac felly y byddant trwy gydol ei hoes.

Llyfryddiaeth
Roberts, Gwenan a Baines, Menna (Gorffennaf/Awst 1998) Tair gan Meic Povey (Dalier Sylw) : Barn cyfrol:426/427.
Povey, Meic (1999) Tair : Canolfan Astudiaethau Addysg

Arddull

“Mae rhaid i bob drama gychwyn yn rhywle, efo rhyw realaeth. O’r sefyllfa real yma caiff y cymeriadau dyfu. Am y tri neu bedwar mis cynta’ o ysgrifennu drama y fi sy’n gwthio’r cymeriadau, ond ar ôl hynny maen’ nhw’n dechrau ‘nhywys i’”
– Meic Povey, 1988

Cryfder Povey yw ei ddeialog di-drimings sy’n cyfeirio ein sylw’n llwyr at y cymeriadau. Wrth lunio’r cymeriadau mae’n sylwgar iawn wrth gyflwyno patrymau llafar y cenedlaethau gwahanol, felly gwelir bod y defnydd o iaith yn hanfodol bwysig yn y ddrama. Gweler enghraifft dda o hyn pan ddywed y ferch ifanc yn Tair;

“God, saethwch fi pan dwi’n thirty!”

Mae’r defnydd o eiriau Saesneg ac agwedd gwcsog y Ferch tuag at ei mam a’i nain yn portreadu ei chymeriad yn wych. I’r gwrthwyneb defnyddia Meic iaith fwy safonol a hen ffasiwn ei naws i gyfleu cymeriad y Nain. Dywed wrth iddi sôn am ei ffrindiau Emrys a Grace;

“Selog iawn tua Nasareth ‘cw tan yn ddiweddar, y ddau!”

Gall llinellau fel hyn ddweud cymaint am bersonoliaeth cymeriad mewn cyn lleied o eiriau, medrwn dybio bod Nain yn wraig foesol, grefyddol sydd â safbwyntiau a meddwl craff.

Cymeriadu heb os yw un o gryfderau Povey, darlunio cymeriadau sy’n gredadwy ac yn wir i ni'r gynulleidfa. Cred yr awdur os yw pobl yn eu hadnabod eu hunain neu bobl ‘go iawn’ yn ei gymeriadau ef, mae wedi llwyddo. Y ddeialog slic a chyflym wrth i’r tair ymateb i’w gilydd yn y ddrama yma sy’n creu’r cymeriadau real hyn.

Mae’r mwyafrif o ddramâu Meic Povey wedi eu lleoli yn y gogledd, yn cynnwys Tair. Mae’r strwythur a rhythm ei ddeialog mor gryf a naturiol, a phe bai’r actorion yn colli gair neu bwyslais gallai newid yr ystyr. Serch bod acen a thafodiaith y tri chymeriad yn ogleddol, diddorol iawn i'w gweld sut mae’r acen wedi meddalu’n ysgafn o genhedlaeth i genhedlaeth. Trwy wneud hyn mae Meic yn llwyddo i gyfleu sut mae cymysgu diwylliannau ac iaith yn medru effeithio acen a thafodiaith mewn amser.

Llyfryddiaeth
Roberts, Gwenan a Baines, Menna (Gorffennaf/Awst 1998) Tair gan Meic Povey (Dalier Sylw) : Barn cyfrol:426/427.
Englad, Iwan. (1998) Adolygiad / Reviews (Dalier Sylw)