Gwladwriaeth les

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:23, 13 Mawrth 2023 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Welfare state)

Diffinnir gwladwriaeth les fel system lywodraethol sy’n amddiffyn lles ac iechyd ei dinasyddion drwy grantiau, pensiynau a mathau eraill o fudd-daliadau. Yn fyd-eang, mae gwladwriaethau lles wedi cael eu categoreiddio yn dri neu bum math gwahanol, ar sail gwaith Esping Andersen a’i Three Worlds of Welfare Capitalism (1990). Mae’r mathau a ddefnyddir yn fwyaf eang yn cynnwys gwladwriaethau rhyddfrydol, ceidwadol, democrataidd gymdeithasol, y Rhimyn Lladin (Latin Rim), Eingl-Sacsonaidd, Bismarcaidd a Sgandinafaidd (Bambra 2007).

Yn y Deyrnas Unedig sefydlwyd y wladwriaeth les fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd o dan y Blaid Lafur, oedd newydd gael ei hethol. Y symbyliad i’w sefydlu oedd ‘Adroddiad Beveridge’ (Social Insurance and Allied Services) ym 1942 a nododd bum problem enfawr cymdeithas a’r polisi cymdeithasol cyfatebol i’w datrys:

• eisiau (want) > Yswiriant Cymdeithasol

• afiechyd (disease) > Gwasanaeth Iechyd Gwladol

• anwybodaeth (ignorance) > addysg

• aflendid (squalor) > tai

• segurdod (idleness) > cyflogaeth lawn.

Roedd cyd-destun unigryw cymdeithas ar ôl y rhyfel, poblogrwydd gwaith Beveridge a buddugoliaeth annisgwyl Llafur ym 1945 yn drobwynt yn hanes polisi cymdeithasol, gan arwain at ffurfio’r wladwriaeth les. Roedd sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a’r cynllun Yswiriant Gwladol ym 1948, adeiladu mwy o dai cyngor, gwella yswiriant cymdeithasol a nawdd cymdeithasol i gyd yn ffurfio’r hyn a ddisgrifiwn fel y wladwriaeth les.

Fodd bynnag, newidiwyd y Wladwriaeth Les wreiddiol, oedd yn seiliedig ar egwyddorion cyflogaeth lawn a chyffredinoliaeth (universalism), yn ddramatig dri degawd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda thwf y Dde Newydd yn y Deyrnas Unedig o dan Margaret Thatcher. Pan etholwyd Thatcher yn Brif Weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Unedig, roedd ei buddugoliaeth yn rhan o ‘dwf’ llawer ehangach yn y Dde Newydd. Nodweddid hyn gan ei hymdrechion (llwyddiannus) i leihau dylanwad y wladwriaeth, rhoi pwyslais ar rôl fwy i’r sector preifat a’r sector gwirfoddol, cynnydd sylweddol mewn anghydraddoldeb ac, i lawer, diwedd y wladwriaeth les.

Heddiw rydym yn gweld fersiwn o’r GIG a Gofal Cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys llawer mwy o breifateiddio ochr yn ochr â systemau nawdd cymdeithasol cynyddol gaeth, gyda pholisi marchnad lafur ‘gwaith yn gyntaf’ a sancsiynau llym i atal hawlwyr. Daeth y system pensiynau cenedlaethol hefyd i ben dan Thatcher, drwy ‘death by a thousand cuts’ (Pierson 1994: 101). Ers yr 1980au mae plwraliaeth lles wedi cael ei hyrwyddo gan lywodraethau olynol y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â datgymalu fframweithiau craidd y wladwriaeth les.

Fodd bynnag, yn sgil datganoli ac ideolegau gwahanol y llywodraethau datganoledig (dan arweiniad y chwith i raddau helaeth gan yr SNP a Llafur Cymru), nid yw’r darlun hwn yn unffurf (Chaney a Wincott, 2014). Er enghraifft, gwnaed ymdrechion i wrthsefyll preifateiddio’r GIG yn yr Alban a Chymru. Cafwyd rhai gwahaniaethau polisi hefyd, er enghraifft presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai yng Nghymru. Yn 2021 datganolwyd rhannau helaeth o’r system nawdd cymdeithasol i’r Alban, yn ogystal â chyflwyno taliadau Credyd Cynhwysol a Thaliad Disgresiwn at Gostau Tai yn uniongyrchol i landlordiaid yr Alban. Mae gan yr Alban hefyd ei Chronfa Lles ei hun sydd yn cefnogi pobl mewn adegau o argyfwng, ac mae’n bwriadu lleihau’r amodau llym a roddir ar Gredyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Erbyn 2021, yng Nghymru, yr oedd elfennau o nawdd cymdeithasol wedi’u datganoli. Ond mae’r gwahaniaethau mwyaf nodedig ym maes Iechyd ac Addysg. Er mwyn dangos y gwahaniaethau o ran naratif a pholisi lles, byddwn yn canolbwyntio ar iechyd. Yn dilyn datganoli grym dros iechyd yn llawn i Lywodraeth Cymru, aildrefnodd y Llywodraeth y GIG yn sylweddol ac yn gyflym drwy ddileu’r model prynwr-cyflenwr ac uno ymddiriedolaethau gofal sylfaenol yn saith bwrdd iechyd lleol, yn gysylltiedig ag ysbytai prifysgol. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ddileu cyfresi cyfan o dargedau ar gyfer gwasanaethau mewn ysbytai, gan ryddhau staff meddygol rhag gorfod cyflawni tasgau gweinyddol. Yn wahanol i Loegr, nid rhoi dewis i gleifion yw’r ffocws yng Nghymru (a’r Alban), ac mae Llywodraethau Cymru a’r Alban yn ffafrio ymyrryd ar yr ochr gyflenwi, yn hytrach na newid yn ôl y galw gan gleifion.

Dyma un enghraifft ymhlith llawer lle mae systemau lles y gwledydd datganoledig yn gwahaniaethu fwyfwy oddi wrth wladwriaeth les rhyddfrydol y Deyrnas Unedig. Felly, er bod y wladwriaeth les yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol wedi crebachu, mae yna rai gwahaniaethau rhwng y llywodraethau gwahanol o ganlyniad i ddatganoli.

Sioned Pearce

Llyfryddiaeth

Bambra, C. (2007), ‘Going beyond: the three worlds of welfare capitalism: regime theory and public health research’, Journal of Epidemiology and Community Health, 61, 1098–1102.

Chaney, P. a Wincott, D. (2014), ‘Envisioning the third sector’s welfare role: critical discourse analysis of “post-devolution” public policy in the UK 1998–2012’, Social Policy and Administration 48(7), 757–81

Esping-Andersen, G. (1990), Three Worlds of Welfare Capitalism (Cambridge: Polity Press and Princeton, NJ: Princeton University Press).

Pierson, P. (1994), Dismantling the Welfare State? Reagan, Thatcher and the politics of retrenchment (Cambridge, Cambridge University Press).