Ymwybyddiaeth dorfol
(Saesneg: Collective consciousness)
Mae ymwybyddiaeth dorfol yn gysyniad a ddatblygwyd gan Émile Durkheim, cymdeithasegwr a aned yn Ffrainc ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datblygodd y cysyniad yn ei waith ar solidariaeth gymdeithasol. Yn ei lyfr The Division of Labour (De la division du travail social), disgrifiai Durkheim (1893/2014: 79) ymwybyddiaeth dorfol fel “[t]he totality of beliefs and sentiments common to average citizens of the same society [that] forms a determinate system which has its own life; one may call it the collective or common conscience”. Dadleuodd fod cymdeithasau traddodiadol wedi eu huno gan solidariaeth fecanyddol. Yn y cymdeithasau hyn mae’r ymwybyddiaeth dorfol yn gryf; mae tebygrwydd yn ffordd pobl o feddwl, yn enwedig o ran eu credoau a’u moesau. I’r gwrthwyneb, mae cymdeithasau modern yn tueddu i gael eu huno gan solidariaeth organig. Yn y cymdeithasau hyn ceir mwy o unigolyddiaeth ac amrywiaeth mewn credoau a gwerthoedd, ac mae’r ymwybyddiaeth dorfol felly’n wannach.
Rhian Barrance
Llyfryddiaeth
Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (New York: Free Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.