Dosbarth cymdeithasol
(Saesneg: Social class)
1. Cyflwyniad i ddosbarth cymdeithasol
Defnyddir y cysyniad o ddosbarth cymdeithasol gan wyddonwyr cymdeithas i gategoreiddio pobl yn grwpiau gwahanol ac er mwyn canfod patrymau o fewn cymdeithas. Yn aml, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, caiff unigolion eu grwpio yn dri chategori dosbarth cymdeithasol gwahanol: y dosbarth uchaf, y dosbarth canol a’r dosbarth gweithiol. Mae rhai wedi dadlau bod yna fwy na thri chategori gwahanol o ddosbarth cymdeithasol. Er enghraifft, mae meddylwyr y Dde Newydd, fel Murray (1996), yn dadlau bod yna dosbarth sy’n is na’r dosbarthiadau eraill, sef y tanddosbarth (underclass), dosbarth sy’n orddibynnol ar fudd-daliadau ac sydd wedi ei gau allan o weddill cymdeithas.
Mae hierarchaeth yn bodoli rhwng y gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol, gyda rhai dosbarthiadau’n cael eu gweld yn ‘uwch’ o’u cymharu ag eraill a rhai’n cael eu gweld yn ‘is’ o’u cymharu ag eraill. Haeniad cymdeithasol (social stratification) yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r hierarchaeth sy’n bodoli rhwng y gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol (Evans 2010). Mae’r cysyniad o ddosbarth cymdeithasol yn rhoi ymdeimlad i ni o’n safle mewn cymdeithas ac yn rhoi syniad i wyddonwyr cymdeithas o siâp cymdeithas, mewn geiriau eraill, beth yw fframwaith dosbarth (class structure) cymdeithas.
Mae yna nifer o ffyrdd o ddiffinio a mesur dosbarth cymdeithasol. Yn hanesyddol, dangosyddion economaidd fel swyddi, incwm a chyfoeth sydd wedi cael eu defnyddio er mwyn mesur dosbarth cymdeithasol. Un enghraifft o hyn yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (National Statistics Socio-economic Classification) sy’n categoreiddio unigolion yn ôl eu swyddi (gweler Swyddfa’r Ystadegau Gwladol 2022). Dangosydd arall sy’n cael ei ddefnyddio i fesur dosbarth cymdeithasol yw cymwysterau addysgol, fel gradd prifysgol (gweler Marks 2011). Mae gwyddonwyr cymdeithas hefyd wedi edrych ar fywyd cymdeithasol unigolion wrth geisio deall dosbarth cymdeithasol. Ar gyfer y British Class Survey, yn ogystal â mesuryddion economaidd ac addysg, edrychodd Savage et al (2013) ar agweddau cymdeithasol unigolion, er enghraifft eu rhwydweithiau cymdeithasol a’u chwaeth ddiwylliannol (cultural taste). Dylanwadwyd ar y diffiniadau uchod o ddosbarth cymdeithasol gan ddamcaniaethwyr sy’n gysylltiedig â gwyddorau cymdeithas, gan gynnwys Karl Marx, Max Weber a Pierre Bourdieu.
Fodd bynnag, ni ellir dibynnu ar fesuryddion gwrthrychol yn unig i ddiffinio dosbarth cymdeithasol. Mae angen ystyried elfen oddrychol dosbarth cymdeithasol hefyd ac edrych ar deimladau unigolion tuag at y dosbarth cymdeithasol maen nhw’n teimlo’u bod nhw’n perthyn iddo. Gall teimladau unigolion at eu dosbarth cymdeithasol fod yn wahanol i’r ffordd y maen nhw’n cael eu categoreiddio gan ddangosyddion gwrthrychol y dosbarth cymdeithasol (er enghraifft, gweler astudiaeth Charles et al (2008) o breswylwyr Abertawe).
Yn ogystal, fel y mae ffeministiaid amlhil fel Crenshaw (1991) yn pwysleisio, mae angen i ni hefyd gydnabod croestoriadedd (intersectionality) ac y gall dosbarth cymdeithasol gyfuno â nodweddion cymdeithasol eraill fel rhywedd, hil, ethnigrwydd, anabledd i effeithio ar ein bywydau. Felly, mae bywydau unigolion sydd yn yr un grŵp dosbarth cymdeithasol yn amrywio oherwydd effaith nodweddion cymdeithasol eraill.
Yn ddiweddar, mae rhai damcaniaethwyr wedi dadlau bod dosbarth cymdeithasol yn dod yn llai pwysig o ran hunaniaeth unigolion. Un o’r rhain yw Ulrich Beck (2007), damcaniaethwr sy’n gysylltiedig â modernedd diweddar (late modernity). Cred Beck (2007) fod llai o bobl yn teimlo fel petaen nhw’n perthyn i ddosbarth cymdeithasol arbennig yn sgil newidiadau cymdeithasol a newidiadau ym myd gwaith sydd wedi arwain at unigolyddu (individualisation). Golyga hynny fod unigolion yn gynyddol yn gorfod gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu bywydau. Damcaniaethwyr eraill sy’n teimlo bod dosbarth cymdeithasol yn dod yn llai perthnasol ym mywydau unigolion yw damcaniaethwyr ôl-fodernaidd fel Pakulski a Waters (1996). Gan ein bod ni’n byw mewn cymdeithas ôl-fodern sy’n seiliedig ar brynwriaeth (consumerism), mae’r hyn rydyn ni’n ei brynu, er enghraifft y dillad rydyn ni’n eu gwisgo a’r dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio, yn helpu i lywio ein hunaniaeth, yn hytrach na hen ffynonellau hunaniaeth, fel dosbarth cymdeithasol. Ond, fel mae Lodziak (2000) yn nodi, mae angen i ni barhau i gydnabod bod angen arian er mwyn gallu prynu nwyddau ac i gymryd rhan yn y diwylliant nwyddau traul (consumer culture).
2. Dosbarth cymdeithasol a Chymru
O ran dosbarth cymdeithasol a Chymru, mae Cynog Prys a Rhian Hodges yn trafod yr anghydraddoldebau sy’n bodoli yng Nghymru yn eu llyfr, Anghydraddoldebau Cymdeithasol (2021). Gallwch edrych ar ystadegau diweddar ar anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar ddosbarth cymdeithasol ar nifer o wefannau gwahanol, gan gynnwys gwefan StatsCymru Llywodraeth Cymru – https://statscymru.llyw.cymru/. Mae nifer o sefydliadau gwahanol, gan gynnwys Sefydliad Bevan – https://www.bevanfoundation.org/ – a WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru) – https://wiserd.ac.uk/cy/ – wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau’n seiliedig ar ymchwil sydd wedi edrych ar effaith dosbarth cymdeithasol ar fywydau unigolion yng Nghymru. Mae’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (Social Mobility Commission) – https://www.gov.uk/government/organisations/social-mobility-commission – hefyd wedi cyhoeddi adroddiadau’n archwilio’r cysyniad o symudedd cymdeithasol (social mobility) yng Nghymru, hynny yw, a yw pobl yno’n symud o un dosbarth cymdeithasol i ddosbarth cymdeithasol gwahanol. Yn ogystal, mae yna ddeunyddiau dysgu digidol ar ddosbarth cymdeithasol yng Nghymru wedi’u creu gan Siôn Jones (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Siôn Jones
Llyfryddiaeth
Beck, U. (2007), ‘Beyond class and nation: reframing social inequalities in a globalizing world’, The British Journal of Sociology 58(4), 679–705.
Charles, N., Davies, C., a Harris, C. (2008), Families in Transition: Social Change, Family Formation and Kin Relationships (Bristol: Policy Press).
Comisiwn Symudedd Cymdeithasol [Social Mobility Commission] (2022), Social Mobility Commission https://www.gov.uk/government/organisations/social-mobility-commission [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
Crenshaw, K. W. (1991), ‘Mapping the margins: intersectionality, identity politics, and violence against women of color’, Stanford Law Review, 43(6), 1241–99.
Evans, N. (2010), ‘Class’ yn: Mackay, H. (gol.), Contemporary Wales (Cardiff: University of Wales Press), tt. 125–57.
Jones, S. (2022), Dosbarth Cymdeithasol https://xerte.porth.ac.uk/xerte/play.php?template_id=600#page2 [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
Llywodraeth Cymru (2022), StatsCymru https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
Lodziak, C. (2000), ‘On explaining consumption’, Capital and Class, 72, 111–33.
Marks, G. (2011), ‘Issues in the conceptualisation and measurement of socioeconomic background: do different measures generate different conclusions?’ Social Indicators Research 104, 225–51.
Murray, C. (1996), ‘The emerging British underclass’ yn: Lister, R. (gol.), Charles Murray and the Underclass: The Developing Debate (London: IEA Health and Welfare Unit), tt. 23–57.
Pakulski, J. a Waters, M. (1996), ‘The reshaping and dissolution of social class in advanced society’, Theory and Society 25(5), 667–91.
Prys, C. a Hodges, R. (2021), Anghydraddoldeb Cymdeithasol https://adnoddau.s3.eu-west-2.amazonaws.com/PAAC/Anghydraddoldeb+Cymdeithasol.pdf [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].
Savage, M. et al (2013), ‘A new model of social class? Findings from the BBC’s Great British Class Survey Experiment’, Sociology 47(2), 219–50.
Sefydliad Bevan (2022), Sefydliad Bevan https://www.bevanfoundation.org/ [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru [WISERD] (2022), Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru [WISERD] https://wiserd.ac.uk/ [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
Swyddfa Ystadegau Gwladol (2022), The National Statistics Socio-economic Classification (NS-SEC) https://www.ons.gov.uk/methodology/classificationsandstandards/otherclassifications/thenationalstatisticssocioeconomicclassificationnssecrebasedonsoc2010 [Cyrchwyd: 23 Mehefin 2022].
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.