Statws
(Saesneg: Status)
Cysyniad a ddefnyddir i ddisgrifio safle unigolyn neu grŵp o bobl o fewn cymdeithas yw statws (Kantzara 2010). Cysylltir statws â chysyniadau fel rôl, dyletswyddau, hawliau a ffyrdd o fyw. Mae statws yn amrywio mewn cymdeithas, gyda rhai unigolion neu grwpiau o bobl â statws uwch nag unigolion a grwpiau eraill. Os oes gan unigolion neu grwpiau statws cymharol uchel, maen nhw’n debygol o gael mwy o barch a bri gan gymdeithas o’u cymharu ag unigolyn neu grwpiau sydd â statws cymharol isel.
Mae nifer o nodweddion cymdeithasol gwahanol yn gallu effeithio ar statws unigolyn, gan gynnwys dosbarth cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd ac oed. Rhaid cydnabod hefyd ei bod yn bosibl i statws unigolion mewn cymdeithas amrywio. Er enghraifft, mewn swyddi o’r un statws, dengys astudiaethau gan sefydliadau fel Chwarae Teg (2015) fod merched yn cael eu trin yn wahanol i ddynion.
Gallwn rannu statws yn ddau gategori: statws priodoledig (ascribed status) a statws cyflawnedig (achieved status). Yr anthropolegydd Ralph Linton (1936) a ddatblygodd y diffiniadau ar gyfer y categorïau hyn. Statws priodoledig yw’r statws rydyn ni un ai’n ei gael pan fyddwn yn cael ein geni neu statws sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Enghraifft o statws priodoledig yw ein hethnigrwydd. Statws cyflawnedig yw’r statws rydyn ni’n ei gael yn ystod ein bywydau, er enghraifft, y cymwysterau rydyn ni’n eu hennill neu’r swyddi rydyn ni’n eu cyflawni yn ystod ein bywydau. Weithiau, mae statws priodoledig a statws cyflawnedig yn gorgyffwrdd. Enghraifft o hyn yw dosbarth cymdeithasol. Mae dosbarth cymdeithasol yn cael ei weld yn statws priodoledig (ascribed status) ar gyfer plant gan mai eu rhieni/gofalwyr sydd â rheolaeth dros eu dosbarth cymdeithasol. Fel oedolion, mae gan unigolion reolaeth dros eu dosbarth cymdeithasol, er enghraifft, drwy gael swydd sy’n eu galluogi un ai i ddringo’r ysgol gymdeithasol a phrofi symudedd tuag i fyny (upward mobility) neu i fynd i lawr yr ysgol gymdeithasol a phrofi symudedd tuag i lawr (downward mobility).
Mae’r cysyniad o statws hefyd yn cael ei gysylltu â gwaith Max Weber (gweler Roberts 2015). Yn ogystal â dosbarth cymdeithasol a phlaid (party), dadleuodd Max Weber (1921/2019) fod statws hefyd yn ffactor arall sy’n cael effaith ar safleoedd unigolion mewn cymdeithas.
Siôn Jones
Llyfryddiaeth
Chwarae Teg (2015), A Woman’s Place: A Study of Women’s Roles in the Welsh Workforce https://www.cteg.org.uk/wp-content/uploads/2015/01/a-womans-place-full-report-1-2-DT.pdf [Cyrchwyd: 25 Mehefin 2021].
Kantzara, V. (2010), ‘Status’ yn: Ritzer, G. a Ryan, M. (goln), The Concise Encyclopedia of Sociology (Chichester: John Wiley and Sons), tt. 613–14.
Linton, R. (1936), The Study of Man: An Introduction (New York: Appleton-Century-Crofts).
Roberts, E. (1982/2015), Weber https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1459~4t~UWINjABK [Cyrchwyd: 24 Mehefin 2022].
Weber, M. (1921/2019), Economy and Society; cyfieithwyd gan Keith Burns (Cambridge, MA: Harvard University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.