Hawl mynediad
Oddi ar WICI
Mae gan berson awdurdodedig yr hawl i gael mynediad i dir/adeilad ["the right of entry"].
Gall hyn fod yn berthnasol mewn 3 sefyllfa.
a] Drwy gytundeb uniongyrchol neu ymhlyg. Er enghraifft mewn sefyllfaoedd lle mae’r brydles yn caniatáu i’r prydleswr i gael mynediad o bryd i’w gilydd i archwilio cyflwr atgyweirio.
b] Dan bwerau statudol. Er enghraifft hawl gan lywodraeth leol i archwilio dan Ddeddfau Tai ac Iechyd Cyhoeddus.
c] Cymryd a hawlio mynediad dan broses gorchymyn prynu gorfodol ar ôl cyflwyno rhagrybudd o fwriad mynediad.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Landlord and Tenant”, Mark Pawloski a James Brown, Blackstones, trydydd argraffiad, tudalennau 21, 162-3, 123, 134-35 a 317
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.