Adeiladwaith ceudod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y modd mwyaf poblogaidd o adeiladu waliau allanol erbyn hyn. Yr egwyddor yn fras yw creu toriad capilari i atal gwlybaniaeth rhag cyrraedd yr haen fewnol o’r wal. Yn ddiweddar mae problemau wedi eu hamlygu drwy’r defnydd o chwistrellu deunydd ynysu i’r ceudod sydd yn amharu ar y toriad ac sydd fel arfer yn arwain at leithder ar waliau mewnol. Rhaid gochel yn y broses o adeiladu nad yw sment yn llithro lawr y ceudod gan ganiatáu gwlybaniaeth i gael mynediad.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Construction Technology 1: House Construction”, Mike Riley ac Alison Cotgrave, Palgrave Macmillan, trydydd argraffiad, tudalennau 236-240



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.