Adraddu
(Saesneg: aggradation)
Ystyr hyn yw crynhoad net o ddyddodion sydd yn arwain at godi uchder gwely sianel neu arwyneb gorlifdir. Mae adraddu yn deillio o’r broses o ddyddodi, sydd yn cychwyn unwaith mae cyflymder y llif neu’r croesrym yn cwympo’n is na’r cyflymder setlo (settling velocity) ar gyfer y gronyn penodol dan sylw, sydd yn llai na’r hyn sydd fel arfer ei angen ar gyfer llusgludo’r gronyn yna. Mae cyflymder setlo yn perthyn yn agos at faint y gronyn, a dylai’r gronynnau mwyaf gael eu dyddodi yn gyntaf, ac yna eu dilyn gan y dyddodion manach yn eu tro.
Fel yn achos erydiad fertigol, mae nifer o dermau yn cael eu defnyddio wrth i dyddodion ymgasglu. Fel yn achos endorri, mae adraddiad yn cael ei ddefnyddio lle mae uchder gwely’r afon yn codi ar hyd cyfran sylweddol o’r afon. Defnyddir llenwi (fill) pan fo ardal fechan, leoledig o’r sianel yn codi mewn uchder (cymharer â sgwrio neu scour). Mae cytyfiant (accretion) fel arfer yn cyfeirio at ddyddodion mân yn ymgasglu ar wyneb gorlifdir neu far.
Mae nifer o ffactorau naturiol a dynol yn medru arwain at adraddu. Ar ôl i endorri ddigwydd o ganlyniad i gwymp yn y lefel sail (gw. endorri) bydd y deunydd sydd yn cael ei ryddhau gan y broses yma yn cael ei ddyddodi i lawr yr afon. Mae’r broses o adraddu yn arwain at leihad yng ngraddiant yr afon. Gall yr adraddu yma wedyn fudo i fyny’r afon ac wrth wneud, mae llai o ddeunydd yn cael ei gynhyrchu a’i gludo i lawr i’r hydoedd sy’n is i lawr yr afon. Bydd hyn yn golygu bod mwy o egni gan yr afon ar gyfer erydu yn yr hydoedd yna ac felly bydd cylchred newydd o erydiad yn cychwyn. Mae newidiadau mewn hinsawdd hefyd yn medru cychwyn cyfnodau o adraddu. Yn ystod cyfnodau oer a sych (er enghraifft cyfnodau yn dilyn cyfnodau rhewlifol) bydd llethrau basnau afon yn cael eu herydu o ganlyniad i’r ffaith nad oes yna lystyfiant yn medru tyfu arnynt a’u sefydlogi. O ganlyniad byddai llwythi mwy o ddyddodion yn cael eu cyflenwi i’r sianeli; byddai’r llwythi yma wedyn yn cael eu dyddodi ar welyau’r afonydd. Yn ystod cyfnodau gwlypach a chynhesach byddai llystyfiant yn tyfu ar y llethrau a’u sefydlogi, ac yn cyfyngu ar y cyflenwad o ddyddodion sydd yn cael eu mewnbynnu i’r system, gan arwain at endorri.
Bydd adeiladu argaeau hefyd yn arwain at adraddu i fyny’r afon o’r gronfa ei hun. Wrth i’r afon lifo i mewn i’r argae mae’n colli ei gallu i gludo ei llwyth gwely ac felly mae’r llwyth hwn yn cael ei ddyddodi ac mae adraddu yn digwydd. Mewn rhai achosion gall hyn fod yn lleoledig iawn ond mae’n bosib i don o adraddu fudo i fyny’r afon.
Gall newidiadau mewn defnydd tir hefyd arwain at adraddu. Yn ystod cyfnodau o ddatgoedwigo a newid defnydd tir i amaethyddiaeth mae cyfraddau uwch o erydiad pridd yn cyflenwi dyddodion mân i’r afon a byddant wedyn yn cael eu dyddodi ar welyau, barrau a gorlifdiroedd yr afonydd. Gwelwyd hyn yn glir mewn dyffrynnoedd yng nghanoldir Ewrop yn ystod cyfnod yr Oes Efydd hwyr a’r Cyfnod Rhufeinig.
Llyfryddiaeth
Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376tt.