Allcock, Maartin (g.1957)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cynhyrchydd recordiau a cherddor sesiwn sy’n hanu o Fanceinion. Mae’n canu’r gitâr, y gitâr fas, offerynnau amrywiol o deulu’r mandolin ac allweddellau. Martin Allcock oedd ei enw’n wreiddiol; mabwysiadodd sillafiad anghyffredin ei enw cyntaf yn 1978 yn dilyn awgrym gan y ffidlwr Eingl-Wyddelig Kevin Burke. Dechreuodd ei yrfa ym myd canu gwerin Lloegr ddiwedd yr 1970au pan fu’n teithio gyda’r canwr a’r digrifwr Mike Harding. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cogydd, dechreuodd deithio eto ddechrau’r 1980au fel aelod o’r Bully Wee Band, grŵp gwerin-roc o Loegr, a hefyd gyda’r canwr Gwyddelig Kieran Halpin.
Maartin Allcock â'r grŵp gwerin Swarb's Lazarus yn perfformio yng Ngŵyl Cropredy (2006).

Daeth i enwogrwydd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol pan ymunodd â’r grŵp gwerin-roc Seisnig Fairport Convention wrth iddynt ailffurfio yn 1985. Bu’n aelod o’r grŵp fel gitarydd blaen tan 1996, tra oedd hefyd yn chwarae’r allweddellau gyda’r grŵp roc Jethro Tull rhwng 1988 ac 1991. Ar ôl gadael Fairport Convention parhaodd i weithio fel cerddor sesiwn a chyda nifer o unawdwyr gwerin/acwstig o Loegr, gan gynnwys y ffidlwr Dave Swarbrick, y cantorion-gyfansoddwyr Ralph McTell ac Yusuf Islam (Cat Stevens gynt) a’r gantores o Unol Daleithiau America, Beth Nielsen Chapman. Yn ddiweddarach bu’n aelod o grwpiau eraill a fu’n boblogaidd yng nghlybiau a gwyliau gwerin y Derynas Unedig: Waz, The Bad Shepherds (gydag Adrian Edmondson) a Swarb’s Lazarus (gyda Dave Swarbrick).

Symudodd i ogledd Cymru yn 2000 gan ddysgu Cymraeg yng Ngholeg Harlech. Ers 2001 mae wedi bod yn gynhyrchydd ar nifer o artistiaid gwerin Cymreig ar label Sain, gan gynnwys y chwaraewr telyn teires Robin Huw Bowen, y grŵp offerynnol Crasdant, y delynores a’r gantores werin Gwenan Gibbard a’r gantores Heather Jones. Chwaraeodd rôl bwysig yn natblygiad y grŵp gwerin Cymreig ifanc Calan, gan gynhyrchu pob un o’u pedwar recordiad cyntaf.

Mae wedi rhyddhau tri chryno-ddisg unawdol ar ei label ei hun, yn ogystal â chyhoeddi trawsgrifiadau o gerddoriaeth ac alawon gan artistiaid gwerin Seisnig, megis Sandy Denny, Dave Swarbrick, Allan Taylor a Richard Thompson. Dylanwadau amrywiol iawn – gan gynnwys cerddoriaeth werin-roc a roc blaengar (progressive rock) yr 1970au a’r 1980au – sydd i’w clywed ar ei ddisgiau unawdol: defnyddir allweddellau, gitâr fas a drymiau ochr yn ochr ag offeryniaeth werinol acwstig. Fel cynhyrchydd, mae wedi gwneud cyfraniad pwysig i gerddoriaeth werin Gymreig yr 21g. trwy rannu’i brofiad o’r sîn werin Eingl-Geltaidd broffesiynol ac annog artistiaid gwerin Cymraeg i roi o’u gorau yn y stiwdio.

Stephen Powell Rees

Disgyddiaeth

Fel cynhyrchydd:

  • Robin Huw Bowen, Y Ffordd i Aberystwyth (Sain SCD2526, 2007)
  • Calan, Bling (Sain SCD2577, 2008)
  • ———, Jonah (Sain SCD2657, 2011)
  • ———, Giggly [EP] (Sain SCD2704, 2013)
  • ———, Dinas (Sain SCD2715, 2015)
  • Crasdant, Nos Sadwrn Bach (Sain SCD2306, 2001)
  • ———, Dwndwr (Sain SCD2487, 2005)
  • Gwenan Gibbard, Y Gwenith Gwynnaf (Sain SCD2504, 2006)
  • ———, Sidan Glas (Sain SCD2581, 2009)
  • ———, Cerdd Dannau (Sain SCD2702, 2013)
  • Heather Jones, Enaid (Sain SCD2442, 2006)

Recordiau unawdol:

  • OX15 (A New Day Records ANDCD38, 1999)
  • Serving Suggestion (Squiggle Records CD1, 2004)
  • Chilli Morning (Squiggle Records CD3, 2012)

Gwefan:



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.