Amddiffyniad lles y cyhoedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Public interest defence

Apêl gyfreithiol a wneir gan newyddiadurwyr i gyfiawnhau eu hadroddiadau ar y sail eu bod yn gwasanaethu buddiannau’r cyhoedd. Gall newyddiadurwyr a gyhuddir o ddatgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon (gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfrinachau swyddogol a chlustfeinio er enghraifft, neu embargos, preifatrwydd neu ddirmyg llys) bledio mewn llys gyfreithiol eu bod wedi gweithredu er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd yr oedd ganddynt hawl ddilys i’w gwybod, h.y. bod y wybodaeth o les i’r cyhoedd. Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng lles y cyhoedd a’r hyn a allai fod o ddiddordeb i’r cyhoedd.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.