Amddiffyniad lles y cyhoedd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:38, 14 Mehefin 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Public interest defence

Apêl gyfreithiol a wneir gan newyddiadurwyr i gyfiawnhau eu hadroddiadau ar y sail eu bod yn gwasanaethu buddiannau’r cyhoedd. Gall newyddiadurwyr a gyhuddir o ddatgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon (gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfrinachau swyddogol a chlustfeinio er enghraifft, neu waharddiadau, preifatrwydd neu ddirmyg llys) bledio mewn llys gyfreithiol eu bod wedi gweithredu er mwyn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd yr oedd ganddynt hawl ddilys i’w gwybod, h.y. bod y wybodaeth o les i’r cyhoedd. Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng lles y cyhoedd a’r hyn a allai fod o ddiddordeb i’r cyhoedd.