Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "ApIvor, Denis (1916-2004)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Haedda Denis ApIvor ei ystyried ymhlith cyfansoddwyr Cymru yn yr 20g. er iddo gael ei eni yn Iwerddon, gan fod ei fam a’i dad yn Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru a bu yntau’n astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n aelod o gerddorfa’r coleg o dan arweinyddiaeth [[David de Lloyd]] (1883–1948) (gw. [[Arweinyddion]]). Yna dilynodd gwrs meddygaeth yn Llundain gan ddod yn anesthetydd wrth ei alwedigaeth maes o law, ond cerddoriaeth oedd ei brif ddiddordeb. Roedd yn gymeriad lliwgar a daeth i adnabod yn dda gylch o gerddorion a oedd yn cynnwys cyfansoddwyr megis Alan Rawsthorne (1905–71) a Patrick Hadley (1899–1973) gan dderbyn gwersi cyfansoddi gan amryw ohonynt.
+
Haedda Denis ApIvor ei ystyried ymhlith cyfansoddwyr Cymru yn yr 20g. er iddo gael ei eni yn Iwerddon, gan fod ei fam a’i dad yn Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru a bu yntau’n astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n aelod o gerddorfa’r coleg o dan arweinyddiaeth [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] (1883–1948) (gw. [[Arweinydd, Arweinyddion | Arweinyddion]]). Yna dilynodd gwrs meddygaeth yn Llundain gan ddod yn anesthetydd wrth ei alwedigaeth maes o law, ond cerddoriaeth oedd ei brif ddiddordeb. Roedd yn gymeriad lliwgar a daeth i adnabod yn dda gylch o gerddorion a oedd yn cynnwys cyfansoddwyr megis Alan Rawsthorne (1905–71) a Patrick Hadley (1899–1973) gan dderbyn gwersi cyfansoddi gan amryw ohonynt.
  
 
Mae ei ddatblygiad fel cyfansoddwr yn debyg i eiddo nifer o gyfansoddwyr ei genhedlaeth, megis Elisabeth Lutyens (1906–83) a Humphrey Searle (1915–82) ymhlith eraill. Y duedd yw symud oddi wrth y gweithiau cynnar a gyfansoddwyd o dan ddylanwad Constant Lambert (1905–51), a fu’n gyfaill agos iddo, lle mae tonyddiaeth yn ganolog, tuag at gyfresiaeth yng ngweithiau’r 1950au hwyr ymlaen, gan ymlacio eto yn y gweithiau olaf. Un o’i weithiau cynnar pwysicaf yw ''The Hollow Men'' (1939), ei osodiad nodedig o gerdd T. S. Eliot o’r un enw. Roedd ei chwaeth mewn barddoniaeth yn aruchel a byddai’n ofalus wrth ddewis beirdd i’w gosod. Roedd hefyd yn ffrind agos i Dylan Thomas, Roy Campbell a Louis MacNeice. Oherwydd ei gysylltiad â Lambert, a oedd yn arwain y Bale Brenhinol yn gyson, cyfansoddodd nifer o weithiau ar gyfer dawns, megis ''A Mirror for Witches'' (1952) a ''Blood Wedding'' (1953), sy’n tystio i’w ddiddordeb mawr yng ngwaith y Sbaenwr Lorca a ddienyddiwyd gan luoedd Franco.
 
Mae ei ddatblygiad fel cyfansoddwr yn debyg i eiddo nifer o gyfansoddwyr ei genhedlaeth, megis Elisabeth Lutyens (1906–83) a Humphrey Searle (1915–82) ymhlith eraill. Y duedd yw symud oddi wrth y gweithiau cynnar a gyfansoddwyd o dan ddylanwad Constant Lambert (1905–51), a fu’n gyfaill agos iddo, lle mae tonyddiaeth yn ganolog, tuag at gyfresiaeth yng ngweithiau’r 1950au hwyr ymlaen, gan ymlacio eto yn y gweithiau olaf. Un o’i weithiau cynnar pwysicaf yw ''The Hollow Men'' (1939), ei osodiad nodedig o gerdd T. S. Eliot o’r un enw. Roedd ei chwaeth mewn barddoniaeth yn aruchel a byddai’n ofalus wrth ddewis beirdd i’w gosod. Roedd hefyd yn ffrind agos i Dylan Thomas, Roy Campbell a Louis MacNeice. Oherwydd ei gysylltiad â Lambert, a oedd yn arwain y Bale Brenhinol yn gyson, cyfansoddodd nifer o weithiau ar gyfer dawns, megis ''A Mirror for Witches'' (1952) a ''Blood Wedding'' (1953), sy’n tystio i’w ddiddordeb mawr yng ngwaith y Sbaenwr Lorca a ddienyddiwyd gan luoedd Franco.
Llinell 14: Llinell 14:
 
==Gwefannau==
 
==Gwefannau==
  
:https://www.welshicons.org.uk/html/denis_apivor.php
+
*''https://www.welshicons.org.uk/html/denis_apivor.php''
  
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Lyn Davies, ‘ApIvor, Denis’, ''New Grove Dictionary of Music and Musicians'', gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
+
*Lyn Davies, ‘ApIvor, Denis’, ''New Grove Dictionary of Music and Musicians'', gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:50, 25 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Haedda Denis ApIvor ei ystyried ymhlith cyfansoddwyr Cymru yn yr 20g. er iddo gael ei eni yn Iwerddon, gan fod ei fam a’i dad yn Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru a bu yntau’n astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n aelod o gerddorfa’r coleg o dan arweinyddiaeth David de Lloyd (1883–1948) (gw. Arweinyddion). Yna dilynodd gwrs meddygaeth yn Llundain gan ddod yn anesthetydd wrth ei alwedigaeth maes o law, ond cerddoriaeth oedd ei brif ddiddordeb. Roedd yn gymeriad lliwgar a daeth i adnabod yn dda gylch o gerddorion a oedd yn cynnwys cyfansoddwyr megis Alan Rawsthorne (1905–71) a Patrick Hadley (1899–1973) gan dderbyn gwersi cyfansoddi gan amryw ohonynt.

Mae ei ddatblygiad fel cyfansoddwr yn debyg i eiddo nifer o gyfansoddwyr ei genhedlaeth, megis Elisabeth Lutyens (1906–83) a Humphrey Searle (1915–82) ymhlith eraill. Y duedd yw symud oddi wrth y gweithiau cynnar a gyfansoddwyd o dan ddylanwad Constant Lambert (1905–51), a fu’n gyfaill agos iddo, lle mae tonyddiaeth yn ganolog, tuag at gyfresiaeth yng ngweithiau’r 1950au hwyr ymlaen, gan ymlacio eto yn y gweithiau olaf. Un o’i weithiau cynnar pwysicaf yw The Hollow Men (1939), ei osodiad nodedig o gerdd T. S. Eliot o’r un enw. Roedd ei chwaeth mewn barddoniaeth yn aruchel a byddai’n ofalus wrth ddewis beirdd i’w gosod. Roedd hefyd yn ffrind agos i Dylan Thomas, Roy Campbell a Louis MacNeice. Oherwydd ei gysylltiad â Lambert, a oedd yn arwain y Bale Brenhinol yn gyson, cyfansoddodd nifer o weithiau ar gyfer dawns, megis A Mirror for Witches (1952) a Blood Wedding (1953), sy’n tystio i’w ddiddordeb mawr yng ngwaith y Sbaenwr Lorca a ddienyddiwyd gan luoedd Franco.

Am gyfnod daeth o dan ddylanwad Edward Clark a’i wraig Elisabeth Lutyens ac erbyn tua 1960 roedd wedi llwyr feistroli elfennau cyfresiaeth. Mae hyn yn amlwg mewn gweithiau fel yr Amrywiadau i’r Gitâr (roedd y gitâr yn hoff offeryn ganddo) o 1959, Discanti (1970) a’r Serial Composition for Guitarists (1982). Roedd ei ddiddordeb yn sain y gitâr yn dyddio’n ôl i’w Concertino i’r offeryn a gyfansoddodd yn 1954. Nid yw ei opera Yerma (1959) wedi’i pherfformio ar lwyfan eto ond cafwyd darllediad gan y BBC o’r gwaith, sydd eto’n dangos dyled i Lorca. Roedd delweddau’r bardd yn gweddu i’r dim i’w weledigaeth gerddorol. Yn ystod ei holl yrfa cyfansoddodd bum symffoni, ynghyd â’r Concerto i’r Cello (1977), sy’n arddangos yr elfen delynegol yn ei waith ar ei gorau. Erbyn iddo gwblhau ei Bedwarawd Llinynnol Rhif 3 yn 1988 roedd ei ddefnydd o donyddiaeth yn gwneud llawer i liniaru’r elfennau cromatig a welwyd yn ei waith yn y blynyddoedd cyn hynny. Ei waith olaf oedd y scena operatig, The Trixter yn 2002, sydd eto’n tystio i’w hoffter o’r llwyfan.

Safai ApIvor y tu allan i brif ffrwd cerddoriaeth Brydeinig ac roedd amryw yn ei ystyried yn gymeriad lletchwith. Mae hynny’n esbonio rhywfaint ar y diffyg derbyniad i’w waith yn gyffredinol, ond ni ddylai ein hatal rhag edmygu crefftwaith glân, gweledigaeth rymus a neges gerddorol tryloyw ei weithiau gorau.

Lyn Davies

Gwefannau

Llyfryddiaeth

  • Lyn Davies, ‘ApIvor, Denis’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.