Apocryffa
Yn tarddu o’r gair Groeg άπόκρυφος (apocryffos) sy’n golygu ‘cuddiedig’, cyfeiria ‘apocryffa’ yn bennaf at y llyfrau hynny nad ydynt, er yn dwyn perthynas â llên yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Beibl Cristionogol, yn cael eu hystyried yn ‘ganonaidd’ neu yn awdurdodedig. Er bod gwahaniaeth barn rhwng yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwysi Uniongred ac yna yr eglwysi Protestannaidd ar statws y llyfrau hyn (gyda Chatholigiaeth ac Uniongrededd yn eu hystyried yn uwch eu gwerth), ceir cytundeb nad ydynt yn gyfwerth â llyfrau eraill y Beibl. Yn eu plith ceir 1 a 2 Esdras, Tobit, Judith, Doethineb Solomon, Ecclesiasticus a Baruch. Fe’u cynhwysir mewn rhai Beiblau rhwng yr Hen Destament a’r Newydd. Ceir hefyd lyfrau apocryffaidd o’r cyfnod wedi Crist, er enghraifft Efengyl Nicodemus, Efengyl Thomas ac Actau Andreas, sy’n dwyn olion Gnostigiaeth a chyfundrefnau esoterig eraill, ac o’r herwydd na chawsant erioed eu harddel fel Ysgrythur Sanctaidd. Mewn astudiaethau llenyddol, defnyddir y gair ‘apocryffa’ neu’r ansoddair ‘apocryffaidd’ i ddynodi unrhyw waith a dadogir, heb fawr dystiolaeth, ar fardd neu lenor arall, e.e. Apocryffa Dafydd ap Gwilym neu Apocryffa Siôn Cent.
D. Densil Morgan
Llyfryddiaeth
Rhagymadrodd (2008), Yr Apocryffa: Y Beibl Cymraeg Newydd (Llundain: Cymdeithas y Beibl).
Meredith, J. E. (1942), Hanes yr Apocryffa (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.