Apocryffa

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:05, 3 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Yn tarddu o’r gair Groeg άπόκρυφος (apocryffos) sy’n golygu ‘cuddiedig’, cyfeiria ‘apocryffa’ yn bennaf at y llyfrau hynny, sydd er yn dwyn perthynas â llên yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Beibl Cristionogol, nad ydynt yn cael eu hystyried yn ‘ganonaidd’ neu yn awdurdodedig. Er bod gwahaniaeth barn rhwng yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Eglwysi Uniongred ac yna yr eglwysi Protestannaidd ar statws y llyfrau hyn (gyda Chatholigiaeth ac Uniongrededd yn eu hystyried yn uwch eu gwerth), ceir cytundeb nad ydynt yn gyfwerth â llyfrau eraill y Beibl. Yn eu plith ceir 1 a 2 Esdras, Tobit, Judith, Doethineb Solomon, Ecclesiasticus a Baruch. Fe’u cynhwysir mewn rhai Beiblau rhwng yr Hen Destament a’r Newydd. Ceir hefyd lyfrau apocryffaidd o’r cyfnod wedi Crist, er enghraifft Efengyl Nicodemus, Efengyl Thomas ac Actau Andreas, sy’n dwyn olion Gnosticiaeth a chyfundrefnau esoterig eraill, ac o’r herwydd na chawsant erioed eu harddel fel Ysgrythur Sanctaidd. Mewn astudiaethau llenyddol, defnyddir y gair ‘apocryffa’ neu’r ansoddair ‘apocryffaidd’ i ddynodi unrhyw waith a dadogir, heb fawr dystiolaeth, ar fardd neu lenor arall, e.e. Apocryffa Dafydd ap Gwilym neu Apocryffa Siôn Cent.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Rhagymadrodd (2008), Yr Apocryffa: Y Beibl Cymraeg Newydd (Llundain: Cymdeithas y Beibl).

Meredith, J. E. (1942), Hanes yr Apocryffa (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.