Apologia

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair Groeg yw apologia, yn deillio o apologos, sef ‘stori’. Er mwyn i destun gael ei ystyried yn apologia, mae’n rhaid iddo gynnwys elfen o amddiffyniad, naill ai o ymddygiad neu o gred yr awdur. Gall hyn fod yn amddiffyniad yn erbyn beirniadaeth go iawn, neu yn erbyn beirniadaeth a grëwyd gan yr awdur ei hun er mwyn dadlau ei achos. Defnyddir apologia yn aml er mwyn cryfhau safbwynt aelodau’r grŵp sydd o dan ymosodiad, a gall hyn gyfrannu yn ei dro at hunaniaeth a hunan-ddiffiniad y grŵp. Un o’r apologiâu cyntaf i oroesi yw Amddiffyniad Socrates, lle mae’r athronydd yn amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiadau o anffyddiaeth. Fe’i cyfieithwyd i’r Gymraeg yn 1936 gan D. Emrys Evans.

Blodeuodd y genre yn ystod ail ganrif Oes Crist, pan ysgrifennwyd nifer fawr o apologiâu’n dadlau achos Cristnogaeth uniongred yn erbyn ymosodiadau awduron paganaidd ar y naill law, ac yn diffinio uniongrededd yn erbyn heresïau ar y llaw arall. Yn bur aml, cyflwynwyd y rhain i’r awdurdodau Rhufeinig, mewn ymgais i’w sicrhau nad oedd y grefydd newydd yn fygythiad i’r Ymerodraeth er nad oedd ei harddelwyr yn fodlon cydnabod bodolaeth ei duwiau.

Y Diwygiad a’r Gwrthddiwygiad a welai’r apologia yn ailflodeuo fel genre, oherwydd diffinio ac amddiffyn credoau Protestaniaeth a Chatholigiaeth ill dwy’n erbyn eu gwrthwynebwyr. Ysgrifennwyd sawl apologia yn Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn, ac yn unol â’u rhagflaenwyr clasurol maent yn targedu’r sawl ar eu hochr hwy o’r ddadl y tybir eu bod yn anwadal gymaint ag y maent yn ceisio dwyn perswâd ar eu gwrthwynebwyr. Ymysg yr apologiâu Protestannaidd ceir Epistol at y Cembru Richard Davies sy'n rhagflaenu’r cyfieithiad o’r Testament Newydd (1567), a’r cyfieithiadau Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr Maurice Kyffin (1595) a Perl mewn Adfyd Huw Lewys (1595). Apologiâu amlyca’r Catholigion yw Na all fod un Ffydd onyd yr Hen Ffydd (1574) a Coelio’r Saint (1590), y ddau’n eiddo i Robert Gwyn o Benyberth.

Gellir ystyried rhai llyfrau cyfoes yn apologiâu, megis cyfrol Euros Bowen Trin Cerddi (1978), sy’n ymateb gan Bowen i gyfrol gan Alan Llwyd yn dehongli ei gerddi.

James January-McCann

Llyfryddiaeth

Jacobsen, A. (2009), ‘Apologetics and Apologies - Some Definitions’, yn Ulrich, J., Jacobsen, A., a Kahlos, M. (goln), Continuity and Discontinuity in Early Christain Apologetics (Frankfurt: Lang), tt. 5-21.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.