Arbenigwr annibynol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Unigolyn sy’n meddu ar wybodaeth a sgiliau arbenigol sydd wedi ei benodi er datrys anghydfod rhwng partïon.

Er enghraifft, wrth bennu rhent yn unol â chymal ail osod rhent mewn prydles neu ddehongliad ar gymal o fewn prydles. Gall ddefnyddio, yn ogystal â’i wybodaeth arbenigol, unrhyw dystiolaeth a roir gerbron iddo.

Noder fod hyn yn wahanol i rôl cyflafareddwr lle mae’n gyfyngedig dim ond i’r hyn a roir gerbron iddo. Bydd ei benderfyniad yn ddiwedd ar y mater ac yn rhwymo’r partïon.

Gall unrhyw barti fodd bynnag ddwyn achos yn ei erbyn a herio’r dyfarniad os yw ei benderfyniad yn amlwg yn esgeulus.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Property Asset Management, Douglas Scarrett, Routledge, trydydd argraffiad, tudalennau 172 a 177



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.