Asiantaeth newyddion

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: News agency/agencies hefyd Wires

Cwmni sy’n darparu gwybodaeth i danysgrifwyr, yn bennaf papurau newydd, cylchgronau, cwmnïau darlledu neu endid preifat neu chyhoeddus, i’w defnyddio fel newyddion.

Yn gwasanaethu cleientiaid mewn ardal leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol, mae asiantaethau newyddion – a elwir hefyd yn asiantaethau’r wasg, gwasanaethau newyddion, cymdeithasau’r wasg a gwasanaethau gwifren (Wires) – yn gwerthu newyddion a gwybodaeth arall ar sail barhaus a rheolaidd. Mae’r rhan fwyaf o asiantaethau newyddion yn dod i gytundeb cytundebol gyda’r cyfryngau newyddion, yn ogystal â chorfforaethau preifat a chyhoeddus, unigolion a sefydliadau, er mwyn darparu ffrwd wybodaeth o newyddion caled a newyddion meddal o leoliadau penodol. Mae asiantaethau newyddion nid yn unig yn casglu gwybodaeth drwy eu timau o newyddiadurwyr, maen nhw hefyd yn defnyddio pobl lawrydd a newyddiadurwyr ar gytundeb.

Roedd asiantaethau newyddion cynnar y 1800au yn defnyddio colomennod, ac yna’r telegraff, i drosglwyddo’r adroddiadau. Yr oedd hyn yn creu ffurf newydd o brosesu gwybodaeth a oedd yn cael ei rhannu er mwyn galluogi papurau newydd i dderbyn adroddiadau o ardal ddaearyddol ehangach na’r hyn y gallent ei chasglu ar eu liwt eu hunain.

Mae gwybodaeth heddiw yn cael ei drosglwyddo’n fyd-eang i’r sgrîn gyfrifiadur trwy loeren, cebl a’r rhyngrwyd. Roedd yr asiantaethau newyddion cynnar mwyaf yn cynnwys United Press International (UPI) a’r Associated Press (AP) yn Unol Daleithiau'r America (UDA), Reuters o Brydain, a’r Agence France-Presse (AFP) o Ffrainc. Roedd teimlad bod yr asiantaethau hyn wedi llwyddo i osod naws Orllewinol ar y broses o rannu gwybodaeth.

Wedi dweud hynny, cafodd yr asiantaethau eu trawsnewid yn gyson yn dilyn tensiynau cystadleuol cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang. Pen draw hyn yw i wahanol fathau o endidau ddod yn fwy perthnasol ar wahanol adegau (Boyd-Barrett a Rantanen 1999). Er enghraifft, sefydlwyd y Deutsche-Presse Agentur (dpa) yn yr Almaen ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac erbyn heddiw, hon yw’r asiantaeth newyddion y cyfeirir ati fwyaf aml mewn llawer o ranbarthau.

Yn y 1990au, gwnaeth Reuters addasu o fod yn asiantaeth newyddion fyd-eang i fod yn asiantaeth sy’n arbenigo mewn newyddion ariannol, ac o ganlyniad, crëwyd cystadleuaeth newydd yn erbyn asiantaethau newyddion ariannol eraill, fel Bloomberg News yn UDA. Ac yn olaf, mae pyrth cyd-gasglwyr newyddion (news aggregators) a pheiriannau chwilio (megis Google News a Yahoo! News) wedi creu llwybrau amgen i rannu gwybodaeth sy’n osgoi’r asiantaethau newyddion yn gyfan gwbl.

Dechreuodd yr asiantaethau newyddion fel gwasanaethau testun yn unig, ond gwnaethant ehangu yn y 1930au hwyr i ddarparu lluniau hefyd – ‘wirephoto’, gan gynnig y cyfle am y tro cyntaf i drosglwyddo delweddau o ddigwyddiadau mewn mannau pell wrth iddyn nhw ddatblygu.

Cynorthwyodd y datblygiad hwn y broses o atgyfnerthu ffoto-newyddiaduraeth fel rhan o newyddion dyddiol, a daeth ffotograffiaeth yn arbennig o gyffredin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gychwynnodd asiantaethau fel Associated Press Photos" ac "Acme Pictures" ddarparu lluniau o frwydrau i bedwar ban byd. Dechreuodd Visnews a Worldwide Television News (WTN), y ddau bellach wedi cau, osod y ffordd i rannu gwybodaeth weledol. Heddiw, fe’u cyflenwir yn bennaf gan Reuters Television a’r Associated Press Television News (APTN). Maen nhw’n bodoli ochr yn ochr â chwmnïau newyddion teledu sy’n canolbwyntio’n fwy ar fanwerthu fel CNN, MSNBC, ITN a Sky Television. Mae’r asiantaethau hynny sy’n gwasanaethu mwy nag un cyfrwng gwybodaeth yn dueddol o rannu’r cynhyrchiad ar draws adrannau, fel bod testun, llun a fideo yn parhau i gael eu cynhyrchu ar wahân.

Er i lawer ddisgwyl i’r asiantaethau newydd fynd â’u pen iddynt gyda chynnydd y rhyngrwyd, maen nhw wedi cael ail wynt, gan ddangos gallu arbennig i addasu i gynghreiriau daearyddol a thechnegau technolegol pwysig. Heddiw, mae gan y rhan fwyaf o asiantaethau tua 200 o ganolfannau ar draws y byd, lle y caiff deunydd ei gasglu a’i anfon i’r brif swyddfa (fel arfer yn Llundain neu Efrog Newydd) ar gyfer prosesu a dosbarthu ledled y byd.

Mae rhai o’r farn bod y newyddion a gynhyrchir gan asiantaethau newyddion yn tueddu i fod yn ddiflas, heb fod yn fentrus, yn unffurf ac yn rhagweladwy. Ond yn ardaloedd mwyaf cythryblus y byd, neu pan fydd trychineb yn digwydd, mae’r asiantaethau newyddion yn parhau i fod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â storïau y mae’r cyfryngau newyddion eraill yn eu colli, a nhw sy’n parhau i fod gyntaf i dorri newyddion pwysig.

Llyfryddiaeth

Boyd-Barrett, O. a Rantanen, T. gol. 1999. The Globalization of News. London: Sage.