Atodlen Dadfeiliadau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Rhestr gynhwysfawr o anghenion adfer/cynnal a chadw y mae tenant [neu landlord] yn ymrwymedig i gwblhau yn unol â chyfamodau prydles neu ddogfen tenantiaeth tir ac eiddo. Gall y ddogfen fod mewn ffurf dros dro, sef atodlen dadfeiliadau interim [interim schedule of dilapidations] lle mae’r rhestr wedi ei darparu a’i chyflwyno yn ystod cyfnod y brydles/tenantiaeth neu fel atodlen dadfeiliadau terfynol [terminal schedule of dilapidations] pan fo’r brydles wedi dod i ben.

Yng nghyd-destun yr atodlen derfynol, mae’r tenant yn cael ei ryddhau o’r oblygiad drwy wneud taliad ariannol yn seiliedig ar amcangyfrif cost yr atgyweiriadau perthnasol neu, fel arall [os yn berthnasol] unrhyw ostyngiad yng ngwerth buddiant y landlord o ganlyniad i’r diffygion.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Landlord and Tenant”, Mark Pawlowski and James Brown 2004, Blackwell Publishing, trydydd argraffiad, tudalennau 104-136



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.