Bil priodweddau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dogfen a ddarperir fel arfer gan syrfëwr meintiau sy’n disgrifio, yn nhermau cost, y cyflenwad angenrheidiol o lafur [oriau], offer adeiladu, adnoddau adeiladu a fydd angen er mwyn cwblhau prosiect adeiladu neu beirianyddol.

Hefyd yr amgylchiadau cytundebol a fydd yn rheoli cyflawni'r gwaith. Fe’i defnyddir fel canllaw i benderfynu os am gynnig tendr ai peidio, ac yn sail i ddogfennau cytundebol.

Mae’r ddogfen yn sail i benderfynu cost adeiladu cyn unrhyw newid yn y dyluniad, costau newidiadau a’r gost derfynol. Wrth ddarparu'r ddogfen, defnyddir rheolau mesur a gyhoeddir gan RICS [SBS].


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Property Development, Sara Wilkinson a David Cadman, Routledge, pumed argraffiad, tudalennau 206,207,210 a 220



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.