Bragod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Deuawd a ffurfiwyd yn 1999 gan Robert Evans (crwth, lyra a llais) a Mary-Anne Roberts (llais); ystyr ‘bragod’ yw diod a geir wrth eplesu cwrw â mêl neu berlysiau. Magwyd Robert Evans yng ngogledd Ceredigion; dechreuodd astudio cerddoriaeth ganoloesol Gymreig ynghanol yr 1970au, a datblygodd yrfa fel gwneuthurwr telynau hanesyddol. Mae Mary-Anne Roberts yn hanu o Drinidad a Thobago, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nhraddodiadau carnifal Trinidad. Bu’r ddau hefyd yn aelodau o’r grŵp Lyrae Cambrenses gyda William Taylor, arbenigwr ar ganu’r delyn hanesyddol.

Prif nod Bragod yw perfformio cerddoriaeth Gymreig a barddoniaeth Gymraeg o’r cyfnod cyn c.1600, gan ailgyfuno traddodiadau cerdd dafod a cherdd dant. Yn ogystal â defnyddio cyrchddull hanesyddol i archwilio cerddoriaeth a barddoniaeth y cyfnod, mae Robert Evans wedi datblygu technegau crwth a lyra ar sail ysgrifau hynafol o Gymru ac Ewrop. Daw seiliau iaith gerddorol y grŵp yn bennaf o’r gerddoriaeth a nodir yn llawysgrif telyn Robert ap Huw (c.1580–1665). Cofnodwyd y gerddoriaeth ar ffurf tablun tua 1613 ond mae’n adlewyrchu traddodiad barddol hŷn. Cynhwysa gorff o gerddoriaeth telyn sy’n unigryw yn Ewrop, ac mae’n cyfateb i draethodau canoloesol Cymraeg sy’n disgrifio Pedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dant. Mae Robert Evans wedi addasu cerddoriaeth telyn llawysgrif Robert ap Huw er mwyn ei chanu ar y crwth, yn ogystal â chreu cerddoriaeth newydd ar sail y mesurau, y cyweiriau (h.y. y tiwniadau moddau) a’r addurniadau a nodir ynddi.

Mae sain y crwth yn gyfoethog mewn harmonigau, yn enwedig pan y’i cenir mewn tonyddiaeth hanesyddol. Mewn ymateb i ddisgrifiad Seisnig o’r 16g. sy’n cymharu llais Cymro gyda’i delyn i suo gwenynen (‘the hussyng of a homble be’), datblygodd Mary-Anne Roberts sain llais unigryw er mwyn pwysleisio’r cyseiniannau a geir wrth i’r crwth a’r llais gydseinio.

Yn ogystal ag ymchwilio a pherfformio’n fyw, mae Bragod wedi rhyddhau tri chryno-ddisg. Mae’r ddau gyntaf yn cynnwys cymysgedd o eitemau amrywiol: caneuon traddodiadol Cymraeg ochr yn ochr ag alawon poblogaidd o’r 16g., cân Nadolig o Drinidad a gosodiadau o’r Hengerdd. Yn fwyaf diweddar aethpwyd ati i ddehongli cerddi hirach. Ar Kaingk (BRA, 2004), ceir perfformiad o ‘Ystorya Trystan’, cerdd Arthuraidd sy’n dyddio’n rhannol o’r 12g. ac yn rhannol o’r 14–15g. Ar gyfer hon, cyfansoddwyd alaw newydd syml uwchben amrywiad ar y mesur cerdd dant makymwn hir. Perfformiadau estynedig o gerddi canoloesol yn unig a geir ar Llatai (BRA, 2013), eu trydydd cryno-ddisg: gosodiadau o ddwy gerdd gan Dafydd ap Gwilym (‘Yr Wylan’ ac ‘Offeren y Llwyn’) ac ‘Ymddiddan Arthur a’r Eryr’, cerdd hir anhysbys o’r 12g.

I’r rhan fwyaf o grwpiau sy’n perfformio cerddoriaeth orllewinol o’r cyfnodau cynnar, mae’r testun cerddorol gan amlaf yn orffenedig ac wedi’i nodi’n gyfan. Ond ar wahân i gynnwys llawysgrif Robert ap Huw, cymharol brin yw’r deunydd cerddorol cynhenid Gymreig y gellir ei briodoli i’r cyfnod cyn 1600. Felly er mwyn perfformio cerddoriaeth Gymreig o’r Oesoedd Canol, mae aelodau Bragod yn creu rhannau sylweddol o’u deunydd cerddorol o’r newydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth ganoloesol frodorol fel sail, a damcaniaeth gerddorol Gymreig ac Ewropeaidd fel canllawiau. Wrth gyfuno cerdd dant a cherdd dafod, ail-greu technegau offerynnol a datblygu byd sain amgen trwy ddefnydd heriol o’r llais, mae Bragod felly’n cyfuno cyrchddull hanesyddol gydag agweddau arbrofol.

Stephen Powell Rees

Disgyddiaeth

  • Welsh Music and Poetry from the 14th to the 18th Century (BRA 001, 2001)
  • Kaingk: Medieval and Later Welsh Music and Poetry (BRA 002, 2004)
  • Llatai (BRA 003, 2013)

Gwefan



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.