Ceidwadaeth awdurdodaidd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Authoritarian Conservatism)

Er bod awdurdod yn thema bwysig i bob Ceidwadwr, mae’r arwyddocâd a briodolir iddo yn medru amrywio. Yn nhyb un garfan – y Ceidwadwyr Awdurdodaidd – dylai cred ym mhwysigrwydd awdurdod arwain at barodrwydd i arddel trefniadau llywodraethol awtocrataidd; hynny yw, trefniadau llywodraethol sydd ddim yn ddibynnol ar gydsyniad y bobl ac sy’n ymddiried grym i un person neu gorff ar sail ei ddoethineb, gallu a chywirdeb. Yn sgil hyn, mae awdurdodaeth yn gysyniad gwbl gyferbyniol i ddemocratiaeth. Mae ffydd yn nilysrwydd y dull hwn o lywodraethu yn deillio o gred ym mhwysigrwydd trefn a’r dybiaeth na ellir ond sicrhau cydymffurfiaeth y boblogaeth trwy warantu bod grym gwleidyddol yn cael ei gronni mewn un man canolog. Roedd y ffrwd benodol hon o Geidwadaeth yn un a brofodd yn ddylanwadol, yn enwedig ar dir mawr Ewrop, trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, mewn rhai mannau, bu i’w dylanwad barhau i mewn i ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Un meddyliwr gwleidyddol a gaiff ei gysylltu â Cheidwadaeth Awdurdodaidd yw’r Ffrancwr, Joseph de Maistre (1753-1821). Fel Edmund Burke (1790/2003), roedd de Maistre yn feirniad hallt o ddigwyddiadau’r Chwyldro yn Ffrainc. Fodd bynnag, yn wahanol i Burke, roedd de Maistre am adfer y drefn frenhinol hollbwerus a fodolai cyn y Chwyldro, a hynny heb unrhyw ddiwygiadau er mwyn gwneud y drefn honno yn fwy derbyniol i drwch y boblogaeth. Ymhelaethodd de Maistre (1819/1975) ar y dadleuon hyn yn ei gyfrol Du Pape (The Pope) sy’n cynnig amddiffyniad o drefn hierarchaidd yr Eglwys Gatholig gyda’r Pab yn ben trwy ordinhad Duw. Yn yr un gyfrol, mae de Maistre (1819/1975) hefyd yn mynnu bod chwyldro, neu hyd yn oed newid gwleidyddol graddol ac organig, yn annerbyniol.

Gwelwyd Ceidwadwyr yn arddel rhinweddau awtocratiaeth mewn sawl rhan arall o Ewrop hefyd. Yn Rwsia, bu i’r Tsar Nicolas 1af (1796-1855) ymwrthod yn llwyr â gwerthoedd blaengar Chwyldro Ffrainc – rhyddid, cydraddoldeb a brawdgarwch – a bu i’w olynwyr wneud pob ymdrech i atal camau i gyfyngu ar eu statws unbenaethol (Cannady a Kubicek 2014). Yn ogystal, er yr awgrym o ymddangosiad o ddatblygiad cyfansoddiadol yn yr Almaen, fe sicrhaodd Bismarck yn ystod yr 1870au mai rheolaeth o natur awtocratig fu ar waith yno mewn gwirionedd (gweler Lerman 2013). Yn hwyrach yn ystod yr ugeinfed ganrif, gwelwyd elitau Ceidwadol yn yr Almaen, a hefyd yn yr Eidal a Sbaen, yn gweithio i danseilio democratiaeth seneddol, gan yn hytrach hwyluso dod ag unbenaethau Ffasgaidd i bŵer (Morgan 2003). Yn wir, wrth ystyried Ceidwadaeth Awdurdodaidd, mae’n bwysig nodi’r gorgyffwrdd a geir ar brydiau â syniadau Ffasgaidd.

Ar fwy nag un achlysur, mae Ceidwadwyr o anian awdurdodaidd hefyd wedi ceisio harneisio cefnogaeth werinol i hybu eu hachos. Llwyddwyd i wneud hyn hyd yn oed yn Ffrainc ei hun, pan lwyddodd Louis Napoleon i ennill cefnogaeth etholiadol trwy blethu awdurdodaeth ag addewid o ffyniant economaidd, cam a’i galluogodd, maes o law, i benodi ei hun yn Ymerawdwr (Price 1997). Tebyg hefyd, ond yn fwy diweddar, fu apêl y traddodiad Peronistaidd yn yr Ariannin rhwng 1946 a 1955 (gweler Romero 2002). Mudiad poblyddol oedd hwn a lwyddodd i sicrhau cefnogaeth o blith y werin dlawd, ond ar sail rhaglen wleidyddol a bwysleisiai ufudd-dod, trefn, ac undod cenedlaethol. Gellir gweld elfennau o’r traddodiad hwn yn parhau mewn rhai rhannau o’r byd heddiw, megis yn y Dwyrain Canol (MacQueen 2018) a rhai o wledydd Affrica (Volpi 2017), ond heb y cysylltiadau mwy ‘Ffasgaidd’ Ewropeaidd.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Burke, E. (1790/2003), ‘Reflections on the Revolution in France’, yn Turner, F. (gol.) Reflections on the Revolution in France. (New Haven: Yale University Press), tt. 3-211

Cannady, S. a Kubicek, P. (2014). ‘Nationalism and legitimation for authoritarianism: A comparison of Nicholas I and Vladimir Putin’. Journal of Eurasian Studies, 5, tt. 1–9

de Maistre, J. (1819/1975) Du Pape (The Pope). Cyfieithwyd gan y Parchedig Aeneas Mc. D. Dawson. (New York: Howard Fertig)

Lerman, K. (2013). Bismarck. (Abindgon: Routledge).

MacQueen, B. (2018). Introduction to Middle East Politics. 2il argraffiad. (London: SAGE)

Morgan, P. (2003). Fascism in Europe: 1919-1945. (London: Routledge).

Price, R. (1997). Napoleon III and the Second Empire. (London: Routledge).

Romero, L. (2002). A History of Argentina in the Twentieth Century. (University Park, Pa: Pennsylvania State University Press)

Volpi, F. (2017). Revolution and Authoritarianism in North Africa. (New York: Oxford University Press)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.