Cenedlaetholdeb ceidwadol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Conservative Nationalism)

Cyflwyno Cenedlaetholdeb Ceidwadol

Er bod cenedlaetholdeb a rhyddfrydiaeth wedi datblygu perthynas agos yn gynnar yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tueddai ceidwadaeth y cyfnod i ystyried cenedlaetholdeb fel grym peryglus a oedd yn meddu ar y potensial i danseilio trefn a sefydlogrwydd cymdeithasol. Fodd bynnag, yn hwyrach yn ystod y ganrif, gwelwyd ceidwadwyr yn magu agwedd fwy ffafriol tuag at genedlaetholdeb ac yn sgil hynny gwelwyd ffurf ar genedlaetholdeb ceidwadol yn datblygu (gweler Holbraad 2003).

Un ffactor a barodd i wleidyddion ceidwadol y cyfnod, megis Benjamin Disraeli ym Mhrydain (gweler Ković 2010) ac Otto van Bismarck yn yr Almaen (gweler Lerman 2013), roi mwy o sylw i syniadau cenedlaetholgar oedd y gred y gellid manteisio ar ei bwyslais ar fodolaeth cwlwm cenedlaethol sy’n uno aelodau’r genedl. Tybiwyd y gellid defnyddio syniadau o’r fath er mwyn hwyluso ymdrechion ceidwadwyr i gynnal undod a sefydlogrwydd cymdeithasol ac amddiffyn sefydliadau traddodiadol.

Gwelwyd tactegau tebyg yn cael eu harddel gan geidwadwyr mwy cyfoes hefyd. Er enghraifft, roedd gogwydd cenedlaetholgar amlwg i wleidyddiaeth Charles De Gaulle (er enghraifft De Gaulle 1965), arlywydd ceidwadol Ffrainc rhwng 1959 a 1969. I raddau helaeth, gellir dehongli agenda wleidyddol Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, fel un oedd hefyd yn meddu ar ogwydd cenedlaetholgar cryf (gweler Heath, Jowell a Curtice 2001).

O ystyried y pwyslais y mae cenedlaetholwyr ceidwadol eu natur yn tueddu i’w roi ar drefn, undod a sefydlogrwydd cenedlaethol, nid yw’n syndod fod y ffurf hon ar genedlaetholdeb wedi tueddu i gael ei mynegi mewn modd arbennig o echblyg ar adegau pan dybir fod y genedl a’i hunaniaeth yn cael eu bygwth.

Er enghraifft, fel rhan o’u hymgais i wrthwynebu’r broses o integreiddio Ewropeaidd, gwelwyd nifer o wleidyddion adain dde o bob rhan o’r cyfandir yn dadlau bod datblygiad trefniadau llywodraethol ‘uwchgenedlaethol’ yn peryglu sofraniaeth genedlaethol a hefyd yn tanseilio pob math o sefydliadau cenedlaethol traddodiadol. Wrth gwrs, fe welwyd hyn ar ei fwyaf amlwg ym Mhrydain ymhlith aelodau’r Blaid Geidwadol ac UKIP. Fodd bynnag bu’n nodwedd o ddadleuon gwleidyddion ceidwadol eraill hefyd, er enghraifft aelodau pleidiau’r Ffrynt Genedlaethol yn Ffrainc neu Lega yn yr Eidal.

Mae’r modd y mae ceidwadwyr wedi mynegi eu hamheuon ynglŷn a mewnfudo rhyngwladol hefyd wedi’i seilio ar themâu cenedlaetholgar (Beckstein a Rampton 2018). A siarad yn gyffredinol, mae’r dadleuon hyn yn hawlio bod gormod o wahaniaethau diwylliannol a chrefyddol yn debygol o danseilio’r ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin sy’n clymu cymdeithas at ei gilydd ac, yn sgil hyn, yn debygol o arwain at wrthdaro ac ansefydlogrwydd.

Beirniadaeth o Genedlaetholdeb Geidwadol

Fodd bynnag, o ystyried y dadleuon uchod, nid yw’n syndod bod cenedlaetholdeb ceidwadol yn draddodiad sydd wedi esgor ar gryn feirniadaeth (gweler Dueck 2019).

O bosib, y pennaf o’r beirniadaethau hyn yw hwnnw sy’n hawlio bod cenedlaetholdeb ceidwadol yn draddodiad adweithiol ei natur sy’n esgor ar deimladau rhagfarnllyd ac anoddefgar. Trwy roi cymaint o bwyslais ar undod cenedlaethol, ac yn sgil hynny, ar bwysigrwydd sefydliadau traddodiadol a thraddodiadau diwylliannol penodol, mae peryg bod y sawl sy’n arddel y safbwynt hwn yn mynnu dehongli’r genedl mewn modd rhy gul ac yn rhoi gormod o bwyslais ar y gwahaniaethau rhwng aelodau’r genedl ac eraill. Yn wir, yn ei ffurf mwyaf eithafol gall y ffurf hon ar genedlaetholdeb droi’n hiliaeth neu’n senoffobia anoddefgar.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Beckstein, M. a Rampton, V. (2018). ‘Conservatism between theory and practice: The case of migration to Europe’. European Journal of Political Research 57, 1084–1102.

De Gaulle, C. (1965). ‘Nationalism and Cooperation.’ Vital Speeches of the Day. 31 (7), 212-213.

Dueck, C. (2019). Age of Iron: On Conservative Nationalism. (New York: Oxford University Press).

Heath, A., Jowell, R. a Curtice, J. (2001). The Rise of New Labour: Party Policies and Voter Choices. (Oxford: Oxford University Press).

Holbraad, C. (2003). Internationalism and nationalism in European political thought. (New York: Palgrave Macmillan).

Ković, M. (2010). Disraeli and the Eastern Question. (Oxford: Oxford University Press).

Lerman, K. (2013). Bismarck. (Abindgon: Routledge).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.