Cenedlaetholdeb rhyddfrydol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Liberal Nationalism)

Cyflwyno Cenedlaetholdeb Rhyddfrydol

Datblygodd traddodiad a oedd yn asio syniadau yn ymwneud gyda cenedlaetholdeb â rhai yn ymwneud gyda rhyddfrydiaeth yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Chwyldro Ffrengig ym 1789 (gweler Miller 2019). Yn wir, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd cyswllt agos iawn yn datblygu rhwng y ddau draddodiad yma ar draws gwahanol rannau o Ewrop. Nodweddwyd y gyfres o chwyldroadau a welwyd ar draws y cyfandir ym 1848 gan ddadleuon a oedd yn cyfuno’r alwad am ymreolaeth genedlaethol â galwad am drefniadau llywodraethol mwy cyfansoddiadol ac atebol.

Yn fwy diweddar, fe welir dylanwad cenedlaetholdeb rhyddfrydol yn y ‘Pedwar Pwynt ar Ddeg’ enwog a luniwyd ym 1918 gan arlywydd America, Woodrow Wilson (1856-1924) fel sail Gytundeb Versailles – y cytundeb heddwch a luniwyd ar ddiwedd yr Rhyfel Byd Cyntaf ac arweiniodd at aildrefnu gwleidyddol a thiriogaethol sylweddol ar draws rhannau o ganolbarth a dwyrain Ewrop (gweler Knock 2019).

Mae dwy elfen bwysig yn perthyn i syniadau’r cenedlaetholwyr rhyddfrydol – y naill yn nodwedd genedlaetholgar a’r llall yn nodwedd ryddfrydol (Tamir 1993). I ddechrau, caiff y wedd genedlaetholgar ei hamlygu gan y ffaith fod cenedlaetholwyr rhyddfrydol yn credu bod y byd wedi’i rannu’n gyfres o genhedloedd gwahanol, a phob un yn meddu ar hunaniaeth unigryw. Ymhellach, tybir bod pob un o’r cenhedloedd hyn yn gyfartal o ran statws ac yn cynrychioli unedau addas ar gyfer trefnu cymdeithas wleidyddol. O ganlyniad, amcan traddodiadol cenedlaetholwyr rhyddfrydol fu ceisio creu amodau lle bo pob cenedl yn meddu ar hunanbenderfyniaeth – hynny yw yr annibyniaeth wleidyddol i lunio ei dyfodol ei hun ar ei thelerau ei hun.

Yn ail, caiff y pwyslais cenedlaetholgar uchod ar statws unedau cenedlaethol ei asio â’r pwyslais rhyddfrydol ar gydsyniad neu sofraniaeth y bobl – hynny yw y gred y dylai grym ac awdurdod gwleidyddol godi o’r gwaelod, o blith y bobl gyffredin. Yn yr achos hwn, wrth gwrs, y ‘bobl’ berthnasol yw aelodau’r genedl, a’u cydsyniad nhw y mae angen ei sicrhau wrth greu cymuned wleidyddol a threfnu ei sustem lywodraethol.

At ei gilydd gwelir fod cenedlaetholwyr rhyddfrydol nid yn unig yn poeni ynglŷn a ble yn union y bydd ffiniau cymuned wleidyddol benodol yn gorwedd, ond hefyd pa fath o gyfundrefn wleidyddol a fydd yn cael ei chreu o fewn y ffiniau hynny.

Beirniadaeth o Genedlaetholdeb Rhyddfrydol

Fodd bynnag, er poblogrwydd cenedlaetholdeb rhyddfrydol dros y blynyddoedd, mae beirniaid wedi tynnu sylw at ystod o wendidau posib. O bosib, y mwyaf difrifol o’r beirniadaethau hyn yw honno sy’n mynnu bod cred cenedlaetholwyr rhyddfrydol y dylai pob cenedl gael ei thrin yn gyfartal, gan feddu ar hawl gyfartal i hunanbenderfyniaeth cenedlaethol, yn gwbl anymarferol. Y gwir amdani yw nad yw cenhedloedd yn unedau unffurf sydd ond yn cynnwys un grŵp ethnig neu ddiwylliannol. Yn aml iawn bydd cenhedloedd yn cwmpasu amryw o grwpiau gwahanol sydd oll â syniadau gwahanol ynglŷn â sut y dylid trefnu dyfodol gwleidyddol y diriogaeth. Mae hanes gwaedlyd diweddar yr Iwgoslafia gynt yn brawf clir o hyn (Denitch 1996). O ganlyniad, mae beirniaid cenedlaetholdeb rhyddfrydol fel Mayerfeld (1998) wedi dadlau na all ei egwyddorion gynnig canllaw dibynadwy ar gyfer ymdrin â byd sy’n llawn o wahaniaethau a thensiynau ethno-genedlaethol.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Denitch, B. (1996). Ethnic Nationalism: The Tragic Death of Yugoslavia. (Minneapolis: University of Minnesota Press)

Knock, T. (2019). To End All Wars: Woodrow Wilson and the Quest for a New World Order. (Princeton: Princeton University Press)

Mayerfeld, J. (1998). ‘The Myth of Benign Group Identity: A Critique of Liberal Nationalism’. Polity 30 (4), 555-578

Miller, D. (2019). ‘The Coherence of Liberal Nationalism.’, yn Gustavsson, G. a Miller, D. (goln.) Liberal Nationalism and Its Critics: Normative and Empirical Questions. (Oxford: Oxford University Press)

Tamir, Y. (1993). Liberal Nationalism. (Princeton: Princeton University Press)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.