Chanson de geste

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

‘Cerdd am weithred’ yw’r ystyr, a dyma’r enw a roddir ar fath arbennig o gerdd epig Hen Ffrangeg a genid drwy ran helaeth o’r Oesau Canol ond yn bennaf oddeutu’r 11-13g. Enghreifftiau o’r dosbarth yw Le Charroi de Nimes, Aymeri de Narbonne, La Chevalerie Ogier, Girart de Roussillon, Raoul de Cambrai, Huon de Bordeaux, Girart de Viane a Reynaud de Montauban (a elwir hefyd Les Quatre Fils Aymon). I lysoedd brenhinol a phendefigaidd gogledd Ffrainc y perthyn y chansons de geste ac fe’u perfformid un ai gan eu hawduron (y trouvères) neu gan y datgeiniaid proffesiynol (y jongleurs). Mewn cwpledi decsill odledig, rhedent yn aml i filoedd o linellau. ‘Mater Ffrainc’ (la Matière de France), sef traddodiadau arwrol Ffrengig, oedd eu defnydd gan mwyaf, mewn cyferbyniad â’r ‘Mater Prydain’ (la Matière de Bretagne) a aeth i wneuthuriad y rhamantau Arthuraidd a fwynheid yn yr un cylchoedd a’r un cyfnod. Yn wahanol hefyd i’r rhamantau, lle roedd serch, carwriaeth a phriodas yn ganolog, gwrywaidd a milwrol yn bennaf yw diddordebau’r cerddi epig, oll yn ymwneud â brwydrau marchogion dros eu hawliau neu eu hanrhydedd. Gwir i’r gwahaniaeth hwn bylu gydag amser. Goroesodd tua 80 o’r cerddi yn y llawysgrifau, a’r rhai enwocaf o hyd yw’r rheini sy’n coffáu anturiaethau’r Ymerawdwr Siarlymaen a’i farchogion. Yr enwocaf oll yw ‘Cân Rolant’ (La Chanson de Roland), yr hanes (mwy dychmygol na gwir, mae’n debyg) am frwydr Glyn y Mieri (Roncesvalles neu Ronsyfál), a’r modd y prisiodd Rolant ei anrhydedd yn uwch na’i fywyd drwy beidio â chanu’r corn a fyddai wedi galw am gymorth. Difrif yw cywair y rhan fwyaf o’r cerddi, ond ceir ar dro ambell chanson de geste gellweirus, megis ‘Coroni Lewis’ (Le Couronnement Louis), am fab di-glem Siarlymaen, a’r un ddoniol iawn ‘Pererindod Siarlymaen’ (Le Pèlerinage de Charlemagne).

Gwnaed cyfaddasiadau rhyddiaith Gymraeg o rai o epigau Siarlymaen, yn cynnwys ‘Cân Rolant’ a’r ‘Bererindod’, ac fe’u ceir yn Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch a rhai llawysgrifau eraill. Daeth y Cywyddwyr yn bur gyfarwydd ag enwau arwyr y storïau hyn – Rolant, Olfyr, Otwel ac eraill, gan eu defnyddio’n aml at bwrpas cymhariaeth.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Williams, Stephen J. (1968), Ystorya de Carolo Magno, ail argraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Ker, W. P. (1957), Epic and Romance. Essays on Mediaeval Literature, argraffiad newydd (Efrog Newydd: Dover Publications).

Bédier, J. (1926), Les Légendes Epiques. Recherches sur la formation des Chansons de Geste, I, II, III, trydydd argraffiad (Paris: H. Champion).

Crosland, J. (1951), The Old French Epic (Rhydychen: Blackwell).

Whitehead, F. (1968), La Chanson de Roland, wythfed argraffiad (Rhydychen: Basil Blackwell).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.