Chwythwr chwiban

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Whistleblower

Y sawl sy’n datgelu gwybodaeth gyfrinachol i’r wasg, fel arfer rhywun sy’n awyddus i dynnu sylw’r cyhoedd at drosedd neu anghyfiawnder. Mae nifer o straeon newyddion nodedig wedi deillio o unigolion sy’n gweithio i sefydliad mewn swydd lle y mae ganddynt fynediad at wybodaeth gyfrinachol neu swyddogol. (Mae ‘Deep Throat’, yr hysbysydd cudd yn sgandal Watergate yn enghraifft enwog.) Fel arfer, mae chwythwyr chwiban yn dymuno bod yn ffynonellau dienw, yn bennaf am resymau diogelwch personol. Maen nhw’n dibynnu ar y newyddiadurwr i ddilyn confensiynau cyrchu anhysbys a chynnal yr egwyddor o ‘ddiogelu ffynhonnell’ i’w amddiffyn rhag i rywun dalu’r pwyth yn ôl. Gwelwyd sawl gwlad yn ddiweddar yn cyflwyno mesurau i ddarparu amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer y sawl sy’n chwythu’r chwiban.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.