Clustfeinio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Eavesdropping

Yr arfer o wrando’n llechwraidd ar sgwrs breifat. Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn newyddiaduraeth, mae clustfeinio yn codi cwestiynau am foeseg, yn bennaf oherwydd bod y newyddiadurwr sy’n gwrando yn tueddu i beidio â datgelu ei hun i’r siaradwr. Mae clustfeinio yn codi nifer o ystyriaethau moesegol wrth ddefnyddio twyll mewn newyddiaduraeth, oni bai y gellir cyfiawnhau ei fod er lles y cyhoedd ac ni ellir casglu’r deunydd dan sylw trwy gyfrwng mwy syml. Mae’n bosibl na fydd clustfeinio yn cynnig gwybodaeth o unrhyw werth beth bynnag, oherwydd gall y sawl a ddyfynnwyd wadu’r datganiad. Mewn achosion lle y defnyddir dyfais gwrando neu gamera cudd, neu efallai pan fydd newyddiadurwr yn codi galwad ffôn neu e-bost, gallai wynebu cyhuddiadau cyfreithiol. Gall cymhlethdodau pellach godi pan fydd sefydliadau newyddion yn tynnu ar gynnwys a gynhyrchir gan y cyhoedd, lle y mae hi’n amhosibl weithiau i benderfynu o dan ba amodau y cafodd y cynnwys ei gasglu.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.