Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crwth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Llinell 9: Llinell 10:
 
Gallai enw generig gael ei arfer am [[offerynnau]] a oedd yn rhannu nodwedd arbennig megis offeryn bwa, er enghraifft ‘ffidler a chrwth trithant’ sy’n un o’r ‘pedair ofergerdd’ (LlGC, llsgr. Llansteffan 55 (1579)). Y tebyg yw bod Siôn [[Dafydd]] Rhys yma yn golygu ''rebec'', offeryn a gysylltid â cherddoriaeth ddawns ac a oedd, erbyn ail hanner yr 16g., wedi ei ddiorseddu gan y feiolin yn y llys brenhinol. Defnyddid enw generig weithiau am nad oedd yr awdur yn gyfarwydd ag union natur offeryn penodol, neu’n cael ei gamarwain gan wybodaeth aneglur mewn geiriaduron. Rhaid hefyd ystyried ychwanegiadau at hen destunau, neu addasiadau cyfoes a wnaed i destunau megis testunau cyfraith Hywel Dda, Gramadegau’r Penceirddiaid a Statud Gruffudd ap Cynan. Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau hyn yn deillio o gymhellion gwleidyddol, er enghraifft, er mwyn pwysleisio cyfreithlondeb y gyfundrefn gerdd dafod a cherdd dant yng Nghymru yn sgil y deddfu a fu yn erbyn cerddorion crwydrol neu ddidrwydded gan yr awdurdodau gwladol yn Llundain.
 
Gallai enw generig gael ei arfer am [[offerynnau]] a oedd yn rhannu nodwedd arbennig megis offeryn bwa, er enghraifft ‘ffidler a chrwth trithant’ sy’n un o’r ‘pedair ofergerdd’ (LlGC, llsgr. Llansteffan 55 (1579)). Y tebyg yw bod Siôn [[Dafydd]] Rhys yma yn golygu ''rebec'', offeryn a gysylltid â cherddoriaeth ddawns ac a oedd, erbyn ail hanner yr 16g., wedi ei ddiorseddu gan y feiolin yn y llys brenhinol. Defnyddid enw generig weithiau am nad oedd yr awdur yn gyfarwydd ag union natur offeryn penodol, neu’n cael ei gamarwain gan wybodaeth aneglur mewn geiriaduron. Rhaid hefyd ystyried ychwanegiadau at hen destunau, neu addasiadau cyfoes a wnaed i destunau megis testunau cyfraith Hywel Dda, Gramadegau’r Penceirddiaid a Statud Gruffudd ap Cynan. Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau hyn yn deillio o gymhellion gwleidyddol, er enghraifft, er mwyn pwysleisio cyfreithlondeb y gyfundrefn gerdd dafod a cherdd dant yng Nghymru yn sgil y deddfu a fu yn erbyn cerddorion crwydrol neu ddidrwydded gan yr awdurdodau gwladol yn Llundain.
  
Datganai’r beirdd Celtaidd yng Ngâl eu canu [[mawl]] a dychan i gyfeiliant ‘offeryn tebyg i lyra’ yn ôl Diodorus Siculus (1g. CC) ac yn ddiweddar darganfuwyd ger Paule yn Côtes-d’Armor, Llydaw, gerflun carreg o’r un cyfnod yn fras sy’n darlunio ffigwr sy’n dal lyra. Daw’r cofnod cynharaf o’r enw Brythonig brodorol mewn cerdd o’r 6g. gan Venantius Fortunatus (‘Romanusque lyra, plaudat tibi barbarus harpa, / Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat’). Darganfuwyd sawl lyra Eingl-Sacsonaidd (''hearpe'') mewn cloddfeydd (ceir astudiaethau trylwyr yn y maes gan Graeme Lawson) a gellir eu cymharu â lluniau mewn dwy lawysgrif o’r 8g., sef Sallwyr Vespasian yn y Llyfrgell Brydeinig (Cotton Vespasian A.1, fol. 30v) a chopi o ''In Salmos'' gan Cassiodorus (Eglwys Gadeiriol Durham, llsgr. B.II.30, fol. 81v), [[llawysgrif]] a luniwyd yn Northumbria. Ceir cerfiadau cerrig o offerynnau llinynnol yn Iwerddon, yr Alban a gogledd Lloegr. Ond er bod cerfiadau o delyn daironglog yn dyddio o tua’r 8g.–10g. i’w gweld yn ne’r Alban, erys tarddle a hanes cynnar y gyfryw delyn daironglog yn bur aneglur. Fodd bynnag, ymddengys fod yr offeryn ‘newydd’ hwn wedi diorseddu’r lyra fel offeryn y Brenin Dafydd (y Salmydd) mewn celf erbyn yr 11g. Gwelir hyn, er enghraifft, yn Sallwyr Winchcombe c.1025–50 (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, llsgr. Ff. I.23, fol. 4v), sef yr union gyfnod y trosglwyddwyd enw’r offeryn traddodiadol – ''harp'', ''cruit'' – i’r un newydd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r ffaith na ddigwyddodd hynny yng Nghymru yn arwydd efallai o statws parhaol y lyra yn hytrach na’r offeryn newydd, am gyfnod beth bynnag, a bod yr enw wedi’i sefydlogi erbyn i’r ‘delyn’ daironglog godi i statws uwch na’r hen offeryn ac i’r cyfreithiau gael eu croniclo.
+
Datganai’r beirdd Celtaidd yng Ngâl eu canu mawl a dychan i gyfeiliant ‘offeryn tebyg i lyra’ yn ôl Diodorus Siculus (1g. CC) ac yn ddiweddar darganfuwyd ger Paule yn Côtes-d’Armor, Llydaw, gerflun carreg o’r un cyfnod yn fras sy’n darlunio ffigwr sy’n dal lyra. Daw’r cofnod cynharaf o’r enw Brythonig brodorol mewn cerdd o’r 6g. gan Venantius Fortunatus (‘Romanusque lyra, plaudat tibi barbarus harpa, / Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat’). Darganfuwyd sawl lyra Eingl-Sacsonaidd (''hearpe'') mewn cloddfeydd (ceir astudiaethau trylwyr yn y maes gan Graeme Lawson) a gellir eu cymharu â lluniau mewn dwy lawysgrif o’r 8g., sef Sallwyr Vespasian yn y Llyfrgell Brydeinig (Cotton Vespasian A.1, fol. 30v) a chopi o ''In Salmos'' gan Cassiodorus (Eglwys Gadeiriol Durham, llsgr. B.II.30, fol. 81v), [[llawysgrif]] a luniwyd yn Northumbria. Ceir cerfiadau cerrig o offerynnau llinynnol yn Iwerddon, yr Alban a gogledd Lloegr. Ond er bod cerfiadau o delyn daironglog yn dyddio o tua’r 8g.–10g. i’w gweld yn ne’r Alban, erys tarddle a hanes cynnar y gyfryw delyn daironglog yn bur aneglur. Fodd bynnag, ymddengys fod yr offeryn ‘newydd’ hwn wedi diorseddu’r lyra fel offeryn y Brenin Dafydd (y Salmydd) mewn celf erbyn yr 11g. Gwelir hyn, er enghraifft, yn Sallwyr Winchcombe c.1025–50 (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, llsgr. Ff. I.23, fol. 4v), sef yr union gyfnod y trosglwyddwyd enw’r offeryn traddodiadol – ''harp'', ''cruit'' – i’r un newydd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r ffaith na ddigwyddodd hynny yng Nghymru yn arwydd efallai o statws parhaol y lyra yn hytrach na’r offeryn newydd, am gyfnod beth bynnag, a bod yr enw wedi’i sefydlogi erbyn i’r ‘delyn’ daironglog godi i statws uwch na’r hen offeryn ac i’r cyfreithiau gael eu croniclo.
  
 
Yng Nghanolbarth Asia tua’r 9g. y dechreuodd yr arfer o ddefnyddio bwa ar offeryn llinynnol ac yna ymledu i’r byd Bysantaidd-Arabaidd. Ymledodd y ''rabab'' siâp peran, ynghyd â’r dechneg chwarae (sef dal a ''gamba'' a newid traw y tannau o’r ochr â’r ewinedd), i Sbaen Fosarabaidd erbyn y 10g. ac i Ffrainc a’r Almaen erbyn yr 11g., ac arbrofwyd gyda’r bwa ar offerynnau brodorol. Ar lyrâu gogledd Ewrop mabwysiadwyd y dechneg Arabaidd, a welir hyd heddiw ar lyrâu Llychlynnaidd, y ''talharpa'', ''jouhikantele''.
 
Yng Nghanolbarth Asia tua’r 9g. y dechreuodd yr arfer o ddefnyddio bwa ar offeryn llinynnol ac yna ymledu i’r byd Bysantaidd-Arabaidd. Ymledodd y ''rabab'' siâp peran, ynghyd â’r dechneg chwarae (sef dal a ''gamba'' a newid traw y tannau o’r ochr â’r ewinedd), i Sbaen Fosarabaidd erbyn y 10g. ac i Ffrainc a’r Almaen erbyn yr 11g., ac arbrofwyd gyda’r bwa ar offerynnau brodorol. Ar lyrâu gogledd Ewrop mabwysiadwyd y dechneg Arabaidd, a welir hyd heddiw ar lyrâu Llychlynnaidd, y ''talharpa'', ''jouhikantele''.
Llinell 27: Llinell 28:
 
Mae dangos nifer tannau, gan gynnwys drôns, yn arbennig o anodd mewn cerfiadau. Tra na ellir dod i gasgliadau pendant ynglŷn â’r dyluniadau cyn yr 16g., mae’r cywyddau gofyn crwth yn cadarnhau mai crwth chwe thant oedd offeryn y crythor swyddogol. Ceir gwybodaeth werthfawr mewn [[cywydd]] gan fardd anhysbys yn gofyn crwth gan Robert Rheinallt dros Edward Grythor o Iâl:
 
Mae dangos nifer tannau, gan gynnwys drôns, yn arbennig o anodd mewn cerfiadau. Tra na ellir dod i gasgliadau pendant ynglŷn â’r dyluniadau cyn yr 16g., mae’r cywyddau gofyn crwth yn cadarnhau mai crwth chwe thant oedd offeryn y crythor swyddogol. Ceir gwybodaeth werthfawr mewn [[cywydd]] gan fardd anhysbys yn gofyn crwth gan Robert Rheinallt dros Edward Grythor o Iâl:
  
:Ei ffrismal* a ddyfalwn       *''prif dannau''
+
:Ei ffrismal* a ddyfalwn             *''prif dannau''
A thri sydd i wneuthur sŵn:
+
:A thri sydd i wneuthur sŵn:
[[Crasdant]],* cywirdant* fal cynt       *''uchaf'' *''canol''
+
:[[Crasdant]],* cywirdant* fal cynt     *''uchaf'' *''canol''
A’u bwrdwnau’n bêr ’danynt …
+
:A’u bwrdwnau’n bêr ’danynt …
Lle i’r fawd yw’r llorf* a’i was.     *''isaf''
+
:Lle i’r fawd yw’r llorf* a’i was.           *''isaf''
  
 
Cydwedda hyn â’r wybodaeth yn y traethodau [[cerdd dant]] a llawysgrif [[Robert ap Huw]], a hefyd â’r hyn a gofnodwyd yn y 18g. (gw. Ffig 4).
 
Cydwedda hyn â’r wybodaeth yn y traethodau [[cerdd dant]] a llawysgrif [[Robert ap Huw]], a hefyd â’r hyn a gofnodwyd yn y 18g. (gw. Ffig 4).

Diwygiad 17:38, 28 Chwefror 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ym maes organoleg, crwth, sy’n gytras â’r Wyddeleg crot, cruit, yw’r enw Cymraeg am lyra (lyre) a oedd, o tua’r 11g.–12g., wedi datblygu’n offeryn bwa.

Benthyciad o’r Gymraeg i Saesneg Canol yw crouthe, crowd(e), a gofnodir o’r 12g. hwyr ymlaen. Goroesodd tri chrwth o’r 18g., sef Crwth y Foelas (1742), a gedwir yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd (gw. Ffig. 1, isod), un arall yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington ac un yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae angen pwyll wrth fesur gwerth y dystiolaeth mewn ffynonellau darluniadol ac ysgrifenedig. Gan fod sianeli masnach ac eglwysig yn cysylltu gwledydd Ewrop, nid yw darluniadau gweledol o anghenraid yn adlewyrchu arferion lleol. Problem arall yw bod y derminoleg yn amwys ar hyd yr oesoedd, nid yn unig mewn cyfieithiadau o destunau Lladin, ond hefyd o fewn yr ieithoedd brodorol. Er enghraifft, pan fyddai offeryn newydd yn dod yn boblogaidd ar draul hen offeryn, gallai’r hen enw gwreiddiol gael ei fabwysiadu’n enw ar yr offeryn newydd.

Gallai enw generig gael ei arfer am offerynnau a oedd yn rhannu nodwedd arbennig megis offeryn bwa, er enghraifft ‘ffidler a chrwth trithant’ sy’n un o’r ‘pedair ofergerdd’ (LlGC, llsgr. Llansteffan 55 (1579)). Y tebyg yw bod Siôn Dafydd Rhys yma yn golygu rebec, offeryn a gysylltid â cherddoriaeth ddawns ac a oedd, erbyn ail hanner yr 16g., wedi ei ddiorseddu gan y feiolin yn y llys brenhinol. Defnyddid enw generig weithiau am nad oedd yr awdur yn gyfarwydd ag union natur offeryn penodol, neu’n cael ei gamarwain gan wybodaeth aneglur mewn geiriaduron. Rhaid hefyd ystyried ychwanegiadau at hen destunau, neu addasiadau cyfoes a wnaed i destunau megis testunau cyfraith Hywel Dda, Gramadegau’r Penceirddiaid a Statud Gruffudd ap Cynan. Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau hyn yn deillio o gymhellion gwleidyddol, er enghraifft, er mwyn pwysleisio cyfreithlondeb y gyfundrefn gerdd dafod a cherdd dant yng Nghymru yn sgil y deddfu a fu yn erbyn cerddorion crwydrol neu ddidrwydded gan yr awdurdodau gwladol yn Llundain.

Datganai’r beirdd Celtaidd yng Ngâl eu canu mawl a dychan i gyfeiliant ‘offeryn tebyg i lyra’ yn ôl Diodorus Siculus (1g. CC) ac yn ddiweddar darganfuwyd ger Paule yn Côtes-d’Armor, Llydaw, gerflun carreg o’r un cyfnod yn fras sy’n darlunio ffigwr sy’n dal lyra. Daw’r cofnod cynharaf o’r enw Brythonig brodorol mewn cerdd o’r 6g. gan Venantius Fortunatus (‘Romanusque lyra, plaudat tibi barbarus harpa, / Graecus Achilliaca, crotta Britanna canat’). Darganfuwyd sawl lyra Eingl-Sacsonaidd (hearpe) mewn cloddfeydd (ceir astudiaethau trylwyr yn y maes gan Graeme Lawson) a gellir eu cymharu â lluniau mewn dwy lawysgrif o’r 8g., sef Sallwyr Vespasian yn y Llyfrgell Brydeinig (Cotton Vespasian A.1, fol. 30v) a chopi o In Salmos gan Cassiodorus (Eglwys Gadeiriol Durham, llsgr. B.II.30, fol. 81v), llawysgrif a luniwyd yn Northumbria. Ceir cerfiadau cerrig o offerynnau llinynnol yn Iwerddon, yr Alban a gogledd Lloegr. Ond er bod cerfiadau o delyn daironglog yn dyddio o tua’r 8g.–10g. i’w gweld yn ne’r Alban, erys tarddle a hanes cynnar y gyfryw delyn daironglog yn bur aneglur. Fodd bynnag, ymddengys fod yr offeryn ‘newydd’ hwn wedi diorseddu’r lyra fel offeryn y Brenin Dafydd (y Salmydd) mewn celf erbyn yr 11g. Gwelir hyn, er enghraifft, yn Sallwyr Winchcombe c.1025–50 (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, llsgr. Ff. I.23, fol. 4v), sef yr union gyfnod y trosglwyddwyd enw’r offeryn traddodiadol – harp, cruit – i’r un newydd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r ffaith na ddigwyddodd hynny yng Nghymru yn arwydd efallai o statws parhaol y lyra yn hytrach na’r offeryn newydd, am gyfnod beth bynnag, a bod yr enw wedi’i sefydlogi erbyn i’r ‘delyn’ daironglog godi i statws uwch na’r hen offeryn ac i’r cyfreithiau gael eu croniclo.

Yng Nghanolbarth Asia tua’r 9g. y dechreuodd yr arfer o ddefnyddio bwa ar offeryn llinynnol ac yna ymledu i’r byd Bysantaidd-Arabaidd. Ymledodd y rabab siâp peran, ynghyd â’r dechneg chwarae (sef dal a gamba a newid traw y tannau o’r ochr â’r ewinedd), i Sbaen Fosarabaidd erbyn y 10g. ac i Ffrainc a’r Almaen erbyn yr 11g., ac arbrofwyd gyda’r bwa ar offerynnau brodorol. Ar lyrâu gogledd Ewrop mabwysiadwyd y dechneg Arabaidd, a welir hyd heddiw ar lyrâu Llychlynnaidd, y talharpa, jouhikantele.

Yng ngorllewin Ewrop, fodd bynnag, newidiwyd safle dal y rabab (y daethpwyd i’w alw’n rebec yn Ffrangeg, Saesneg Canol hwyr a Chymraeg) i un a braccio a’r un dull o fyseddu ar y gwddf/byseddfwrdd i newid traw’r tannau ag a arferid ar offerynnau brodorol a chanddynt wddf. Dyma’r dechneg a fabwysiadwyd ar y crwth. Er i’r rebec – ac yna, o’r 13g., y ffidil ganoloesol – ddod yn gynyddol boblogaidd yn Lloegr yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y crwth yn dal yn ffefryn yn llysoedd Edward I a II. Mae’n arwyddocaol hefyd fod dros hanner y crythorion (croutheres, crouderes) a enwir yn y llyfrau cyfrifon yn dod o Gymru a’r Gororau. Ynghyd â sêl Roger Wade (gw. Ffig. 2), ceir dwy lawysgrif o’r cyfnod hwn sy’n darlunio minstrel yn chwarae crwth.

Er bod offerynnau eraill yn cael eu harfer yng Nghymru, fel y tystia’r beirdd, y delyn a’r crwth yn unig a gydnabyddid gan y gyfundrefn farddol. Roedd statws proffesiynol y gwŷr wrth gerdd yn ddibynnol ar nawdd, ond tua diwedd yr 16g., wrth i’r uchelwyr goleddu’r math o adloniant cerddorol ac offerynnau a oedd yn ffasiynol yn llys Elizabeth ac ymseisnigo fwyfwy, dirwyn i ben a wnaeth yr arfer o noddi’r beirdd.

Offeryn cymharol newydd o’r Eidal oedd y feiolin pan gyflogodd Harri VIII chwe ffidler (y term yma yn cyfeirio at consort o offerynnau o’r un teulu) fel cerddorion llys yn 1540 ac roedd sain gref, lachar y ffidil yn ddelfrydol ar gyfer yr alawon dawns newydd. Perthynai’r crwth i draddodiad cerddorol yr oes o’r blaen a naturiol ddigon oedd i’r ffidil ei ddiorseddu. Mae’n bosibl iawn fod nifer o’r crythorion wedi troi eu llaw at un o’r offerynnau poblogaidd er mwyn cadw eu statws. Er bod haen is o grythorion yn dal i dderbyn nawdd gan haen gymdeithasol gyfatebol, anallu’r crwth i gystadlu â phoblogrwydd cynyddol y ffidil a oedd yn gyfrifol am ei ddiflaniad erbyn tua dechrau’r 19g. Cafodd gryn sylw gan hynafiaethwyr yn y 18g. Yn y 19g. bu dadl ymhlith organolegwyr ynglŷn â tharddiad y bwa – dadl Crwth v India a esgorodd ar lond cae o gopïau sydd ar wasgar mewn gwahanol amgueddfeydd (gw. hefyd organoleg).

Yn wahanol i offerynnau bwa canoloesol eraill, prin iawn yw darluniadau o’r crwth, yn enwedig mewn cyd-destun Cymreig. Ond, o ystyried bod y tri chrwth a oroesodd yn dyddio o’r 18g. yn amrywio ychydig mewn cynllun a chymesuredd, mae’r ddau ddyluniad mwyaf dibynadwy – sêl Roger Wade Crowder (1316), Y Llyfrgell Brydeinig, Sêl lxxxvii, 44 (Ffig. 2, sêl Roger Wade Croudere) a cherfiad o delynor a chrythor Cymreig ar gwpwrdd Cotehele (1524–50), nawr yn Cotehele House, Cernyw (Ffig. 3, Cotehele) – yn cydweddu o ran cymesuredd ac mae’r cerfiad hynod fanwl yn ymdebygu’n rhyfeddol o ran cynllun. Mae’n amlwg fod y cerfiwr yn ymwybodol iawn o statws a swyddogaeth y ddau offeryn yn y gymdeithas Gymreig ac ategir hyn gan y beirdd y mae eu marwnadau i grythorion a thelynorion, ynghyd â chywyddau gofyn, yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am yr offerynnau ac am gerdd dant yn yr 16g.

Yr arfer oedd cafnu corff yr offeryn, gan gynnwys y gwddf (wedi’i gerfio’n denau yn y cefn) allan o un bloc o bren masarn gan ychwanegu seinfwrdd o bren pîn. Er mwyn ysgafnhau rhan uchaf yr offeryn byddai cefn y cynhaliwr tannau yn cael ei gafnu ynghyd ag ochr fewnol y breichiau. Yn ddiweddar canfuwyd bod rhan o’r gwddf yn ogystal ar grythau’r 18g. wedi cael ei chafnu cyn gosod byseddfwrdd.

Fel y gwelir ar nifer o ddarluniau o lyrâu clasurol, gogwydda’r breichiau ymlaen, gan gadw tannau’r crwth yn gyfochrog â’r seinfwrdd. Rhedir y tannau trwy dyllau uwchlaw’r gwddf a’u cysylltu â’r ebillion yn y cefn. Un nodwedd gyffredin rhwng y darluniad o grwth gan Daines Barrington c.1770, Archaeologia, III (1775), pl. VII (gw. Ffig. 4, Barrington), a chrythau Roger Wade a Cotehele yw pont wastad; un arall yw bod un o’r coesau’n ymestyn i mewn i dwll sain gan weithredu o bosibl fel postyn sain. Gorwedd y bont ar letraws yn yr enghreifftiau o’r 18g.

Mae dangos nifer tannau, gan gynnwys drôns, yn arbennig o anodd mewn cerfiadau. Tra na ellir dod i gasgliadau pendant ynglŷn â’r dyluniadau cyn yr 16g., mae’r cywyddau gofyn crwth yn cadarnhau mai crwth chwe thant oedd offeryn y crythor swyddogol. Ceir gwybodaeth werthfawr mewn cywydd gan fardd anhysbys yn gofyn crwth gan Robert Rheinallt dros Edward Grythor o Iâl:

Ei ffrismal* a ddyfalwn *prif dannau
A thri sydd i wneuthur sŵn:
Crasdant,* cywirdant* fal cynt *uchaf *canol
A’u bwrdwnau’n bêr ’danynt …
Lle i’r fawd yw’r llorf* a’i was. *isaf

Cydwedda hyn â’r wybodaeth yn y traethodau cerdd dant a llawysgrif Robert ap Huw, a hefyd â’r hyn a gofnodwyd yn y 18g. (gw. Ffig 4).

Er mwyn hwyluso gwaith y bawd yn plycio’r ddau dant isaf wrth fyseddu, cynhelir y crwth â gwregys/strap (arfer sydd eto yn deillio’n ôl o’r 18g. i’r 16g. ac, o bosibl, i ddechrau’r 14g.).

Ni phallodd y diddordeb yn y crwth trwy’r 20g., ond rhaid diolch i Robert Evans am ei ymroddiad yn darganfod o’r newydd gerddoriaeth a thechnegau cerdd dannau trwy ei ymchwil fanwl ac ymarferol ar y testunau, gan gynnwys llawysgrif Robert ap Huw. Trwy ei ymdrechion ef llwyddwyd i ail-greu byd sain crwth yr Oesoedd Canol ac ategwyd ei waith ymhellach gan Cass Meurig gyda’i gwaith ar gerddoriaeth ffidleriaid y 18g.

Bethan Miles



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.