Crythorion

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae statws cerddor ynghlwm â’i statws cymdeithasol a swyddogaeth gerddorol ei offeryn. Tystia dogfennau tir, cofnodion llys, ewyllysiau a dogfennau eraill yng Nghymru a Lloegr o’r 13g. ymlaen i statws cymdeithasol uchel rhai crythorion gan gynnwys Huhcdreth Cruth(eur) a enwir yn 1226 yn un o’r tystion lleyg i siartr gan Gruffudd ap Llywelyn, tywysog Gwynedd, yn rhoi tir i fynachlog Ystrad Marchell. Aseswyd gwerth tir crythores ddienw ym mhlwyf Cynwyd, un o bedwar o grythorion a oedd yn dal tir ym Meirionnydd yn 1292–3, yn 22[a hanner]d. Nid pob crythor a oedd mor gyfoethog â Roger Wade, a fenthycodd £120 rywbryd cyn 1316 i Warin de L’Isle, ceidwad Castell Windsor (gw. Crwth, Ffig. 2). Ond tra oedd y crwth yn cael ei ffafrio yn llysoedd Edward I, II a III gallai crythorion ennill arian go dda, fel y tystia cofnodion y llys. Adeg rhyfel byddai crythorion, fel gweision brenhinol eraill, yn gwasanaethu fel saethyddion neu wŷr arfog.

Fodd bynnag, oni fyddent yn perthyn i urdd crefft (guild) neu’n derbyn nawdd swyddogol, gallai bywyd fel cerddor fod yn helbulus: bu Lleucu Grythores o flaen Siambr y Sêr yn Nyffryn Clwyd droeon yn 1381, pryd y’i disgrifiwyd hi, ynghyd ag Alice Grythores a dau grythor arall, fel ‘common wasters’. Fel mewn nifer o lysoedd, gan gynnwys rhai crefyddol, câi pob ‘ofer glerwr’ groeso yn llys Robert ap Maredudd, yn ôl tystiolaeth mewn cerdd gan Rhys Goch Eryri. Ond, wrth gwrs, nid oedd y gwŷr wrth gerdd bob amser yn cymeradwyo hynny gan eu bod hwythau yn gorfod gwarchod eu nawdd yn ogystal â chyfiawnhau i’r awdurdodau eu statws fel cerddorion proffesiynol.

Ffig. 2: Sêl Roger Wade Croudere (Hawlfraint Y Llyfrgell Brydeinig).

Trosglwyddid y grefft cerdd dannau ar lafar gan bencerdd i’w ddisgybl, ond nid tan oes y Dyneiddwyr yn yr 16g. y ceisiwyd gosod rhywfaint o’r wybodaeth berthnasol ar glawr. Er mai cymhelliad gwleidyddol oedd i Eisteddfodau Caerwys a’u ‘Statud Gruffudd ap Cynan’ ffug-hanesyddol, ceir yn y testun hwn wybodaeth werthfawr am ofynion y gwahanol raddau. Er bod telynorion a chrythorion yn rhannu’r un repertoire ar y cyfan, efallai ei bod yn arwyddocaol fod un o’r llawysgrifau sy’n cynnwys rhestrau o deitlau repertoire (LlGC 17116B, fol. 62r–62v) yn nodi darnau gwahanol ar gyfer y pedair ‘cadair’ a’r pedair ‘colofn’, sef dau o’r genres mwyaf anodd yn dechnegol.

Er bod crythorion a thelynorion yn cydchwarae cerddoriaeth ddawns ar adegau gyda phibyddion, adlewyrchir y berthynas glos rhwng cerdd dafod a cherdd dant ym marddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr. Gellir crynhoi hyn efallai drwy roi dwy enghraifft – un o ail hanner y 14g. ac un arall o tua chanol yr 16g., y naill o safbwynt bardd a’r llall o safbwynt crythor.

Mae Gruffudd Fychan yn dechrau ei gywydd i ofyn am delyn gan Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn o Emral ym Maelor Saesneg gan ddal ar bwysigrwydd cydblethu cerdd dant a cherdd dafod. Gwneir hynny mewn cyfres o gymariaethau ac yna:

Beth, ddifyr felenbleth ddyn,
A dalai wawd heb delyn?
Ba ddelw gellir, wir warant,
Ganu’n deg onid gan dant?
Cenais, pan ryglyddais glod,
Cywydd sengl, cuddiais anglod.

Tybed a yw ei ddewis o’r gair ‘cywydd’ yn hytrach nag ‘awdl’ yma yn arwyddocaol?

Ceir cywydd gan fardd anhysbys yn gofyn crwth dros Edward Grythor o Iâl gan Robert Rheinallt:

Mên a threbl a wnaeth Robert,
Tiwniau pur o’r tannau pert;
Naws rhwydd, er dim nis rhoddai
Ar sydd, os cywydd nis câi.

Fodd bynnag, roedd y berthynas glos honno wedi gwanhau erbyn traean olaf y ganrif ac mae marwnad Siôn Tudur i’r Gwŷr wrth Gerdd a oedd yn eu blodau c. 1523–80, sy’n enwi pedwar prydydd, deg telynor a saith crythor, gan gynnwys Robert Rheinallt, fel pe bai’n farwnad i’r gyfundrefn draddodiadol.

Ffig. 3: Cotehele (Hawlfraint Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru)(Hawlfraint Y Llyfrgell Brydeinig).

Mae’n amlwg fod Robert – ac yntau’n fab, o bosibl, i Rheinallt Grythor, athro cerdd crwth – yn grythor medrus iawn. Apwyntiwyd ef a Tomas Glyn Delynor yn ‘Welsh minstrels’ ym mintai y King’s Musik yn 1537 a dengys y cyfrifon brenhinol i Robert wasanaethu fel cerddor a milwr tan o leiaf 1553:

I Ffrainc, a’i ddwygainc oedd dda,
Ydd âi fo â’i ddau fwa:
Bwa’r miwsig, berw maswedd,
A bwa hir lle ni bai hedd.

Nid anghyffredin oedd gweld mab yn dilyn yr un alwedigaeth â’i dad: gellid cymharu Ieuan Penmon, a gadarnhawyd yn bencerdd yn ail Eisteddfod Caerwys, a’i fab Lewys Penmon yr oedd ganddo gysylltiad agos â theulu Salusbury, Lleweni, ar droad y ganrif hyd o leiaf 1606. Enwir Siôn (Delynor) a’i frawd Robert ap Rhys Gutyn ymhlith y gwŷr wrth gerdd a farwnadwyd gan Siôn Tudur; roedd Robert, ‘pencerdd difost ar osteg’, yn ŵr cyfoethog a barnu wrth ei ewyllys (1571); ac mae’n bosibl mai crythor oedd mab i frawd arall, Robert ap Dafydd ap Rhys Gutyn, gan i Robert gymynu ei ‘best crowthe’ iddo.

Cynhwysir Bedo a Thomas a’u tad Madog Grythor yn y rhestr o athrawon cerdd crwth a geir yn llsgr. Gwysaney 28 (1560au), a thystia Gruffudd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan yn ei gywydd mawl iddo fod Madog yn grythor arbennig. Disgrifia’r un bardd begwn arall y grefft yn ei gywydd dros Archddiacon Caerfyrddin i Siôn ap Dafydd Llwyd i ofyn am Wil Hwysgin: ‘Gofyn gŵr, ac ofn ei gael!’ Perthyn y cywydd hwn i ddychan a thynnu coes defodol y cyff clêr a welid mewn neithiorau a ‘stompiau’ anffurfiol, cyfeillgar yn nhai’r bonedd. Ceir nifer o gerddi am grythorion, megis ffug-farwnad Siôn Tudur i Robin Clidro, a oedd, fel Wil Hwysgin, yn perthyn i’r haen is o grythorion, ac yna’r gyfres o englynion ymryson gan Morys Powel i Edward Sirc lle ceir y cymeriad geiriol ‘Sirc’ yn clymu pob llinell yn y saith englyn cyntaf, er enghraifft ‘Sirc fagabownd, hel hownd hyll...’

Er bod telynorion yn dal i gael eu cyflogi gan rai o deuluoedd y bonedd, roedd y cysylltiad â cherdd dafod fwy neu lai wedi darfod erbyn ail chwarter yr 17g. Dichon fod rhai o’r crythorion cyfundrefnol wedi cymryd at un o’r offerynnau ffasiynol megis y feiol ond perthyn i haen is yr oedd Siôn ab Ifan Grythor, y priodolir iddo chwe charol gan gynnwys ‘Carol yn amser rhyfel’ (1625):

Yr wyf finne’n hen grythor yn cadw’r un ordor,
Yn dyfod bob tymor i’ch tryblu;

Yng ngolwg yr awdurdodau, ystyrid crythor fel ‘common fiddler’ – ac mae’n bosibl iawn mai ffawd debyg i Leucu Grythores yn ôl yn y 14g. a wynebai’r crythorion pe deuent o flaen llys barn. Un o’r anffodusion hynny a ymddangosodd gerbron y Sesiwn Fawr yn Sir Benfro yn 1620 oedd y crythor Dai Celer (Keler), Pebidiog. Enwir ef a Huw Martin, Cilgwyn, yng nghywydd marwnad Tomos, y Crythwr Llwyd o Gilgerran, sef yr olaf o grythorion yr ardal. Ynghyd ag enwau alawon fel ‘nutmeg a sinsir’ ceir:

Stwffwl Clwyd stiff oedd ei glog, (?cainc ystwffwl)
A’r ach bennaf yr Ychen Bannog;
Ffig. 4: Barrington, Archaeologia, III (1775), pl. VII), ynghyd â’r tuning (Hawlfraint Y Llyfrgell Brydeinig).

Yn ei Parochialia, ceir nodyn gan Edward Lhuyd am grythor o Landrillo, Meirionnydd: ‘Davydh Rowland hen Grythwr [bu farw 1684] a arvere bob syl y pask brydnhawn y pask i ben kraig Dhinam i ranny yr ych gwyn. Yna y kane fo gaink yr ychen bannog a’r holl hen Geinkie yr rhain a vyant varw gidag ev’. Tybed ai parhad, neu o leiaf adlais, o’r hen arfer a ddisgrifiwyd yng ngramadeg Gruffydd Robert (1567) a chan y sawl a luniodd adroddiad ar ‘The state of North Wales towchinge religion’ ar gyfer Cyngor y Gororau (gw. Williams 1949) a geir yma?

Ymhlith y rhestrau teitlau repertoire cerdd dant ceir nifer sy’n crybwyll chwedlau megis ‘caniad y twrch trwyth’, ‘caniad y cor a’r gores’ a ‘caniad adar llwchgwin’. Mewn llythyr at Meredydd Lloyd yn 1655, dyry Robert Vaughan hanes ddau griffun Drudwas ab Tryffin ‘in memory whereof there is a lesson to be played upon the crowde, the which I have often heard played, which was made then, called Caniad Adar Llwchgwin’ (gw. Williams 1818, 311).

Mae’n drueni na chofnododd Bob Owen (‘Hanes y Delyn yng Nghymru’, Bangor, llawysgrifau 8154–8161, 521–5) na Meredith Morris (‘De Fidiculis’, AWC, llawysgrif 2054/1, 85) ffynonellau eu rhestrau o grythorion a gwneuthurwyr/addaswyr crwth o’r 17g. Rhaid bod yn wyliadwrus iawn cyn derbyn tystiolaeth fel hyn: bu ‘Crowther’ yn gyfenw ers rai canrifoedd, ac fe all fod Bob Owen wedi Cymreigio’r term ‘ffidler’ fel ‘grythor’. Yn sicr, fel y tystir gan y tiwnio a nodir gan William Bingley yn 1798 (Williams a Deighton 1800, 532), byddai rhai o leiaf o’r crythorion wedi addasu eu crythau i diwniad feiolin (fesul pump) ac eraill wedi troi at y feiolin (ac efallai wedi cadw’r hen enw).

Bethan Miles

Llyfryddiaeth

  • E. Williams a J. Deighton (gol.), William Bingley: A Tour Round North Wales Performed During the Summer of 1798 (Caergrawnt, 1800)
  • E. Williams (gol.), The Cambrian Register Vol. III (Llundain, 1818)
  • Ifor Williams, Hen Chwedlau (Caerdydd, 1949)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.