Cydbwysedd newyddiadurol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Balance

Cynnal a chadw cydbwysedd rhwng gwahanol safbwyntiau neu farn. Mae cydbwysedd yn cyfeirio at allu newyddiadurwr neu sefydliad newyddion i gadw’n ddiduedd wrth adrodd ar y newyddion ac mae’n ddelfryd newyddiaduraeth niwtral ers amser maith. Ceir cysylltiad agos rhwng cydbwysedd, tegwch a didueddrwydd ond mae cydbwysedd yn awgrymu bod newyddiadurwyr yn ceisio ymchwilio i bob ochr stori neu bwnc gan roi'r un sylw i’r dadleuon amlwg neu berthnasol ar bob ochr. Er nad yw cydbwysedd yn golygu rhoi amser cyfartal neu le i bob ochr y ddadl, mae cydbwysedd yn awgrymu y dylid defnyddio dulliau rhesymegol, gwrthrychol, er mwyn amlygu mwy nag un persbectif wrth gyflwyno’r dadleuon amrywiol.

Gelwir am gydbwysedd yn fwyaf aml wrth ystyried darlledu gwasanaeth cyhoeddus pan fydd yn codi mewn trafodaethau am ansawdd newyddion. Mae beirniaid sy’n dadlau yn erbyn cydbwysedd o’r farn bod newyddiadurwyr, wrth chwilio am gydbwysedd, yn aml yn colli gwir graidd y stori ac yn cyfyngu dadleuon astrus i ddau safbwynt yn unig.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.