Cyfarwydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio


‘Cyfarwydd’ yw’r term a ddefnyddir am storïwr yn yr Oesoedd Canol. Ei ystyr yn wreiddiol, yn ôl pob tebyg, oedd ‘gŵr hyddysg’ neu hyd yn oed ‘ŵr hyddysg yn y gyfraith’. Ceir yr enghraifft gynharaf o’r gair, yn ei ffurf luosog cimarguitheit (‘cyfarwyddiaid’), mewn breinlen a ychwanegwyd at lawysgrif Ladin o’r Efengylau (Llyfr St Chad) ddiwedd y nawfed ganrif. Ychydig iawn a wyddom am y cyfarwydd a’i swyddogaeth yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol – yn wahanol i’r ‘pencerdd’ a’r ‘bardd teulu’, nid yw’n ymddangos yn rhestr swyddogion y llys yng Nghyfraith Hywel Dda a phrin iawn yw’r cyfeiriadau ato o gwbl yn y llenyddiaeth.

Ceir dau gyfeiriad at y ‘cyfarwydd’ ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, a’r rheini wedi denu cryn sylw gan ysgolheigion. Yn y cyntaf, â Gwydion a’i gyfeillion i lys Pryderi ‘yn rhith beirdd’, hynny yw gan ymddangos neu ymagweddu fel beirdd. Derbyniant groeso mawr a gosodir Gwydion i eistedd mewn lle anrhydeddus wrth y bwrdd bwyd. Pan ofynnir am ‘gyfarwyddyd’, mae Gwydion yn ‘diddanu y llys’ ag ‘ymddiddanau digrif’ a ‘chyfarwyddyd’, a nodir mai ef yw’r ‘cyfarwydd gorau yn y byd’. Yn ddiweddarach yn y gainc, â Gwydion a’i nai, Lleu, i lys Arianrhod gan gymryd arnynt i fod yn feirdd o Forgannwg. Eto, rhoddir croeso mawr iddynt, ac ar ôl bwyta mae Gwydion a’i chwaer yn sgwrsio am ‘chwedlau a chyfarwyddyd’; pwysleisir mai ‘cyfarwydd da’ oedd Gwydion.Tybir mai ystyr ‘cyfarwydd’ yn y ddau achos yw ‘storïwr’ ac mai ‘stori’ neu ‘hanes’ yw’r ‘cyfarwyddyd’. Os felly, beth yn union yw’r berthynas rhwng ‘bardd’ a ‘chyfarwydd’? Ai’r un ydynt? Na, yn ôl y coloffon a geir ar ddiwedd un arall o chwedlau’r Mabinogion, sef Breuddwyd Rhonabwy, lle awgrymir mai dwy garfan annibynnol ar ei gilydd oedd y beirdd a’r cyfarwyddiaid. Yma nodir mai’r rheswm pam na ŵyr neb y freuddwyd, ‘na bardd na chyfarwydd, heb lyfr’, yw oherwydd yr holl liwiau a grybwyllir yn y stori. Ond wedi dweud hynny, gellid dadlau mai dwbled (sef dau air cyfystyr) sydd yma, techneg weddol gyffredin mewn chwedlau llafar, cymharer ‘tir a daear’ neu ‘hud a lledrith’. O ystyried hyn oll, tybed felly a ellid dadlau mai teitl achlysurol yw ‘cyfarwydd’ sy’n dynodi swyddogaeth yn hytrach na dosbarth cymdeithasol neu broffesiynol; tybed ai un o swyddogaethau eilaidd y bardd oedd adrodd ‘cyfarwyddyd’. Yn sicr, roedd y beirdd yn gwybod am y chwedlau traddodiadol fel y dengys y cyfeiriadau yn eu cerddi.


Heblaw ‘cyfarwyddyd’, ceir sawl term arall am naratif mewn ffynonellau Cymraeg canoloesol. ‘Chwedl’ sydd fwyaf cyffredin – gall hefyd olygu ‘hanes’ neu ‘newyddion’. Yn ogystal, defnyddir termau megis ‘cyfranc’ (ystyr wreiddiol y gair oedd ‘cyfarfyddiad’), ‘ystoria’ (enw sy’n tarddu o’r Lladin historia ac yn dwyn cysylltiadau efallai â ffynonellau ysgrifenedig yn hytrach na llafar) ac, wrth gwrs, ‘cainc’ a ‘mabinogi’. Mae’r term ‘ymddiddan’ (< ym + diddan(u) sef ‘diddanu eich gilydd’) yn awgrymu math arbennig o naratif – digwydd y term mewn cerddi ymddiddan megis Ymddiddan Arthur a’r Eryr lle ceir deialog rhwng dau gymeriad a hwnnw efallai ar ffurf perfformiad dramatig. ‘Ymddiddan’ yw’r term a ddefnyddir yn chwedl Iarlles y Ffynnon i ddisgrifio monolog Cynon ar ddechrau’r stori; mae’n cyfarch Cai drwy gydol y naratif ac er nad yw Cai’n ymateb, gellid dadlau mai rhyw fath o ddeialog sydd yma rhwng Cynon a Chai. Dengys ein testunau canoloesol fod ymddiddan, yn yr ystyr o sgwrsio, hefyd yn digwydd yn anffurfiol rhwng cymeriadau, ac weithiau gall atgof personol godi yn sgil sgwrs o’r fath fel, er enghraifft, yn achos Matholwch frenin Iwerddon sydd yn adrodd hanes y Pair Dadeni wrth Bendigeidfran wedi iddynt wledda. Daw’n amlwg, felly, fod adrodd straeon yn ddigwyddiad tra chyffredin yng nghymdeithas lafar Cymru’r Oesoedd Canol ac yn diriogaeth y rhai proffesiynol a’r amatur fel ei gilydd. At hynny, mae nifer y gwahanol dermau am ‘stori’ yn adlewyrchu’r amrywiaeth o fewn y genre.

Adlewyrchir peth o repertoire y ‘cyfarwydd’ yn chwedlau’r Mabinogion, ynghyd â’r technegau naratif a ddefnyddid ganddo. Sylwer mai rhyddiaith, nid barddoniaeth, yw cyfrwng y naratif estynedig hwn, yn wahanol i’r sefyllfa yn y mwyafrif o wledydd Indo-Ewropeaidd.

Sioned Davies

Llyfryddiaeth

Davies, S. (2005). '"He was the best teller of tales in the world": Performing Medieval Welsh Narrative’ yn Performing Medieval Narrative, goln Evelyn Birge Vitz et al (D.S. Brewer, Cambridge), tt. 15-26.

Davies, S. (1995), Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o dechnegau naratif yn Y Mabinogion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Roberts, B.F. (1992), Studies on Middle Welsh Literature (Edwin Mellen: Lewiston, Queenston, Lampeter).

Ford, P. (1975-76), ‘The Poet as Cyfarwydd in Early Welsh Tradition’, Studia Celtica X/XI, 152-62.

[[CC BY-SA}}