Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyhoeddiadau Printiedig"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Nid yng Nghymru y cyhoeddwyd y gerddoriaeth Gymreig gyntaf i’w hargraffu, ond yn Llundain, yn rhan o’r casgliad o salmau mydryddol gan [[Edmwnd Prys]], ''Llyfr y Psalmau'', a argraffwyd yn 1621 gan Thomas Purfoot. Roedd yr un peth yn wir am y casgliadau o alawon Cymreig a ymddangosodd yn niwedd y 18g. o law [[John Parry]] (Rhiwabon) ac [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin). Y cyntaf i argraffu cerddoriaeth yng Nghymru oedd Ishmael [[Dafydd]], Trefriw, a gyhoeddodd gasgliad John Ellis (1760–1839) o donau ac [[anthemau]], ''[[Mawl]] yr Arglwydd'', yn 1816, er mai yn Llundain mae’n debyg yr engrafiwyd y platiau cerdd. Dros y degawdau dilynol, tyfodd patrwm o gyhoeddiadau cerddorol Cymreig, er mai araf oedd y twf tan wedi canol y 19g. Rhwng tua 1820 ac 1860 gellir adnabod tri dosbarth o gyhoeddiad: [[gramadegau]] cerddorol, yn amlinellu egwyddorion cerddoriaeth, a gynhwysai enghreifftiau cerddorol; casgliadau o donau ac [[anthemau]], a gynhwysai weithiau ragarweiniad ar elfennau cerddoriaeth; a chasgliadau o alawon cenedlaethol.
+
Nid yng Nghymru y cyhoeddwyd y gerddoriaeth Gymreig gyntaf i’w hargraffu, ond yn Llundain, yn rhan o’r casgliad o salmau mydryddol gan [[Prys, Edmwnd (1542/3-1623) | Edmwnd Prys]], ''Llyfr y Psalmau'', a argraffwyd yn 1621 gan Thomas Purfoot. Roedd yr un peth yn wir am y casgliadau o alawon Cymreig a ymddangosodd yn niwedd y 18g. o law [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]] (Rhiwabon) ac [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin). Y cyntaf i argraffu cerddoriaeth yng Nghymru oedd Ishmael Dafydd, Trefriw, a gyhoeddodd gasgliad John Ellis (1760–1839) o donau ac [[Anthemau | anthemau]], ''Mawl yr Arglwydd'', yn 1816, er mai yn Llundain mae’n debyg yr engrafiwyd y platiau cerdd. Dros y degawdau dilynol, tyfodd patrwm o gyhoeddiadau cerddorol Cymreig, er mai araf oedd y twf tan wedi canol y 19g. Rhwng tua 1820 ac 1860 gellir adnabod tri dosbarth o gyhoeddiad: [[Gramadegwyr Cerdd | gramadegau]] cerddorol, yn amlinellu egwyddorion cerddoriaeth, a gynhwysai enghreifftiau cerddorol; casgliadau o donau ac anthemau, a gynhwysai weithiau ragarweiniad ar elfennau cerddoriaeth; a chasgliadau o alawon cenedlaethol.
  
Perthyn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau’r trydydd dosbarth i’r cyhoeddiadau ‘estron’ – fe’u cynhyrchwyd yn Llundain ar gyfer cynulleidfa freintiedig ac eithrio’r ddau gasgliad arloesol o [[alawon gwerin]], ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (1844) gan [[Maria Jane Williams]] a argraffwyd yn Llanymddyfri gan William Rees, a ''Y Caniedydd Cymreig'' (1845) gan [[Ieuan Ddu (John Thomas]]; 1795–1871), a argraffwyd ym Merthyr Tudful gan David Jones. Mwy Cymreig eu naws a’u tarddiad oedd y gramadegau cerddorol megis ''Grisiau cerdd arwest'' (1823) gan Ieuan Ddu o Lan Tawy (John Ryland Harris, 1802–23), a argraffwyd yn Abertawe gan Joseph Harris (Gomer); ''Y caniedydd crefyddol'' (1828) gan William Owen (1788–1838), a argraffwyd yng Nghaer gan John Parry, a ''Gramadeg cerddoriaeth'' (1838 a sawl argraffiad wedyn) gan John Mills (1812–73), a argraffwyd yn Llanidloes gan John Mendus Jones.
+
Perthyn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau’r trydydd dosbarth i’r cyhoeddiadau ‘estron’ – fe’u cynhyrchwyd yn Llundain ar gyfer cynulleidfa freintiedig ac eithrio’r ddau gasgliad arloesol o [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]], ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (1844) gan [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] a argraffwyd yn Llanymddyfri gan William Rees, a ''Y Caniedydd Cymreig'' (1845) gan [[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | Ieuan Ddu (John Thomas]]; 1795–1871), a argraffwyd ym Merthyr Tudful gan David Jones. Mwy Cymreig eu naws a’u tarddiad oedd y gramadegau cerddorol megis ''Grisiau cerdd arwest'' (1823) gan Ieuan Ddu o Lan Tawy (John Ryland Harris, 1802–23), a argraffwyd yn Abertawe gan Joseph Harris (Gomer); ''Y caniedydd crefyddol'' (1828) gan William Owen (1788–1838), a argraffwyd yng Nghaer gan John Parry, a ''Gramadeg cerddoriaeth'' (1838 a sawl argraffiad wedyn) gan John Mills (1812–73), a argraffwyd yn Llanidloes gan John Mendus Jones.
  
 
Yn yr un modd, mae naws frodorol i’r casgliadau tonau ''Peroriaeth hyfryd'' (1837) gan John Parry, a argraffwyd yng Nghaer; ''Caniadau y cyssegr'' (1839) gan John Roberts, a argraffwyd yn Ninbych gan Thomas Gee yr hynaf; sawl casgliad a argraffwyd yn Llanidloes, megis ''Caniadau Seion'' (1840) a ''Yr arweinydd cerddorol'' (1842–45) gan Richard Mills; ''Y salmydd eglwysig'' (1847) gan John Mills; ''Y salmydd cenedlaethol'' (1846), ''Ceinion cerddoriaeth'' (1852) a ''Gemau cerddoriaeth'' (1854) gan Hafrenydd (Thomas Williams; 1807–94); a ''Telyn Seion'' gan Rosser Beynon (1811–76), a argraffwyd ym Merthyr yn 1848.
 
Yn yr un modd, mae naws frodorol i’r casgliadau tonau ''Peroriaeth hyfryd'' (1837) gan John Parry, a argraffwyd yng Nghaer; ''Caniadau y cyssegr'' (1839) gan John Roberts, a argraffwyd yn Ninbych gan Thomas Gee yr hynaf; sawl casgliad a argraffwyd yn Llanidloes, megis ''Caniadau Seion'' (1840) a ''Yr arweinydd cerddorol'' (1842–45) gan Richard Mills; ''Y salmydd eglwysig'' (1847) gan John Mills; ''Y salmydd cenedlaethol'' (1846), ''Ceinion cerddoriaeth'' (1852) a ''Gemau cerddoriaeth'' (1854) gan Hafrenydd (Thomas Williams; 1807–94); a ''Telyn Seion'' gan Rosser Beynon (1811–76), a argraffwyd ym Merthyr yn 1848.
  
Awgryma’r llif hwn o gyhoeddiadau fod y farchnad gerddorol yn tyfu; ond trodd y llif yn llanw wedi 1860, am fwy nag un rheswm. Y rheswm pennaf oedd fod twf aruthrol mewn gweithgarwch cerddorol ar ffurf canu [[corawl]] a chynulleidfaol a mwy o alw am ddeunydd cerddorol, yn gyfrolau ac yn daflenni, galw a ddiwallwyd gan nifer o gyhoeddwyr Cymreig a fu’n weithgar yn ail hanner y 19g. a dechrau’r 20g. Ond roedd hefyd ffactorau allanol. Tyfodd y system reilffordd mewn modd dramatig rhwng 1840 ac 1870, a’i gwnaeth yn rhwyddach i ddosbarthu cyhoeddiadau i wahanol ganolfannau.
+
Awgryma’r llif hwn o gyhoeddiadau fod y farchnad gerddorol yn tyfu; ond trodd y llif yn llanw wedi 1860, am fwy nag un rheswm. Y rheswm pennaf oedd fod twf aruthrol mewn gweithgarwch cerddorol ar ffurf canu [[Corau Cymysg | corawl]] a chynulleidfaol a mwy o alw am ddeunydd cerddorol, yn gyfrolau ac yn daflenni, galw a ddiwallwyd gan nifer o gyhoeddwyr Cymreig a fu’n weithgar yn ail hanner y 19g. a dechrau’r 20g. Ond roedd hefyd ffactorau allanol. Tyfodd y system reilffordd mewn modd dramatig rhwng 1840 ac 1870, a’i gwnaeth yn rhwyddach i ddosbarthu cyhoeddiadau i wahanol ganolfannau.
  
Erbyn 1861 hefyd diddymwyd y dreth olaf ar bapur, a daeth yn haws i gyhoeddi cerddoriaeth a chylchgronau cerddorol am brisiau a oedd o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhwng 1861 ac 1939 ymddangosodd pedwar ar ddeg o gylchgronau cerddorol Cymraeg, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys atodiadau o ddarnau o gerddoriaeth. Yn sgil poblogrwydd y gymanfa ganu o’r 1870au yn arbennig, cynhyrchwyd llu o lyfrynnau o [[emynau]] a thonau a gwerthwyd miloedd o gopïau o anthemau poblogaidd. Yn yr un cyfnod, tyfodd yr eisteddfod mewn poblogrwydd ar raddfa leol a chenedlaethol, ac mor ddiweddar â’r 1930au ceir y cyhoeddwr D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig gwobrau i bwyllgorau eisteddfodol a ddewisai eu darnau prawf o’i gatalog ef o gerddoriaeth Gymreig.
+
Erbyn 1861 hefyd diddymwyd y dreth olaf ar bapur, a daeth yn haws i gyhoeddi cerddoriaeth a chylchgronau cerddorol am brisiau a oedd o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhwng 1861 ac 1939 ymddangosodd pedwar ar ddeg o gylchgronau cerddorol Cymraeg, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys atodiadau o ddarnau o gerddoriaeth. Yn sgil poblogrwydd y gymanfa ganu o’r 1870au yn arbennig, cynhyrchwyd llu o lyfrynnau o [[Emyn-donau | emynau]] a thonau a gwerthwyd miloedd o gopïau o anthemau poblogaidd. Yn yr un cyfnod, tyfodd yr eisteddfod mewn poblogrwydd ar raddfa leol a chenedlaethol, ac mor ddiweddar â’r 1930au ceir y cyhoeddwr D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig gwobrau i bwyllgorau eisteddfodol a ddewisai eu darnau prawf o’i gatalog ef o gerddoriaeth Gymreig.
  
 
Yn ystod y 19g. a dechrau’r 20g. roedd nifer o gyhoeddwyr yn cysodi cerddoriaeth gan ddefnyddio ffontiau o deip cerddorol, techneg a oedd o fewn eu cyrraedd ar gyfer darnau byrion. Dyma a wnâi Robert Jones, Bethesda, er enghraifft, cyhoeddwr argraffiad cyntaf anthem John Ambrose Lloyd, ''Teyrnasoedd y ddaear''. Bu’r cysodwr cerddoriaeth Benjamin Morris Williams (1832–1903) yn gweithio i Thomas Gee ac i Isaac Jones, Treherbert, a bu Richard Mills (1840–1903) yn gysodwr cerdd i Hughes a’i Fab. Ond gan fod cyhoeddwyr Cymru yn gwmnïau bach at ei gilydd – hyd yn oed yng nghwmni mawr Hughes a’i Fab un rhan oedd cerddoriaeth o raglen gyhoeddi fwy o lawer – ni allent gadw’r sgiliau arbenigol hyn o fewn eu tai cyhoeddi eu hunain. O ddiwedd y 19g. daethant i ddibynnu’n gynyddol ar wasanaeth engrafwyr proffesiynol cwmnïau megis Augener yn Llundain a Bayley and Ferguson yn Glasgow: ni bu erioed draddodiad o engrafio cerddoriaeth yng Nghymru.
 
Yn ystod y 19g. a dechrau’r 20g. roedd nifer o gyhoeddwyr yn cysodi cerddoriaeth gan ddefnyddio ffontiau o deip cerddorol, techneg a oedd o fewn eu cyrraedd ar gyfer darnau byrion. Dyma a wnâi Robert Jones, Bethesda, er enghraifft, cyhoeddwr argraffiad cyntaf anthem John Ambrose Lloyd, ''Teyrnasoedd y ddaear''. Bu’r cysodwr cerddoriaeth Benjamin Morris Williams (1832–1903) yn gweithio i Thomas Gee ac i Isaac Jones, Treherbert, a bu Richard Mills (1840–1903) yn gysodwr cerdd i Hughes a’i Fab. Ond gan fod cyhoeddwyr Cymru yn gwmnïau bach at ei gilydd – hyd yn oed yng nghwmni mawr Hughes a’i Fab un rhan oedd cerddoriaeth o raglen gyhoeddi fwy o lawer – ni allent gadw’r sgiliau arbenigol hyn o fewn eu tai cyhoeddi eu hunain. O ddiwedd y 19g. daethant i ddibynnu’n gynyddol ar wasanaeth engrafwyr proffesiynol cwmnïau megis Augener yn Llundain a Bayley and Ferguson yn Glasgow: ni bu erioed draddodiad o engrafio cerddoriaeth yng Nghymru.
Llinell 15: Llinell 16:
 
Parhaodd y patrwm o gyhoeddi a sefydlwyd yn rhan olaf y 19g. i mewn i hanner cyntaf yr 20g., ond gwelwyd safonau’n codi, yn enwedig dan ddylanwad y Cyngor Cerdd Cenedlaethol a ffurfiwyd yn 1919, ac a hybodd gyhoeddi gweithiau newydd gan y to iau o gyfansoddwyr Cymreig a chyfieithiadau i’r Gymraeg o ddarnau yn y traddodiad Ewropeaidd. Cyflawnwyd gwaith tebyg gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937 ymlaen.
 
Parhaodd y patrwm o gyhoeddi a sefydlwyd yn rhan olaf y 19g. i mewn i hanner cyntaf yr 20g., ond gwelwyd safonau’n codi, yn enwedig dan ddylanwad y Cyngor Cerdd Cenedlaethol a ffurfiwyd yn 1919, ac a hybodd gyhoeddi gweithiau newydd gan y to iau o gyfansoddwyr Cymreig a chyfieithiadau i’r Gymraeg o ddarnau yn y traddodiad Ewropeaidd. Cyflawnwyd gwaith tebyg gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937 ymlaen.
  
Cyhoeddwyd cryn amrywiaeth o gerddoriaeth gan gyhoeddwyr Cymreig, yn unawdau, llyfrau emynau a llyfrau canu, darnau corawl ac weithiau ddarnau mwy sylweddol megis ''Dewi Sant'' (1961) a ''Pantycelyn'' (1964) o waith [[Arwel Hughes]] gan Wasg Prifysgol Cymru. Cyhoeddodd Snell un o ganeuon cynnar [[David Wynne]] – ''Go, lovely rose/O rosyn, dos'' (1949). Eto i gyd, gan dai cyhoeddi Seisnig y cyhoeddwyd nifer o gyfanweithiau a chyfansoddiadau eraill cyfansoddwyr yr 20g. – gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn achos llawer o weithiau [[Grace Williams]], [[William Mathias]] ac [[Alun Hoddinott]], gan Novello (e.e. ''The Country Beyond the Stars'' gan [[Daniel Jones]]) a Curwen (e.e. ''The Black Ram'' gan [[Ian Parrott]]).
+
Cyhoeddwyd cryn amrywiaeth o gerddoriaeth gan gyhoeddwyr Cymreig, yn unawdau, llyfrau emynau a llyfrau canu, darnau corawl ac weithiau ddarnau mwy sylweddol megis ''Dewi Sant'' (1961) a ''Pantycelyn'' (1964) o waith [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] gan Wasg Prifysgol Cymru. Cyhoeddodd Snell un o ganeuon cynnar [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] – ''Go, lovely rose/O rosyn, dos'' (1949). Eto i gyd, gan dai cyhoeddi Seisnig y cyhoeddwyd nifer o gyfanweithiau a chyfansoddiadau eraill cyfansoddwyr yr 20g. – gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn achos llawer o weithiau [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]], [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] ac [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]], gan Novello (e.e. ''The Country Beyond the Stars'' gan [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]]) a Curwen (e.e. ''The Black Ram'' gan [[Parrott, Ian (1916-2012) | Ian Parrott]]).
  
Erbyn yr 1960au gwelid llai o gyhoeddi cerddoriaeth Gymreig wrth i’r gweisg a fu’n gyfrifol grebachu neu ddarfod yn llwyr, ond cafwyd gwynt newydd i hwyliau’r byd cyhoeddi yn negawd olaf yr 20g. trwy waith [[Curiad]] a Gwynn yn arbennig. Gwnaed cysodi ac argraffu cerddoriaeth yn haws trwy dechnegau cyfrifiadurol, a gwelwyd erbyn degawd cyntaf yr 21g. gyhoeddwyr yn ymaddasu i’r byd digidol trwy gynnig cerddoriaeth i’w lawrlwytho yn hytrach nag ar ffurf brintiedig draddodiadol.
+
Erbyn yr 1960au gwelid llai o gyhoeddi cerddoriaeth Gymreig wrth i’r gweisg a fu’n gyfrifol grebachu neu ddarfod yn llwyr, ond cafwyd gwynt newydd i hwyliau’r byd cyhoeddi yn negawd olaf yr 20g. trwy waith Curiad a Gwynn yn arbennig. Gwnaed cysodi ac argraffu cerddoriaeth yn haws trwy dechnegau cyfrifiadurol, a gwelwyd erbyn degawd cyntaf yr 21g. gyhoeddwyr yn ymaddasu i’r byd digidol trwy gynnig cerddoriaeth i’w lawrlwytho yn hytrach nag ar ffurf brintiedig draddodiadol.
  
 
'''Rhidian Griffiths'''
 
'''Rhidian Griffiths'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 10:30, 25 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Nid yng Nghymru y cyhoeddwyd y gerddoriaeth Gymreig gyntaf i’w hargraffu, ond yn Llundain, yn rhan o’r casgliad o salmau mydryddol gan Edmwnd Prys, Llyfr y Psalmau, a argraffwyd yn 1621 gan Thomas Purfoot. Roedd yr un peth yn wir am y casgliadau o alawon Cymreig a ymddangosodd yn niwedd y 18g. o law John Parry (Rhiwabon) ac Edward Jones (Bardd y Brenin). Y cyntaf i argraffu cerddoriaeth yng Nghymru oedd Ishmael Dafydd, Trefriw, a gyhoeddodd gasgliad John Ellis (1760–1839) o donau ac anthemau, Mawl yr Arglwydd, yn 1816, er mai yn Llundain mae’n debyg yr engrafiwyd y platiau cerdd. Dros y degawdau dilynol, tyfodd patrwm o gyhoeddiadau cerddorol Cymreig, er mai araf oedd y twf tan wedi canol y 19g. Rhwng tua 1820 ac 1860 gellir adnabod tri dosbarth o gyhoeddiad: gramadegau cerddorol, yn amlinellu egwyddorion cerddoriaeth, a gynhwysai enghreifftiau cerddorol; casgliadau o donau ac anthemau, a gynhwysai weithiau ragarweiniad ar elfennau cerddoriaeth; a chasgliadau o alawon cenedlaethol.

Perthyn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau’r trydydd dosbarth i’r cyhoeddiadau ‘estron’ – fe’u cynhyrchwyd yn Llundain ar gyfer cynulleidfa freintiedig ac eithrio’r ddau gasgliad arloesol o alawon gwerin, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844) gan Maria Jane Williams a argraffwyd yn Llanymddyfri gan William Rees, a Y Caniedydd Cymreig (1845) gan Ieuan Ddu (John Thomas; 1795–1871), a argraffwyd ym Merthyr Tudful gan David Jones. Mwy Cymreig eu naws a’u tarddiad oedd y gramadegau cerddorol megis Grisiau cerdd arwest (1823) gan Ieuan Ddu o Lan Tawy (John Ryland Harris, 1802–23), a argraffwyd yn Abertawe gan Joseph Harris (Gomer); Y caniedydd crefyddol (1828) gan William Owen (1788–1838), a argraffwyd yng Nghaer gan John Parry, a Gramadeg cerddoriaeth (1838 a sawl argraffiad wedyn) gan John Mills (1812–73), a argraffwyd yn Llanidloes gan John Mendus Jones.

Yn yr un modd, mae naws frodorol i’r casgliadau tonau Peroriaeth hyfryd (1837) gan John Parry, a argraffwyd yng Nghaer; Caniadau y cyssegr (1839) gan John Roberts, a argraffwyd yn Ninbych gan Thomas Gee yr hynaf; sawl casgliad a argraffwyd yn Llanidloes, megis Caniadau Seion (1840) a Yr arweinydd cerddorol (1842–45) gan Richard Mills; Y salmydd eglwysig (1847) gan John Mills; Y salmydd cenedlaethol (1846), Ceinion cerddoriaeth (1852) a Gemau cerddoriaeth (1854) gan Hafrenydd (Thomas Williams; 1807–94); a Telyn Seion gan Rosser Beynon (1811–76), a argraffwyd ym Merthyr yn 1848.

Awgryma’r llif hwn o gyhoeddiadau fod y farchnad gerddorol yn tyfu; ond trodd y llif yn llanw wedi 1860, am fwy nag un rheswm. Y rheswm pennaf oedd fod twf aruthrol mewn gweithgarwch cerddorol ar ffurf canu corawl a chynulleidfaol a mwy o alw am ddeunydd cerddorol, yn gyfrolau ac yn daflenni, galw a ddiwallwyd gan nifer o gyhoeddwyr Cymreig a fu’n weithgar yn ail hanner y 19g. a dechrau’r 20g. Ond roedd hefyd ffactorau allanol. Tyfodd y system reilffordd mewn modd dramatig rhwng 1840 ac 1870, a’i gwnaeth yn rhwyddach i ddosbarthu cyhoeddiadau i wahanol ganolfannau.

Erbyn 1861 hefyd diddymwyd y dreth olaf ar bapur, a daeth yn haws i gyhoeddi cerddoriaeth a chylchgronau cerddorol am brisiau a oedd o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhwng 1861 ac 1939 ymddangosodd pedwar ar ddeg o gylchgronau cerddorol Cymraeg, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys atodiadau o ddarnau o gerddoriaeth. Yn sgil poblogrwydd y gymanfa ganu o’r 1870au yn arbennig, cynhyrchwyd llu o lyfrynnau o emynau a thonau a gwerthwyd miloedd o gopïau o anthemau poblogaidd. Yn yr un cyfnod, tyfodd yr eisteddfod mewn poblogrwydd ar raddfa leol a chenedlaethol, ac mor ddiweddar â’r 1930au ceir y cyhoeddwr D. J. Snell, Abertawe, yn cynnig gwobrau i bwyllgorau eisteddfodol a ddewisai eu darnau prawf o’i gatalog ef o gerddoriaeth Gymreig.

Yn ystod y 19g. a dechrau’r 20g. roedd nifer o gyhoeddwyr yn cysodi cerddoriaeth gan ddefnyddio ffontiau o deip cerddorol, techneg a oedd o fewn eu cyrraedd ar gyfer darnau byrion. Dyma a wnâi Robert Jones, Bethesda, er enghraifft, cyhoeddwr argraffiad cyntaf anthem John Ambrose Lloyd, Teyrnasoedd y ddaear. Bu’r cysodwr cerddoriaeth Benjamin Morris Williams (1832–1903) yn gweithio i Thomas Gee ac i Isaac Jones, Treherbert, a bu Richard Mills (1840–1903) yn gysodwr cerdd i Hughes a’i Fab. Ond gan fod cyhoeddwyr Cymru yn gwmnïau bach at ei gilydd – hyd yn oed yng nghwmni mawr Hughes a’i Fab un rhan oedd cerddoriaeth o raglen gyhoeddi fwy o lawer – ni allent gadw’r sgiliau arbenigol hyn o fewn eu tai cyhoeddi eu hunain. O ddiwedd y 19g. daethant i ddibynnu’n gynyddol ar wasanaeth engrafwyr proffesiynol cwmnïau megis Augener yn Llundain a Bayley and Ferguson yn Glasgow: ni bu erioed draddodiad o engrafio cerddoriaeth yng Nghymru.

Parhaodd y patrwm o gyhoeddi a sefydlwyd yn rhan olaf y 19g. i mewn i hanner cyntaf yr 20g., ond gwelwyd safonau’n codi, yn enwedig dan ddylanwad y Cyngor Cerdd Cenedlaethol a ffurfiwyd yn 1919, ac a hybodd gyhoeddi gweithiau newydd gan y to iau o gyfansoddwyr Cymreig a chyfieithiadau i’r Gymraeg o ddarnau yn y traddodiad Ewropeaidd. Cyflawnwyd gwaith tebyg gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937 ymlaen.

Cyhoeddwyd cryn amrywiaeth o gerddoriaeth gan gyhoeddwyr Cymreig, yn unawdau, llyfrau emynau a llyfrau canu, darnau corawl ac weithiau ddarnau mwy sylweddol megis Dewi Sant (1961) a Pantycelyn (1964) o waith Arwel Hughes gan Wasg Prifysgol Cymru. Cyhoeddodd Snell un o ganeuon cynnar David WynneGo, lovely rose/O rosyn, dos (1949). Eto i gyd, gan dai cyhoeddi Seisnig y cyhoeddwyd nifer o gyfanweithiau a chyfansoddiadau eraill cyfansoddwyr yr 20g. – gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn achos llawer o weithiau Grace Williams, William Mathias ac Alun Hoddinott, gan Novello (e.e. The Country Beyond the Stars gan Daniel Jones) a Curwen (e.e. The Black Ram gan Ian Parrott).

Erbyn yr 1960au gwelid llai o gyhoeddi cerddoriaeth Gymreig wrth i’r gweisg a fu’n gyfrifol grebachu neu ddarfod yn llwyr, ond cafwyd gwynt newydd i hwyliau’r byd cyhoeddi yn negawd olaf yr 20g. trwy waith Curiad a Gwynn yn arbennig. Gwnaed cysodi ac argraffu cerddoriaeth yn haws trwy dechnegau cyfrifiadurol, a gwelwyd erbyn degawd cyntaf yr 21g. gyhoeddwyr yn ymaddasu i’r byd digidol trwy gynnig cerddoriaeth i’w lawrlwytho yn hytrach nag ar ffurf brintiedig draddodiadol.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.