Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
 
Cafodd yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru – Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru bellach – ei sefydlu yn 1955 gan John Edwards (1905–66) o Bontardawe. Yn wyneb y diffyg neuaddau cyngerdd, credai Edwards, a ddaeth yn ddiweddarach yn berchennog ar y label recordiau Qualiton, mai’r unig ffordd i hybu ymwybyddiaeth o waith gan gyfansoddwyr newydd yng Nghymru a thu hwnt oedd drwy ryddhau recordiadau o’r gwaith hwnnw.
 
Roedd ychydig o weithiau cyfansoddwyr Cymreig cyfoes o’r cyfnod, megis [[Grace Williams]] (1906–77), [[Arwel Hughes]] (1909–88) a [[Daniel Jones]] (1912–93) wedi eu recordio ddiwedd yr 1940au gan Gymdeithas Cerddoriaeth Recordedig Cymru (Welsh Recorded Music Society) a’u rhyddhau gan Gwmni Decca o 1949 ymlaen er mwyn eu gwneud yn hysbys i gynulleidfa ehangach. Yn 1955, sefydlodd Edwards yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig i weithio tuag at yr un amcan. Comisiynodd yr Urdd Alun Hoddinott i ysgrifennu ei ''Symffoni Rhif 1'' ar gyfer perfformiad cyntaf yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli yn Awst 1955, a chyfansoddodd [[David Wynne]] ei ''Symffoni Rhif 2'' o dan nawdd yr Urdd ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn ddilynol yn Aberdâr.
+
Roedd ychydig o weithiau cyfansoddwyr Cymreig cyfoes o’r cyfnod, megis [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]] (1906–77), [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] (1909–88) a [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]] (1912–93) wedi eu recordio ddiwedd yr 1940au gan Gymdeithas Cerddoriaeth Recordedig Cymru (Welsh Recorded Music Society) a’u rhyddhau gan Gwmni Decca o 1949 ymlaen er mwyn eu gwneud yn hysbys i gynulleidfa ehangach. Yn 1955, sefydlodd Edwards yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig i weithio tuag at yr un amcan. Comisiynodd yr Urdd Alun Hoddinott i ysgrifennu ei ''Symffoni Rhif 1'' ar gyfer perfformiad cyntaf yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Pwllheli yn Awst 1955, a chyfansoddodd [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] ei ''Symffoni Rhif 2'' o dan nawdd yr Urdd ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn ddilynol yn Aberdâr.
  
Gweithiodd John Edwards, ac ysgrifennydd yr Urdd, Roger Jones, yn ddi-baid i ymestyn ymwybyddiaeth o waith yr Urdd yn yr 1950au a’r 1960au. Aethant ati i ddwyn perswâd ar y BBC i ddarlledu gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig, cyhoeddi catalogau o gerddoriaeth gyfoes o Gymru a dechrau cyfnodolyn dwyieithog, ''Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music'', yn 1959. Buont hefyd yn trefnu cyngresau blynyddol yng Ngregynog tan 1974.
 
Heddiw mae’r Gymdeithas yn noddi pum gwobr, gan gynnwys Tlws y Cerddor (a roddir yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol) a Gwobr Goffa John Edwards, am wasanaeth i gerddoriaeth Cymru. Y cyntaf i’w hennill oedd Alun Hoddinott, ac ers hynny cyfansoddwyr megis [[Grace Williams]] (1966), [[Ian Parrott]] (1977), [[Mansel Thomas]] (1983) a [[John Metcalf]] (1995), ynghyd â nifer o berfformwyr ac [[arweinyddion]]. Cynhelir rhwydwaith rhyngwladol o gynrychiolwyr i hybu cerddoriaeth Gymreig y tu hwnt i Gymru er 2003. Mae cyfraniad y Gymdeithas i fywyd cerddorol y genedl yn parhau’n un hollbwysig.
+
Heddiw mae’r Gymdeithas yn noddi pum gwobr, gan gynnwys Tlws y Cerddor (a roddir yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol) a Gwobr Goffa John Edwards, am wasanaeth i gerddoriaeth Cymru. Y cyntaf i’w hennill oedd Alun Hoddinott, ac ers hynny cyfansoddwyr megis Grace Williams (1966), [[Parrott, Ian (1916-2012) | Ian Parrott]] (1977), [[Thomas, Mansel (1909-86) | Mansel Thomas]] (1983) a [[Metcalf, John (g.1946) | John Metcalf]] (1995), ynghyd â nifer o berfformwyr ac [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddion]]. Cynhelir rhwydwaith rhyngwladol o gynrychiolwyr i hybu cerddoriaeth Gymreig y tu hwnt i Gymru er 2003. Mae cyfraniad y Gymdeithas i fywyd cerddorol y genedl yn parhau’n un hollbwysig.
  
'''Craig Owen Jones'''
 
'''Craig Owen Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 14:46, 6 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cafodd yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru – Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru bellach – ei sefydlu yn 1955 gan John Edwards (1905–66) o Bontardawe. Yn wyneb y diffyg neuaddau cyngerdd, credai Edwards, a ddaeth yn ddiweddarach yn berchennog ar y label recordiau Qualiton, mai’r unig ffordd i hybu ymwybyddiaeth o waith gan gyfansoddwyr newydd yng Nghymru a thu hwnt oedd drwy ryddhau recordiadau o’r gwaith hwnnw.

Roedd ychydig o weithiau cyfansoddwyr Cymreig cyfoes o’r cyfnod, megis Grace Williams (1906–77), Arwel Hughes (1909–88) a Daniel Jones (1912–93) wedi eu recordio ddiwedd yr 1940au gan Gymdeithas Cerddoriaeth Recordedig Cymru (Welsh Recorded Music Society) a’u rhyddhau gan Gwmni Decca o 1949 ymlaen er mwyn eu gwneud yn hysbys i gynulleidfa ehangach. Yn 1955, sefydlodd Edwards yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig i weithio tuag at yr un amcan. Comisiynodd yr Urdd Alun Hoddinott i ysgrifennu ei Symffoni Rhif 1 ar gyfer perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn Awst 1955, a chyfansoddodd David Wynne ei Symffoni Rhif 2 o dan nawdd yr Urdd ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn ddilynol yn Aberdâr.

Gweithiodd John Edwards, ac ysgrifennydd yr Urdd, Roger Jones, yn ddi-baid i ymestyn ymwybyddiaeth o waith yr Urdd yn yr 1950au a’r 1960au. Aethant ati i ddwyn perswâd ar y BBC i ddarlledu gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig, cyhoeddi catalogau o gerddoriaeth gyfoes o Gymru a dechrau cyfnodolyn dwyieithog, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, yn 1959. Buont hefyd yn trefnu cyngresau blynyddol yng Ngregynog tan 1974.

Heddiw mae’r Gymdeithas yn noddi pum gwobr, gan gynnwys Tlws y Cerddor (a roddir yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol) a Gwobr Goffa John Edwards, am wasanaeth i gerddoriaeth Cymru. Y cyntaf i’w hennill oedd Alun Hoddinott, ac ers hynny cyfansoddwyr megis Grace Williams (1966), Ian Parrott (1977), Mansel Thomas (1983) a John Metcalf (1995), ynghyd â nifer o berfformwyr ac arweinyddion. Cynhelir rhwydwaith rhyngwladol o gynrychiolwyr i hybu cerddoriaeth Gymreig y tu hwnt i Gymru er 2003. Mae cyfraniad y Gymdeithas i fywyd cerddorol y genedl yn parhau’n un hollbwysig.

Craig Owen Jones

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.