Cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

[Saesneg: Language Planning and Language Policy]

Cyflwyno cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

Mae 195 o wladwriaethau annibynnol yn bodoli yn y byd heddiw a thros 7,000 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad ynddynt (Eberhard, Simons & Fennig 2021). O ystyried hynny, gwelwn fod amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol yn nodwedd ganolog o fywyd mewn cymunedau ledled y byd. O fewn y cyd-destun hwn mae cynllunio ieithyddol (language planning) yn bodoli fel maes sy’n ceisio dylanwadau ar y modd y mae un iaith neu nifer o ieithoedd yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd.

Bydd y cofnod hwn yn edrych ar y modd y mae penderfyniadau ynglŷn â defnydd iaith yn aml yn cael eu gwneud ar lefel lywodraethol neu rynglywodraethol. Er enghraifft, mae llywodraethau’n sefydlu polisïau ynglŷn â pha iaith neu ieithoedd y mae llywodraeth yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ynddi / ynddynt, pa iaith neu ieithoedd a ddefnyddir ar gyfer addysg neu ar gyfer datganiadau’r llywodraeth i’r cyhoedd (e.e. Mesur y Gymraeg, Llywodraeth Cymru 2011). Ond nid llywodraethau yn unig sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â defnydd iaith. Mae busnesau’r sector preifat a grwpiau cymunedol hefyd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â defnydd iaith. Er enghraifft, gall siop benderfynu ar iaith ei harwyddion neu gall clwb chwaraeon lleol wneud penderfyniad ynglŷn ag iaith sesiynau hyfforddi. Yn ogystal, mae unigolion amlieithog yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â defnydd iaith o fewn cyd-destun penodol, o fewn y teulu, gyda phlant neu yn y gymuned ehangach.

Mae cynllunio ieithyddol yn cael ei weld fel maes cynyddol bwysig o fewn gwledydd amlieithog fel Cymru. Er enghraifft, o fewn cyd-destun Cymreig mae cynllunwyr ieithyddol yn cael eu cyflogi ar wahanol lefelau o’r llywodraeth (e.e. gweision sifil Llywodraeth Cymru a staff Comisiynydd y Gymraeg) a lywodraeth leol (e.e. Cynghorau Sir). Maent hefyd i’w canfod o fewn y system addysg ac ar lefel gymunedol (e.e. Mentrau Iaith). Yn wir, gan fod gofynion cyfreithiol yn cael eu gosod ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru, mae hyn yn galw am arbenigwyr ar gynllunio ieithyddol, yn ymgynghorwyr neu swyddogion iaith, ym mhob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru. O ganlyniad gellir dadlau bod cynllunio ieithyddol wedi datblygu i fod yn faes galwedigaethol a phroffesiynol o bwys heddiw yng Nghymru gan gyflogi gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr mewn amrediad eang o feysydd.

Diffinio cynllunio ieithyddol a pholisi iaith

Ymgais fwriadol i ddylanwadu ar ddefnydd iaith yw cynllunio ieithyddol (Cooper 1989). Mae Kaplan & Baldauf (1997:3) yn disgrifio cynllunio ieithyddol fel ‘a body of ideas, laws and regulations (language policy), change, rules, beliefs and practices intended to achieve a planned change (or to stop a change from happening) in the language use in one or more communities’. Gellir dehongli felly fod cynllunio ieithyddol yn ymwneud â phenderfyniadau ynglŷn â pha iaith sy’n cael ei defnyddio, ymhle a gyda phwy. Yma gwelwn y cyswllt rhwng cynllunio ieithyddol a’r modd y mae’r cynlluniau hyn yn dylanwadu ar bolisi iaith o fewn cyd-destunau amrywiol.

Cyfeiria Baldauf (2006) at dair lefel o gynllunio ieithyddol, sef cynllunio macro, meso a micro. Llywodraethau a’u hasiantaethau sydd fel arfer yn cael eu gweld fel y prif sefydliadau sy’n ymwneud â chynllunio ieithyddol (Liddicoat & Baldauf 2008) a gelwir y math hwn o gynllunio ieithyddol yn gynllunio ar lefel facro. Yn yr achos hwn mae cynllunio macro yn digwydd o’r brig i’r bôn, wrth i bolisïau amrywiol y llywodraeth ddylanwadu ar ddefnydd iaith o fewn gwlad benodol, fel Cymru, er enghraifft. Fodd bynnag, noda Baldauf (2006) y gall cynllunio ieithyddol ddigwydd ar lefel ficro hefyd, sef o’r bôn i’r brig, wrth i unigolion a chymunedau ymwneud â chynllunio’u defnydd o iaith neu ieithoedd ar lefel leol (gweler Hodges & C. Prys 2018 am enghraifft o fewn cyd-destun Cymreig). Mae cynllunio meso yn y canol rhwng y ddau begwn hyn, gan gynnwys cyrff lled-lywodraethol a rhanddeiliaid eraill sy’n gweithredu ar lefel gymunedol (e.e. Mentrau Iaith yng Nghymru).

Mae polisi iaith yn aml yn destun trafod wrth ystyried cynllunio ieithyddol. I nifer, ffin niwlog sydd rhyngddynt ond mae’n bwysig gwahanu rhyngddynt hefyd. Noda Mesthrie et al. (2009: 371) fod polisi iaith yn cyfeirio at ‘the more general linguistic, political and social goals underlying the actual language planning process’. Hynny yw, polisi iaith yw cynnyrch y broses o gynllunio ieithyddol. Noda Omoniyi (2004) mai ymgais fwriadol i newid defnydd iaith unigolion neu gymunedau yw polisi iaith, a bod y cymunedau ieithyddol hyn yn gallu bodoli ar lefel leol, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol neu’n drawsffiniol. Er enghraifft, gellir nodi bod Llywodraeth Cymru yn meddu ar bolisïau iaith sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru (e.e. Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru 2017). Yn yr un modd mae gan yr Undeb Ewropeaidd bolisïau iaith sy’n nodi pa ieithoedd yw’r rhai swyddogol o fewn y sefydliad a pha rhai sy’n rhai lled-swyddogol (Gazzola 2016). O ganlyniad, gellir honni mai nod polisi ieithyddol yw gosod cynllunio ieithyddol ar waith ar lefel gymdeithasol ac ymarferol.

Pedair teipoleg o gynllunio ieithyddol

Mae Mesthrie et al. (2009) yn cyfeirio at y dimensiynau amrywiol sy’n bodoli o fewn cynllunio ieithyddol, gan gyfeirio at gynllunio statws, corpws, caffael a chynllunio bri. Yn ôl Kaplan & Baldauf (1997) mae cynllunio statws yn cael ei ystyried fel y broses fwriadol o osod statws ar iaith neu ieithoedd penodol. Mae Cooper (1989) yn cyfeirio at benderfyniadau ynglŷn â pha iaith i’w phennu fel iaith swyddogol gwlad fel enghraifft o hyn, iaith y llysoedd neu iaith gweinyddiaeth gyhoeddus. Gellir nodi bod cynllunio statws (status planning) sy’n ymwneud â’r Gymraeg yng Nghymru yn enghraifft ddiweddar o hyn gyda Mesur y Gymraeg 2011 yn gosod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru.

Tra bo cynllunio statws yn ymwneud ag elfennau cymdeithasol ynglŷn â defnydd iaith, mae cynllunio corpws (corpus planning) yn ymwneud â chynnwys ieithyddol ieithoedd unigol, yn hytrach na ffactorau allanol, cymdeithasol neu wleidyddol. Gall cynllunio corpws gynnwys safoni orgraff iaith, safoni termau, creu iaith safonol at ddibenion swyddogol (yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle ceir gwahanol dafodieithoedd heb draddodiad o iaith lenyddol, ysgrifenedig, fel yr iaith Romani er enghraifft), a gofalu bod geiriaduron, llyfrau gramadeg ac adnoddau eraill ar gael i roi arweiniad i bobl ynghylch sut i ddefnyddio’r iaith. Er hynny, mae Kaplan & Baldauf (1997:48) yn nodi bod gwahaniaethu’n daclus rhwng cynllunio statws a chynllunio corpws yn anodd, gan fod cynllunio corpws yn bodoli o fewn y byd go iawn â dylanwadau hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol.

Cyfeiria Cooper (1989) at drydedd deipoleg i’w hystyried, sef cynllunio caffael (acquisition planning). Mae cynllunio caffael yn ymwneud yn benodol ag ymdrechion i hwyluso a hyrwyddo dysgu iaith benodol neu ieithoedd penodol. Mae Baker & Prys Jones (1998) yn cyfeirio at gynlluniau sy’n ymwneud â dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghymru) neu gynlluniau i blant ddysgu iaith y Maori yn Seland Newydd . Yn yr achosion hyn gwelir ymgais gwledydd i gynnal neu adfer y defnydd o iaith benodol mewn systemau addysg amrywiol.

Y bedwaredd deipoleg yw cynllunio bri (prestige planning), sef cynllunio sy’n ymwneud â chreu amgylchiadau seicolegol ffafriol ar gyfer iaith (Mesthrie et al. 2009). Mae Haarmann (1990) yn cyfeirio at bwysigrwydd gosod bri ar ieithoedd penodol a dylanwad hynny ar unigolion a’u defnydd hwy o iaith neu ieithoedd penodol o fewn eu bywydau bob dydd . O fewn y cyd-destun Cymreig, gellir cyfeirio at waith Comisiynydd y Gymraeg yn hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg fel enghraifft o gynllunio bri.

O fewn yr enghreifftiau uchod gwelir rôl cynllunio ieithyddol yn ceisio dylanwadu ar y defnydd o iaith mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol gyd-destunau. O ganlyniad, gwelwn ddylanwad pŵer cymdeithasol ar y broses o gynllunio ieithyddol, wrth i gynllunwyr geisio cynhyrchu newid cymdeithasol ieithyddol neu atal newid rhag digwydd. Gwelwn fod elfen wleidyddol ynghlwm wrth gynllunio ieithyddol ac edrychwn isod ar ei ddatblygiad fel maes, a’r modd y mae’n cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ddefnydd iaith o fewn cymdeithas.

Datblygiad cynllunio ieithyddol

Yn ôl Ricento (2000) mae modd olrhain y broses o gynllunio ieithyddol yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, wrth i Ladin gael ei chyflwyno fel iaith yr ymerodraeth honno—roedd yn rhaid i bawb siarad Lladin er mwyn cyfathrebu â’r llywodraeth ymerodrol (imperial). Fodd bynnag, nid ymddangosodd y term ‘cynllunio ieithyddol’ tan yr ugeinfed ganrif. Datblygodd cynllunio ieithyddol a pholisi ieithyddol fel maes academaidd yn yr 17g a’r 18g wrth i syniadau ynglŷn â chenedlaetholdeb a chenedl-wladwriaethau modern gael eu datblygu (Wright 2016). Yn ystod y cyfnod hwn, nododd Wright mai hyrwyddo unffurfiaeth ieithyddol oedd prif nod cynllunio ieithyddol, gan gyfeirio at bolisïau iaith yn Ffrainc fel enghraifft amlwg o hyn, lle nodwyd mai Ffrangeg oedd unig iaith y wladwriaeth. Hyd heddiw, gwelir enghraifft ddadleuol o hyrwyddo unffurfiaeth ieithyddol yn Ffrainc, sef polisi ieithyddol sy’n deillio o’r Chwyldro Ffrengig yn 1789. Yn yr achos hwn, hyrwyddwyd Ffrangeg fel iaith llywodraeth ac addysg yn y weriniaeth honno, a hynny ar draul ieithoedd lleiafrifol brodorol fel y Llydaweg, Ocsitaneg a Basgeg. Noda Wright (2000) fod dylanwad y Chwyldro Ffrengig yn parhau i’w weld yn Ffrainc hyd heddiw lle mae’r ieithoedd rhanbarthol yn cael eu gweld gan rai fel bygythiad i undod y wlad. Ymhellach, noda Skutnabb-Kangas & Phillipson (2017:2) i’r athrawiaeth hon o unieithrwydd (monolingualism) gael ei hymestyn o amgylch y byd wrth i wladwriaethau’r cyfnod modern hyrwyddo’r polisïau o ‘un wladwriaeth, un iaith’. Gwelwn felly fod cysyniadau’n ymwneud ag adeiladu undod cenedlaethol ac unieithrwydd o fewn cenedl-wladwriaeth (nation state) yn nodwedd o gynllunio ieithyddol yn y cyfnod cynnar hwn.

Yn sgil yr Ail Ryfel Byda threfedigaethedd , datblygodd y maes ymhellach (May 2006: 256) oherwydd yr angen i ddatrys problemau ieithyddol wrth lywodraethu’r tiriogaethau a adawyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig (ac eraill), fel gwledydd yn Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol. Mae Kaplan & Baldauf (1997:5–7) yn cyfeirio at y sefyllfa yn y gwledydd i’r de o’r Sahara ar ddiwedd y cyfnod trefedigaethol, lle roedd angen sefydlu iaith neu ieithoedd swyddogol er mwyn uno a llywodraethu’r gwledydd hyn. Pwysleisiai’r cyfnod hwn nodweddion strwythurol cynllunio ieithyddol, gan roi sylw penodol i gysoni defnydd iaith a moderneiddio o fewn gwledydd newydd a gwledydd hŷn y byd (Ricento 2000). Yn y cyfnod hwn, gwelir nifer cyfyngedig o ieithoedd yn cael eu blaenoriaethu fel ieithoedd cenedlaethol y genedl-wladwriaeth fodern (e.e. cyflwyno Saesneg ac Hindi fel ieithoedd gweinyddol yn India).

Cyfeiria Wright (2016) at ail gyfnod yng nghanol yr 19g, gan nodi i gynllunio ieithyddol a pholisi iaith ddatblygu fel ymateb grwpiau ac unigolion oedd wedi cael eu gwthio i’r cyrion gan bolisïau iaith trefedigaethol (colonial). Noda Ricento (2000:202) i niwtraliaeth proses cynllunio ieithyddol y cyfnod gael ei chwestiynu, wrth i anghydraddoldebau rhwng grwpiau ieithyddol barhau. Amlygwyd y modd y gall penderfyniadau ynglŷn â defnydd iaith a’r broses o adeiladu cenedl gyfyngu ar ddefnydd ieithoedd lleiafrifol yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol. Gall hyn yn ei dro ddylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol iaith a chynhaliaeth cymunedau ieithyddol lleiafrifol. Fel ymateb i’r anghyfartaledd grym sydd gan grwpiau ieithyddol, gwelwyd datblygiad yn y galwadau gan rai academyddion i amddiffyn hawliau ieithyddol grwpiau ieithyddol sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion yn sgil y broses o adeiladu cenedl (Kymlicka 2001; G. Lewis 2008; Skutnabb-Kangas & Phillipson 2017). Yn sgil y datblygiadau hyn ym maes hawliau ieithyddol, gwelwyd datblygiadau gan gyrff rhynglywodraethol megis y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop i warchod ac, ar adegau, i hyrwyddo hawliau ieithyddol unigolion a grwpiau ieithyddol (gweler G. Lewis 2008 am drafodaeth lawn). Noda Wright (2016) i gynllunio a pholisi iaith ddatblygu ymhellach yn fwy diweddar i ganolbwyntio ar ieithoedd yng nghyd-destun ymfudo a globaleiddio (globalisation). Yn y cyd-destun hwn gwelwyd cymunedau oedd yn siarad un iaith yn dod i gyswllt â chymunedau ieithoedd gwahanol yn sgil y mudo ar raddfa eang a welwyd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, gyda chymunedau ieithoedd yn fwy symudol a heb fod o reidrwydd yn gysylltiedig ag un wlad yn unig. Yn ogystal â hyn, gwelwyd ffocws cynyddol ar y modd y mae globaleiddio yn effeithio ar rwydweithiau iaith unigolion a thwf Saesneg fel iaith gyffredin, a dylanwad hynny ar ieithoedd eraill y byd a’r sawl sy’n eu siarad (Coupland 2010). O fewn y cyd-destun hwn mae maes ‘siaradwyr newydd’ wedi ymddangos fel maes pwysig o fewn cynllunio ieithyddol wrth i unigolion ddysgu ieithoedd cymunedau newydd, fel unigolion neu drwy’r system addysg (gweler gwaith Hodges 2014 am enghraifft o fewn cyd-destun Cymraeg).

O ystyried datblygiad cynllunio ieithyddol fel maes, gwelir bod cynnal (neu greu) undod cenedlaethol a chymdeithasol yn parhau i fod yn nodwedd gyson o fewn y ddisgyblaeth. Wrth gadw mewn cof fod gwledydd y byd yn cynnwys nifer o grwpiau lleiafrifol brodorol, yn ogystal â grwpiau ac unigolion sydd wedi mewnfudo i’r wlad, cred rhai, fel Barry (2001), fod cynnal undod cymdeithasol yn parhau i fod yn bryder. Er mwyn ceisio dygymod â hyn, mae proses o adeiladu cenedl yn digwydd ym mhob gwlad yn y byd wrth i wladwriaethau ymgymryd â phroses fwriadol o geisio uno’r gwahanol garfanau a geir o fewn ffiniau gwlad i greu un wladwriaeth unedig. Yn ôl Kymlicka (2001:27) mae’r broses o adeiladu cenedl fel arfer yn digwydd drwy bolisïau amrywiol y wladwriaeth, fel dewis iaith swyddogol, cwricwlwm addysg a gofynion dinasyddiaeth. Yma, mae’r wladwriaeth yn ceisio annog neu orfodi aelodau cymdeithas gyfan i integreiddio yn un model gwleidyddol a chymdeithasegol, sy’n rhoi bri ar un diwylliant ac fel arfer yn gweithredu drwy un iaith (fel a welwyd yng Nghymru yn y gorffennol). Gwelir rhan cynllunio ieithyddol yn hyn, wrth i rai gwladwriaethau gyflwyno un iaith fel iaith llywodraeth, addysg a busnes (sef cynllunio statws). Galwai Kaplan & Baldauf (1997:230) y math hwn o gynllunio yn gynllunio ieithyddol negyddol sy’n ceisio cyfyngu ar y defnydd o iaith o fewn gwladwriaethau penodol. Fodd bynnag, gwelwyd cydnabyddiaeth gynyddol yn y maes o allu cynllunio ieithyddol i wthio unigolion a grwpiau cymdeithasol sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol i’r cyrion, a gwelwyd ymateb deddfwriaethol a pholisi iaith mewn nifer o gyd-destunau mewn ymgais i amddiffyn hawliau ieithyddol siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Erbyn heddiw, nid yw pob gwladwriaeth fodern yn hyrwyddo unieithrwydd fel polisi iaith, ac mae gwledydd megis De Affrica, Gwlad Belg, Canada a Chymru yn enghreifftiau o wledydd sy’n hyrwyddo polisïau o ddwyieithrwydd neu amlieithrwydd. Er hynny, dadleuir bod hierarchaeth ieithyddol yn parhau i fodoli, hyd yn oed o fewn gwledydd amlieithog. O ganlyniad, mae tensiynau’n parhau rhwng polisïau sy’n hyrwyddo cynnal undod ac unffurfiaeth genedlaethol ac ieithyddol, a’r galw i amddiffyn lleiafrifoedd ieithyddol.

Cynllunio ieithyddol yng Nghymru

Wrth i ni edrych ar gynllunio ieithyddol yng Nghymru, mae’n bosib i ni ystyried dwy enghraifft o gynllunio ieithyddol â bwriadau tra gwahanol. Yn gyntaf, gellir dehongli bod elfen o gynllunio ieithyddol ynghlwm wrth y Ddeddf Uno (1536). Nod y Ddeddf Uno oedd ymestyn cyfraith Lloegr dros Gymru, ac fel rhan o’r ddeddf nodwyd mai Saesneg fyddai unig iaith y llysoedd yng Nghymru. Gellir dehongli hyn fel ymgais gynnar at gynllunio ieithyddol yng Nghymru; yn yr achos hwn, hyrwyddo’r iaith Saesneg ar draul y Gymraeg a wneir, sef yr hyn a eilw Kaplan & Baldauf (1997:230) yn gynllunio ieithyddol negyddol. Er hynny, noda J. Davies (1990) nad oedd y darlun mor syml â hynny wrth i’r Goron gyflwyno’r Gymraeg fel iaith crefydd yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod (am drafodaeth lawn, gweler J. Davies 1990). Un o ganlyniadau anfwriadol hyn oedd safoni’r iaith Gymraeg (cynllunio corpws) a gosod statws i’r Gymraeg mewn parth cymdeithasol o bwys. Gwelwn felly’r modd y mae cynllunio ieithyddol wedi bod ar waith yng Nghymru ers canrifoedd, gyda chanlyniadau amrywiol o ran statws a defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, gwelwyd y Gymraeg yng Nghymru yn cael ei hamddiffyn ac yn derbyn statws mewn nifer o barthau swyddogol. Rhwng 1942 a 1993 pasiwyd cyfres o ddeddfau gan lywodraeth San Steffan i alluogi defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Yn 1942 pasiwyd Deddf Llysoedd Cymru oedd yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg roi tystiolaeth yn y llysoedd barn yn y Gymraeg, pe baent yn gallu profi eu bod o dan anfantais yn siarad Saesneg (Aitchison & Carter 2000; R. Lewis 1998). Yn dilyn cyfnod o bwyso a phrotestio (gweler Phillips 1998) pasiwyd Deddf Iaith 1967. Fodd bynnag, cyfyng iawn oedd effaith y ddeddf hon, a’i phrif gyfraniad oedd cyflwyno’r cysyniad o ‘ddilysrwydd cyfartal’, sef bod gan ddogfennau cyfreithiol yn yr iaith Gymraeg (e.e. ewyllys) yr un statws cyfreithiol â phe baent wedi eu hysgrifennu yn Saesneg (Prys Davies 2000). Tu hwnt i’r llysoedd barn, ni osododd y ddeddf hon unrhyw ddyletswydd swyddogol ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg (G. Williams & Morris 2000). Yn wir, noda G. Williams (1987) mai cyfreithloni statws israddol y Gymraeg yng Nghymru oedd canlyniad y ddeddf hon.

Yn 1993 pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg, a amlinellodd, am y tro cyntaf, ofynion statudol i ddarparu gwasanaethau sector cyhoeddus yn y Gymraeg. Roedd y ddeddf yn cynnwys yr egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol, gan nodi: cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal (Deddf yr Iaith Gymraeg 1993:3).

Am y tro cyntaf yng Nghymru roedd disgwyl i gyrff cyhoeddus (e.e. byrddau iechyd neu gynghorau sir) baratoi polisi iaith ar ffurf Cynllun Iaith Gymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996). Pwrpas y cynlluniau iaith hyn fyddai amlinellu sut y byddai cyrff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o fewn eu gweithdrefnau, a sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i gefnogi’r cyrff hyn a goruchwylio’r broses o weithredu Deddf Iaith 1993. Er hynny, gwelwn yma amwysedd ynglŷn a beth yn union sy’n briodol neu’n ymarferol wrth ystyried gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg o fewn y sector cyhoeddus. Yn ogystal, fel y gwelir yn y dyfyniad, nid oedd y ddeddf yn gorfodi cyrff cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus gan iddi ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus yn unig. O ganlyniad, beirniadwyd y ddeddf am gynnwys y sector cyhoeddus yn unig, gan adael y sector preifat a’r sector gwirfoddol y tu hwnt i ddylanwad statudol y ddeddf (C. Prys 2010; Dunbar 2009).

Pasiwyd Mesur y Gymraeg yn 2011 gan Lywodraeth Cymru, gan sefydlu am y tro cyntaf fod y Gymraeg yn iaith â statws swyddogol yng Nghymru. Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan y ddeddfwriaeth newydd a sefydlwyd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn lle hynny (Llywodraeth Cymru 2011). Rôl y Comisiynydd Iaith yw galluogi defnyddio’r Gymraeg, gyda’i brif ffocws yn parhau ar wasanaethau’r sector cyhoeddus. Y tro hwn, yn hytrach na nodi y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal (Deddf yr Iaith Gymraeg 1993), nodwyd o dan y Mesur na ddylid trin y Gymraeg ‘yn llai ffafriol na’r Saesneg’ (Llywodraeth Cymru 2011:1). Yn ogystal, daethpwyd â’r weithdrefn o lunio polisïau iaith Gymraeg ar ffurf cynlluniau iaith i ben (ac eithrio mewn rhai achosion, e.e. yn y llysoedd) a daeth trefn newydd i rym, sef Safonau’r Gymraeg. Swyddogaeth y safonau iaith yw amlinellu’r dyletswyddau sydd gan gyrff cyhoeddus (a rhai lled-gyhoeddus) o ran darpariaeth iaith Gymraeg. Gellir dehongli bod rôl Comisiynydd y Gymraeg yn ymdebygu’n fwy i rôl rheoleiddiwr, yn enwedig o gofio bod gan y Comisiynydd y gallu i gosbi cyrff sy’n methu cadw at y gofynion iaith a roddwyd arnynt (hyd at £5,000). Bwriad arall a amlinellir o fewn y Mesur yw ymestyn maes gorchwyl deddfwriaeth iaith i rai rhannau o’r sector preifat. Nodwyd y byddai disgwyl i wasanaethau craidd o’r sector preifat, megis darparwyr dŵr, nwy a thrydan, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau telathrebu (e.e. cwmnïau ffôn), dderbyn safonau iaith a darparu elfennau o’u gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r cyhoedd yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2011:118–20). Gellir dadlau mai dyma un o elfennau mwyaf pellgyrhaeddol y Mesur. Fodd bynnag, ar yr adeg ysgrifennwyd y cofnod yma, nid oedd y safonau hyn wedi eu cyhoeddi, a hynny wyth mlynedd ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth. Yn ogystal â hyn, gellir dadlau nad yw Mesur y Gymraeg 2011 yn creu hawliau ieithyddol clir i’r cyhoedd yng Nghymru, yn enwedig o gofio bod y safonau o ran darpariaeth yn yr iaith Gymraeg a osodir ar sefydliadau yn gallu amrywio yn ôl ardal ddaearyddol neu natur y sefydliad.

Yng Nghymru gwelwyd datblygiadau cynyddol ym maes cynllunio ieithyddol a’r iaith Gymraeg wrth i’r defnydd o’r Gymraeg gael ei brif ffrydio o fewn y wlad. Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth iaith ddiweddaraf, sef Cymraeg 2050 (Llywodraeth Cymru 2017). Amlinella’r strategaeth weledigaeth y llywodraeth bresennol o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn o bobl yng Nghymru erbyn 2050. Bydd rôl cynllunio a pholisi iaith yn allweddol yn y broses hon os yw Llywodraeth Cymru am wireddu ei gweledigaeth uchelgeisiol, a chanlyniad hyn yw fod cynllunio ieithyddol fel maes academaidd a galwedigaethol yn dod yn gynyddol bwysicach yng Nghymru.

Dr. Cynog Prys a Dr. Rhian Hodges (yn deillio o’r e-lyfr Cyflwyniad i Ieithyddiaeth wedi ei olygu gan Dr Sarah Cooper a Dr Laura Arman sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Llyfryddiaeth

Aitchison, J. W. & Carter, H. (2000). Language, economy, and society: the changing fortunes of the Welsh language in the twentieth century. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Baker, C. & Prys Jones, S. (1998). Encyclopedia of bilingualism and bilingual education. (Clevedon: Multilingual Matters)

Baldauf, R. B. (2006). Rearticulating the case for micro language planning in a language ecology context. Current Issues in Language Planning 7 (2-3), 147–170. doi: 10.2167/cilp092.0

Barry, B. (2001). Culture and equality: an egalitarian critique of multiculturalism. (Cambridge, UK: Polity Press)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg. (1996). Cynlluniau iaith Gymraeg : eu paratoi a'u cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg)

Cooper, R. L. (1989). Language planning and social change. (Cambridge: Cambridge University Press)

Coupland, N. (2010). Introduction: sociolinguistics in the global era. Yn: Coupland, N. (gol.), The handbook of language and globalization, (Chichester: Wiley-Blackwell) tt. 1–27 doi: 10.1002/9781444324068.ch

Davies, J. (1990). Hanes Cymru. (Llundain: Penguin)

Deddf yr Iaith Gymraeg. (1993). Pennod 38. (Llundain: Her Majesty’s Stationary Office)

Dunbar, R. (2009, Awst). International comparisons: Celtic cousins—language legislation for Welsh and Scottish Gaelic [cyflwyniad mewn cynhadledd]. Cynhadledd CBA Canadian Legal.

Eberhard, D.M, Simons, G. F. & C. D. Fennig. (2021). Ethnologue: languages of the world. http://www.ethnologue.com [Cyrchwyd: 9 Medi 2021]

Gazzola, M. (2016). Multilingual communication for whom? Language policy and fairness in the European Union. European Union Politics 17(4), 546–569.

Haarmann, H. (1990). Language planning in the light of a general theory of language: a methodological framework. International Journal of the Sociology of Language 86 (1), 103–126

Hodges, R. (2014). Caught in the middle: parents’ perceptions of new Welsh speakers’ language use: the case of Cwm Rhymni, south Wales. Zeszyty Łużyckie 48, 93–114.

Hodges, R. & Prys, C. (2018). The community as a language planning crossroads: macro and micro language planning in communities in Wales. Current Issues in Language Planning 20 (3). 207–225. doi: 10.1080/14664208.2018.1495370.

Kaplan, R. & Baldauf, R. B. (1997). Language planning from practice to theory. (Clevedon, England: Multilingual Matters)

Kymlicka, W. (2001). Politics in the vernacular: nationalism, multiculturalism and citizenship. (Oxford: Oxford University Press).

Lewis, G. (2008). Hawl i’r Gymraeg. (Tal-y-bont: Y Lolfa).

Lewis, R. (1998). Cyfiawnder dwyieithog? Golwg ar yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn Llysoedd Ynadon Cymru. (Llandysul: Gomer)

Liddicoat, A. & Baldauf, R.B (2008). Language planning in local contexts: agents, contexts and interactions. Yn: Liddicoat, A. & Baldauf, R. B. (goln.), Language planning and policy: language planning in local contexts. (Clevedon: Multilingual Matters), tt. 3-17

Llywodraeth Cymru. (2011). Mesur y Gymraeg. https://www.legislation.gov.uk/cy/mwa/2011/1 [Cyrchwyd: 9 Medi 2021]

Llywodraeth Cymru. (2017). Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr. https://llyw.cymru/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg [Cyrchwyd: 9 Medi 2021]

May, S. (2006). Language policy and minority language rights. Yn: Ricento, T (gol.), An introduction to language policy. (Malden: Blackwell), tt. 255–272.

Prys, C. 2010. The use of Welsh in the Third Sector in Wales. Contemporary Wales 23(1), 184–200.

Mesthrie, R., J. Swann, A. Deumert & W. L. Leap. (2009). Introducing sociolinguistics. (Edinburgh: Edinburgh University Press).

Omoniyi, T. (2004). The sociolinguistics of borderlands: two nations, one community. (Trenton, NJ: Africa World Press)

Phillips, D. (1998). Trwy ddulliau chwyldro?: hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962-1992. (Llandysul: Gwasg Gomer)

Prys Davies, G. (2000). Statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Yn: G. H. Jenkins & M. A. Williams (goln.), ‘Eu hiaith a gadwant’?: y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 207-238

Ricento, T. (2000). Historical and theoretical perspectives in language policy and planning. Journal of Sociolinguistics 4 (2), 196–213. doi: 10.1111/1467-9481.00111

Skutnabb-Kangas, T. & Phillipson, R. (2017). Linguistic human rights, past and present. Yn: Skutnabb-Kangas, T. & Phillipson, R. (goln.) Linguistic human rights. (Berlin/New York: De Gruyter), tt.71-110

Williams, G. (1987). Policy as containment within democracy: the Welsh Language Act. International Journal of the Sociology of Language 66, tt.49-53 doi: 10.1515/ijsl.1987.66.49.

Williams, G. & Morris, D. (2000). Language planning and language use: Welsh in a global age. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)

Wright, S. (2016). Language policy and language planning: from nationalism to globalisation. (Basingstoke: Palgrave Macmillan.)

Wright, S. (2000). Jacobins, regionalists and the Council of Europe’s Charter for Regional and Minority Languages. Journal of Multilingual and Multicultural Development 21 (5), 414–424


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.