D. Matthew Williams

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gwyddonydd, dramodydd ac arolygwr ysgolion oedd David Matthew Williams. Ganwyd ef ar 3 Mai 1900, yng Nghellan Ceredigion. Yn ei arholiad cemeg Tystysgrif Uwch, pan oedd yn 18 oed, enillodd y marciau uchaf dros Gymru gyfan. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1921, gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg. Bu'n ddarlithydd cemeg yn y Brifysgol am ychydig, ac yn athro cemeg yng Nglyn Ebwy cyn dod yn arolygydd ysgolion. Roedd ganddo gariad at lenyddiaeth, ac fe ysgrifennodd ychydig o ddramâu, weithiau'n defnyddio'r ffugenw Ieuan Griffiths.

Llyfryddiaeth

  • D. Mathew Williams, Lluest-y-Bwci (Llandysul, 1931).
  • D. Mathew Williams, Y Ciwrad yn y Pair (Llandysul, 1932).
  • Eden Phillpotts, troswyd i’r Gymraeg gan D. Mathew Williams, Gwraig y Ffermwr (Caerdydd, 1933).
  • D. Matthew Williams, Neithior (Llandysul, 1947).
  • D. Matthew Williams, Ddoe a Heddiw (Llandysul, 1954).
  • D. Matthew Williams, Gwragedd Arberth (Llandysul, 1954).
  • D. Matthew Williams, Peredur (Llandysul, 1954).
  • D. Matthew Williams, Stephen Hughes (Abertawe, 1962).

Fel ‘Ieuan Griffiths’

  • Ieuan Griffiths, Dirgel Ffyrdd (Llandysul, 1933).
  • Ieuan Griffiths, Awel Dro (Llandysul, 1934).
  • Ieuan Griffiths, Yr Oruchwyliaeth Newydd (Dinbych, 1937).
  • Ieuan Griffiths, Dau Dylwyth (Llandysul, 1938).
  • Ieuan Griffiths, Deryn Dierth (Llandysul, 1943).
  • Ieuan Griffiths, Taflu’r C’lomennod (Llandysul, 1947).
  • Ieuan Griffiths, Ted (Llandysul, 1952).
  • Ieuan Griffiths, Y Fflam Leilac (Llandysul, 1952).

Amdano

  • Eurosrwydd, ‘Led-Led Cymru’, Y Faner (21 Mai 1935), t. 4.
  • Adolygydd y Faner, ‘Drama y bydd mynd arni, Camp “Yr Oruchwyliaeth Newydd” – Ieuan Grifiths yn un o’n Dramawyr Gorau’, Y Faner (21 Medi 1937), t. 6. “Pethau cwbl addas i’r cwmnioedd’’
  • Ioan Williams, ‘3 – 1923–1930’, yn Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940, (Caerdydd, 2006), tt. 110–193 [yn enwedig tt. 189–193].

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.