Datganoli

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:05, 13 Mawrth 2023 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Devolution)

Mae datganoli yn disgrifio’r broses o drosglwyddo pŵer o’r llywodraeth ganolog i genhedloedd a rhanbarthau iswladwriaethol. Daw’r term Saesneg o’r Lladin sy’n golygu ‘to roll down’ (House of Commons Library, 2022). Mae’r term Cymraeg ‘datganoli’ yn gyfuniad o’r ddau air ‘dad’ a ‘canoli’ sy’n golygu i symud llywodraeth neu weinyddiaeth o ryw ganolfan (megis prifddinas) neu o law rhyw awdurdod canolog a’i rhannu rhwng nifer o ganolfannau lleol (Geiriadur Prifysgol Cymru, 2022). Yn y Deyrnas Unedig, dechreuodd datganoli o ddifri gyda refferenda llwyddiannus 1997 ar ddatganoli yn yr Alban (74% yn pleidleisio o blaid datganoli), Cymru (50.3% yn pleidleisio o blaid datganoli ) a Gogledd Iwerddon o dan lywodraeth ganolog Llafur Newydd. Mae datganoli yn gyffredinol wedi cyd-daro â symudiad oddi wrth ‘fodel San Steffan’ yn y Deyrnas Unedig a ystyrid yn ‘hierarchical and elitist [in] nature; [with] ultimate power or sovereignty vested in the UK parliament (and centralised in the Prime Minister and Cabinet); a strong central executive and clear lines of accountability; and the existence of centralised state control’ (Chaney 2014: 65).

Cafodd pob gwlad yn y Deyrnas Unedig drefniant datganoli gwahanol yn seiliedig ar ffactorau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol. Er enghraifft, yr oedd tua dau gan mlynedd, bron, o wahaniaeth rhwng dyddiadau Deddfau Uno Cymru a rhai’r Alban (1536 yng Nghymru a 1707 yn yr Alban), ac felly cafodd yr Alban fwy o bwerau datganoledig, yn rhannol o ganlyniad i’r hanes hwn. Ers hynny, mae pob gwlad wedi gweld cynnydd cyson mewn pwerau a deddfwriaeth ddatganoli drwy gyfres o gerrig milltir. Yn ogystal â hyn, rydym wedi gweld mathau sylweddol eraill o ddatganoli, megis datblygu dinas-ranbarthau, datganoli rhai darpariaethau lles i awdurdodau lleol a Maer Awdurdodau Cyfun o dan Ddeddf Datganoli Dinasoedd a Llywodraeth Leol 2016.

Yng Nghymru, gwahanodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ganghennau gweithredol a deddfwriaethol Llywodraeth Cymru; roedd hyn eisoes wedi digwydd yn yr Alban. Yn refferendwm 2011 yng Nghymru cafwyd pleidlais o 63.49% o blaid pwerau llunio polisïau sylfaenol. Arweiniodd hyn at bwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru (fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Silk, 2012) a gweithredwyd hyn trwy Ddeddf Cymru 2014. Mae Deddf Cymru 2017 yn amlinellu prif bwerau llunio polisi Llywodraeth Cymru a’r pŵer i reoli trethiant mewn rhai meysydd. Yn arwyddocaol, mae Deddf Cymru 2017 hefyd yn gwneud y Senedd yn endid parhaol o dan yr amod nad ydi pobl Cymru yn pleidleisio i’w diddymu mewn refferendwm.

Yn yr Alban rhoddodd Deddf yr Alban 2012 y grym i Senedd yr Alban bennu cyfradd treth incwm yr Alban, i’w gweinyddu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HM Revenue and Customs) ar gyfer trethdalwyr yr Alban. Fe greodd y ddeddf hon hefyd Revenue Scotland, awdurdod treth ar gyfer trethi datganoledig yr Alban. Arweiniodd refferendwm Annibyniaeth yr Alban 2014, a welodd hefyd ostwng yr oedran pleidleisio i 16, bleidlais NA o 55.3% yn erbyn gwneud yr Alban yn wlad annibynnol. Ond roedd nifer y rhai a bleidleisiodd yn uwch nag erioed (sef 85%) ac arweiniodd y gyfran uchel o bleidleisiau at sefydlu Comisiwn Smith i adolygu pwerau datganoledig i’r Alban. Argymhellodd y Comisiwn y dylid cynyddu pwerau’r Alban mewn nifer o ffyrdd, ac un ffordd arwyddocaol oedd gwneud Senedd yr Alban yn endid parhaol, wedi’i ymgorffori yn Neddf yr Alban 2016. Ond mae hyn dan yr amod nad yw pobl yr Alban yn pleidleisio i’w diddymu mewn refferendwm. Pŵer y llywodraeth ganolog i ddiddymu llywodraethau datganoledig yw’r peth allweddol sy’n gwahaniaethu rhwng datganoli a ffederaliaeth. Felly, mae sefydlogrwydd Cynulliad yr Alban yn arwyddocaol iawn ac yn gwneud yr Alban yn wladwriaeth sydd bron yn ffederal yn hytrach na datganoledig.

Yn hanes cymhleth Gogledd Iwerddon creodd Deddf Uno 1801 Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, ac roedd Senedd Gogledd Iwerddon yn fath o gorff ar gyfer datganoli gweinyddol a sefydlwyd ym 1920. Cytundeb Gwener y Groglith 1998 oedd y sylfaen ar gyfer heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac arweiniodd hefyd at sefydlu Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont ym 1999. Mae’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon wedi’i atal nifer o weithiau, er enghraifft yn 2017 oherwydd methiant y pleidiau gwleidyddol i gydweithio â’i gilydd. Yn dilyn hyn, ailddechreuodd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2020.

Yn 2021, ar gyfer Cymru a’r Alban, y meysydd polisi cymdeithasol allweddol sydd wedi’u datganoli yw: iechyd, addysg a llywodraeth leol, a rhywfaint o nawdd cymdeithasol i’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon mae’r meysydd pwnc yn debyg, sef iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, nawdd cymdeithasol a llywodraeth leol. Fodd bynnag, fel y gwyddom, mae’r gallu i ddefnyddio’r rhain yn cael ei gyfyngu oherwydd y methiant presennol i rannu pŵer. Yn 2021, nid yw amddiffyn a diogelwch gwladol, polisi tramor, mewnfudo, polisi masnach, y cyfansoddiad, darlledu, ynni a pholisi economaidd wedi’u datganoli. Yng Nghymru nid yw nawdd cymdeithasol na chyfiawnder a phlismona wedi’u datganoli chwaith yn 2021.

Dywed rhai fod dyfodiad datganoli wedi rhoi cyfleoedd a manteision newydd i bleidiau llai fel Plaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Un rheswm dros hyn yw’r System Aelodau Ychwanegol, system bleidleisio sy’n ffafrio pleidiau llai. O ran cyllido, mae Cymru a’r Alban yn cael eu hariannu o drysorlys Whitehall ar sail fformiwla Barnett, sydd wedi newid yn sgil datganoli trethi i Gymru a’r Alban. Bellach mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban hawl i godi trethi – ymysg pethau eraill – mewn meysydd polisi megis lles a budd-daliadau. Ar hyn o bryd mae fformiwla Barnett yn gweinyddu grant bloc i Gymru a’r Alban sy’n.

Sioned Pearce

Llyfryddiaeth

Chaney, P. (2014), ‘Multi-level systems and the electoral politics of welfare pluralism: exploring third-sector policy in UK Westminster and regional elections 1945–2011’, VOLUNTAS: International Journal of Voluntary and Nonprofit Organizations 25(3), 585–611.

Comisiwn Silk (2012), Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru (Caerdydd: Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru).

Geiriadur Prifysgol Cymru (2022), Datganoli. https://geiriadur.ac.uk/ [Cyrchwyd: 20 Hydref 2022]

House of Commons Library (2022), Introduction to devolution in the United Kingdom. https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/cbp-8599/ [Cyrchwyd: 20 Hydref 2022]