Davies, Mary (1855-1930)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o Gymry Llundain canol y 19g. oedd Mary Davies (Mair Mynorydd) (The Welsh Folk Song Society, 1934). Deuai o deulu cerddorol, a’i thad William Davies (Mynorydd) yn godwr canu yng Nghapel Nassau Street yn Soho, Llundain.

Yn dilyn anogaeth Brinley Richards (Cerddor Towy) a John Thomas (Pencerdd Gwalia), cafodd yrfa lwyddiannus fel cantores broffesiynol ym myd yr oratorio, y cymdeithasau a’r gwyliau cerdd a’r music halls. Er iddi berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol o bryd i’w gilydd ac yng Ngŵyl Gerdd Harlech (1873), nid oedd ganddi nemor ddim diddordeb yn y traddodiadau brodorol Cymreig yn ei blynyddoedd cynnar. Yn hytrach, gweithiau gan Berlioz, Sterndale Bennett, Arthur Sullivan a’u tebyg a aeth â’i bryd.

Wedi iddi symud i Fangor yn 1888 a phriodi William Cadwaladr Davies (1849–1904), Cofrestrydd cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, cychwynnodd cyfnod newydd yn ei hanes pan adawodd gweithgaredd cymdeithas Y Canorion (1905) a’r gwaith cychwynnol o gywain alawon traddodiadol gan aelodau Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1906) eu hôl ar ei diddordebau am weddill ei hoes (gw. Morris 1990, 5–28; Saer 2006).

Fel un o gasglyddion cynharaf alawon brodorol Cymreig y cofir amdani ac yr oedd ymhlith y cyntaf o Gymry’r cyfnod i ddefnyddio’r phonograph i’r diben hwnnw. Wrth deithio yng Nghymru a throi ymysg cylchoedd Cymreig Llundain y dydd, llwyddodd i gofnodi caneuon fel ‘Wrth fynd efo Deio i Dywyn’, ‘Dacw nghariad i lawr yn y berllan’ a ‘Y ddau farch’. Dyma lle gwelwyd Mary Davies yn arloesi a’i dylanwad hi fu’r ysgogiad i nifer o wragedd eraill, gan gynnwys y Fonesig Ruth Herbert Lewis, Jennie Williams (Ruggles-Gates) ac Amy Preece, fentro i’r maes.

Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn gymorth mawr i J. Lloyd Williams fel golygydd Cylchgrawn y Gymdeithas. Ffrwyth cydweithio rhyngddi hi a’r cerddor W. Hubert Davies yw’r casgliad Welsh Folk Songs/Caneuon Gwerin Cymru (ar gyfer llais a chyfeiliant piano) a gyhoeddwyd yn 1919 (gw. Keen 2004, 3–21; Davies 1914). Ymddangosodd ail gyfrol yn 1946, sy’n cynnwys trefniannau o ‘Blewyn glas’, ‘Yr hen ŵr mwyn’ ac ati (Davies 1946).

Anrhydeddwyd Mary Davies â gradd DMus (Prifysgol Cymru) am ei chyfraniad nodedig i gerddoriaeth Cymru’r cyfnod ond yn enwedig am ei hymdrechion ym myd yr alaw werin. Fel un o selogion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru bu’n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd ddiwedd ei hoes a chwaraeodd ran allweddol yn annog y Brifwyl i ymestyn rhai o’r cystadlaethau hynny. Yn yr un modd, bu’n weithgar a dylanwadol yn hanes Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Caerdydd) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth). Sicrhaodd benodiad y cyfansoddwr E. T. Davies i swydd pennaeth yr adran gerdd ym Mangor a mynnodd weld parhad i’r gwerthoedd Cymreig yng ngweithgarwch cerddorol yr adran, er nad i’r un graddau â’r hyn a gafwyd yno dan gyfarwyddyd J. Lloyd Williams. Ni welodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yr un gweithiwr tebyg iddi yn ystod blynyddoedd cynnar ei sefydlu. Bu Mary Davies yn arweinydd doeth ar adeg ddigon anodd yn hanes y Gymdeithas. Bu ei gweithgarwch yn fodd i ddenu cefnogaeth a hygrededd i’r maes; trwy hynny, ac yn arbennig drwy ei hamlochredd a’i gallu i wireddu breuddwydion, gwnaeth wir gymwynas â’r byd cerddorol Cymreig.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • W. Hubert Davies, Welsh Folk Songs/Caneuon Gwerin Cymru (Wrexham, 1914)
  • The Welsh Folk Song Society, Dr. Mary Davies: in memoriam (Wrexham, 1934)
  • W. Hubert Davies, Caneuon Gwerin Cymru – Ail gasgliad (Caerdydd, 1946)
  • John Morris, ‘Y Canorion a’r casglu cynnar’, Canu Gwerin, 13 (1990), 5–28
  • Wyn Thomas, ‘Mary Davies – grand dame yr alaw werin yng Nghymru’, Canu Gwerin, 20 (1997), 28–42
  • D. Roy Saer, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: canrif gron (2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.