Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Lyn (g.1956)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cerddor, [[addysgwr]] a chyfansoddwr sydd wedi cyfrannu i amryfal feysydd diwylliannol yng Nghymru. Cafodd ei eni yn Llangadog a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Worcester, Rhydychen. Derbyniodd PhD o Brifysgol Cymru yn 1983. Bu hefyd yn astudio am gyfnod yn yr Academi Gerdd yn Krakow yng Ngwlad Pwyl. Cwblhaodd draethawd ar waith y cyfansoddwr modern Peter Maxwell Davies (1934–2016) a bu’n gweithio hefyd fel unawdydd bariton.  
+
Cerddor, [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgwr]] a chyfansoddwr sydd wedi cyfrannu i amryfal feysydd diwylliannol yng Nghymru. Cafodd ei eni yn Llangadog a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Worcester, Rhydychen. Derbyniodd PhD o Brifysgol Cymru yn 1983. Bu hefyd yn astudio am gyfnod yn yr Academi Gerdd yn Krakow yng Ngwlad Pwyl. Cwblhaodd draethawd ar waith y cyfansoddwr modern Peter Maxwell Davies (1934–2016) a bu’n gweithio hefyd fel unawdydd bariton.  
  
Dychwelodd i’w gynefin yn Sir Gaerfyrddin gan ddod yn diwtor sir yno i Adran Efrydiau Allanol [[Prifysgol]] Aberystwyth. Symudodd am gyfnod wedyn i Gyngor Celfyddydau Cymru fel uwch-swyddog cerddoriaeth cyn mynd yn bennaeth astudiaethau llais i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 1999. Bu yno hyd ei ymddeoliad o’r swydd yn 2010. Yn dilyn hyn bu’n arholwr dros sawl cyfandir i Goleg Cerdd y Drindod. Gweithiodd yn ddygn ym maes cerddoriaeth Gymreig gan ysgrifennu hanes cyffredinol cerddoriaeth yng Nghymru a chan weithio hefyd ar lyfr am y cyfansoddwr [[Daniel Jones]].
+
Dychwelodd i’w gynefin yn Sir Gaerfyrddin gan ddod yn diwtor sir yno i Adran Efrydiau Allanol [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Aberystwyth. Symudodd am gyfnod wedyn i Gyngor Celfyddydau Cymru fel uwch-swyddog cerddoriaeth cyn mynd yn bennaeth astudiaethau llais i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 1999. Bu yno hyd ei ymddeoliad o’r swydd yn 2010. Yn dilyn hyn bu’n arholwr dros sawl cyfandir i Goleg Cerdd y Drindod. Gweithiodd yn ddygn ym maes cerddoriaeth Gymreig gan ysgrifennu hanes cyffredinol cerddoriaeth yng Nghymru a chan weithio hefyd ar lyfr am y cyfansoddwr [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]].
  
Yn weithgar fel cyfansoddwr, pianydd a chyfeilydd ar radio a theledu, ac ef oedd cadeirydd pwyllgor gwaith [[Eisteddfod]] Genedlaethol Dinefwr yn 1996. Mae’n byw yn y Dalar Wen, Llangadog (tŷ a adeiladwyd yn wreiddiol gan y gwleidydd Gwynfor Evans), gyda’i wraig, y ddarlledwraig Elinor Jones.
+
Yn weithgar fel cyfansoddwr, pianydd a chyfeilydd ar radio a theledu, ac ef oedd cadeirydd pwyllgor gwaith [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Dinefwr yn 1996. Mae’n byw yn y Dalar Wen, Llangadog (tŷ a adeiladwyd yn wreiddiol gan y gwleidydd Gwynfor Evans), gyda’i wraig, y ddarlledwraig Elinor Jones.
  
 
'''Geraint Lewis'''
 
'''Geraint Lewis'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 21:45, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor, addysgwr a chyfansoddwr sydd wedi cyfrannu i amryfal feysydd diwylliannol yng Nghymru. Cafodd ei eni yn Llangadog a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Worcester, Rhydychen. Derbyniodd PhD o Brifysgol Cymru yn 1983. Bu hefyd yn astudio am gyfnod yn yr Academi Gerdd yn Krakow yng Ngwlad Pwyl. Cwblhaodd draethawd ar waith y cyfansoddwr modern Peter Maxwell Davies (1934–2016) a bu’n gweithio hefyd fel unawdydd bariton.

Dychwelodd i’w gynefin yn Sir Gaerfyrddin gan ddod yn diwtor sir yno i Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth. Symudodd am gyfnod wedyn i Gyngor Celfyddydau Cymru fel uwch-swyddog cerddoriaeth cyn mynd yn bennaeth astudiaethau llais i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 1999. Bu yno hyd ei ymddeoliad o’r swydd yn 2010. Yn dilyn hyn bu’n arholwr dros sawl cyfandir i Goleg Cerdd y Drindod. Gweithiodd yn ddygn ym maes cerddoriaeth Gymreig gan ysgrifennu hanes cyffredinol cerddoriaeth yng Nghymru a chan weithio hefyd ar lyfr am y cyfansoddwr Daniel Jones.

Yn weithgar fel cyfansoddwr, pianydd a chyfeilydd ar radio a theledu, ac ef oedd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Dinefwr yn 1996. Mae’n byw yn y Dalar Wen, Llangadog (tŷ a adeiladwyd yn wreiddiol gan y gwleidydd Gwynfor Evans), gyda’i wraig, y ddarlledwraig Elinor Jones.

Geraint Lewis



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.