Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, William (1859-1907)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ganed William Davies yn Rhosllannerchrugog a derbyniodd ei addysg gynnar gan Hugh Griffith a Richard Mills. Roedd ei lais tenor persain wedi dwyn sylw’r cyfansoddwr [[Joseph Parry]] (1841–1903), a’i denodd i Goleg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, i astudio. Ymsefydlodd am gyfnod ar Ynys Môn a bu’n athro yn Llangefni o 1880 ymlaen. Yn 1884 fe’i penodwyd yn gantor ym Mangor. Yn Llangefni y cychwynnodd gyfansoddi unawdau a fyddai’n dod yn fwyfwy poblogaidd ac y’u cenir hyd heddiw, fel ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Banerwr’, ‘Yr Ornest’, ‘Chwifiwn Faner’ a ‘Llwybr yr Wyddfa’. Yn [[Eisteddfodau]] Cenedlaethol Lerpwl, Llundain a Wrecsam enillodd wobrau am gyfansoddi a diau mai ei gân enwocaf yw ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, unawd a genir gan brif gantorion Cymru ar hyd a lled y byd.
+
Ganed William Davies yn Rhosllannerchrugog a derbyniodd ei addysg gynnar gan Hugh Griffith a Richard Mills. Roedd ei lais tenor persain wedi dwyn sylw’r cyfansoddwr [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903), a’i denodd i Goleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, i astudio. Ymsefydlodd am gyfnod ar Ynys Môn a bu’n athro yn Llangefni o 1880 ymlaen. Yn 1884 fe’i penodwyd yn gantor ym Mangor. Yn Llangefni y cychwynnodd gyfansoddi unawdau a fyddai’n dod yn fwyfwy poblogaidd ac y’u cenir hyd heddiw, fel ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Banerwr’, ‘Yr Ornest’, ‘Chwifiwn Faner’ a ‘Llwybr yr Wyddfa’. Yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfodau]] Cenedlaethol Lerpwl, Llundain a Wrecsam enillodd wobrau am gyfansoddi a diau mai ei gân enwocaf yw ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, unawd a genir gan brif gantorion Cymru ar hyd a lled y byd.
  
 
Fodd bynnag, datblygodd ei yrfa fel canwr ymhellach a bu’n canu tenor yng nghorau Coleg Magdalen, Rhydychen, ac yn y pen draw Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Priododd Clara Leighton, a oedd yn soprano gyda Chwmni Opera Carl Rosa. Bu farw ar 30 Ionawr 1907 a chafodd ei gladdu ym mynwent Abney Park, Llundain.
 
Fodd bynnag, datblygodd ei yrfa fel canwr ymhellach a bu’n canu tenor yng nghorau Coleg Magdalen, Rhydychen, ac yn y pen draw Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Priododd Clara Leighton, a oedd yn soprano gyda Chwmni Opera Carl Rosa. Bu farw ar 30 Ionawr 1907 a chafodd ei gladdu ym mynwent Abney Park, Llundain.
  
Mae ffresni melodaidd ei waith gorau yn nodwedd amlwg o’i arddull, sy’n ymdebygu i ''lieder'' Franz Schubert yn ei naturioldeb. Mae’r ysgrifennu ar gyfer y piano, fel yng ngwaith ei gyfoeswr [[R. S. Hughes]] (1855–93), yn idiomatig er nad yw’n ystrydebu’n gerddorol fel ag y gwna Hughes o bryd i’w gilydd. Roedd yn sicr yn deall y llais a gallai saernïo caneuon yn wych ar brydiau. Mae’n glod iddo fod cantorion o’r radd flaenaf yn parhau i berfformio’i waith dros ganrif ar ôl ei farw.
+
Mae ffresni melodaidd ei waith gorau yn nodwedd amlwg o’i arddull, sy’n ymdebygu i ''lieder'' Franz Schubert yn ei naturioldeb. Mae’r ysgrifennu ar gyfer y piano, fel yng ngwaith ei gyfoeswr [[Hughes, R. S. (1855-1893) | R. S. Hughes]] (1855–93), yn idiomatig er nad yw’n ystrydebu’n gerddorol fel ag y gwna Hughes o bryd i’w gilydd. Roedd yn sicr yn deall y llais a gallai saernïo caneuon yn wych ar brydiau. Mae’n glod iddo fod cantorion o’r radd flaenaf yn parhau i berfformio’i waith dros ganrif ar ôl ei farw.
  
 
'''Lyn Davies'''
 
'''Lyn Davies'''
Llinell 12: Llinell 12:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
*''https://www./http:llyba.llgc.org.uk
+
*''https://www./http:llyba.llgc.org.uk''
''
+
 
 
*''Y Cerddor'' (Mai, 1897); ysgrif goffa (Mawrth 1907)
 
*''Y Cerddor'' (Mai, 1897); ysgrif goffa (Mawrth 1907)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 21:57, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed William Davies yn Rhosllannerchrugog a derbyniodd ei addysg gynnar gan Hugh Griffith a Richard Mills. Roedd ei lais tenor persain wedi dwyn sylw’r cyfansoddwr Joseph Parry (1841–1903), a’i denodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio. Ymsefydlodd am gyfnod ar Ynys Môn a bu’n athro yn Llangefni o 1880 ymlaen. Yn 1884 fe’i penodwyd yn gantor ym Mangor. Yn Llangefni y cychwynnodd gyfansoddi unawdau a fyddai’n dod yn fwyfwy poblogaidd ac y’u cenir hyd heddiw, fel ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Banerwr’, ‘Yr Ornest’, ‘Chwifiwn Faner’ a ‘Llwybr yr Wyddfa’. Yn Eisteddfodau Cenedlaethol Lerpwl, Llundain a Wrecsam enillodd wobrau am gyfansoddi a diau mai ei gân enwocaf yw ‘O Na Byddai’n Haf o Hyd’, unawd a genir gan brif gantorion Cymru ar hyd a lled y byd.

Fodd bynnag, datblygodd ei yrfa fel canwr ymhellach a bu’n canu tenor yng nghorau Coleg Magdalen, Rhydychen, ac yn y pen draw Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Priododd Clara Leighton, a oedd yn soprano gyda Chwmni Opera Carl Rosa. Bu farw ar 30 Ionawr 1907 a chafodd ei gladdu ym mynwent Abney Park, Llundain.

Mae ffresni melodaidd ei waith gorau yn nodwedd amlwg o’i arddull, sy’n ymdebygu i lieder Franz Schubert yn ei naturioldeb. Mae’r ysgrifennu ar gyfer y piano, fel yng ngwaith ei gyfoeswr R. S. Hughes (1855–93), yn idiomatig er nad yw’n ystrydebu’n gerddorol fel ag y gwna Hughes o bryd i’w gilydd. Roedd yn sicr yn deall y llais a gallai saernïo caneuon yn wych ar brydiau. Mae’n glod iddo fod cantorion o’r radd flaenaf yn parhau i berfformio’i waith dros ganrif ar ôl ei farw.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Y Cerddor (Mai, 1897); ysgrif goffa (Mawrth 1907)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.