Deddf Cyfrinachau Swyddogol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Official Secrets Act

Deddf a luniwyd i wahardd lledaeniad gwybodaeth a ddyfarnwyd gan y Llywodraeth yn gyfrinachol neu’n hanfodol i ddiogelu buddiannau diogelwch cenedlaethol. Mae gan sawl gwlad Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol, gan gynnwys India, Malaysia, Seland Newydd, Gweriniaeth Iwerddon a’r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae amheuaeth i’r graddau y caiff ei weithredu. Er enghraifft, nid yw newyddiadurwyr wedi dod i brofi terfynau Deddf 1989 yn y DU, a hyd yn hyn, ni chafodd unrhyw newyddiadurwr ei erlyn yn llwyddiannus o dan y ddeddf, er y gall ofn erlyniad (y chill factor) fod yn arwyddocaol. Pan fydd tensiynau’n codi, maen nhw’n aml yn ymwneud â’r rhagdybiaeth swyddogol fod yr hyn sydd o ddiddordeb i fuddiannau’r Llywodraeth hefyd o ddiddordeb i’r wladwriaeth, ac mae newyddiadurwyr yn tueddu i anghytuno â’r farn hon. Yn arwyddocaol, nid oes amddiffyniad budd cyhoeddus ar gael i newyddiadurwr (neu eu ffynonellau, gan gynnwys chwythwyr chwiban) i bledio. Gall cam-ddehongli’r ddeddfwriaeth hon gan swyddogion arwain at gyfyngiadau ar ryddid y wasg, gan gynnwys diffyg tryloywder yng ngweithgareddau’r Llywodraeth dan sylw, neu’n waeth na hynny, arwain at atal anghydfod.

Mae statudau o natur debyg i’r Deddfau Cyfrinachau Swyddogol yn bodoli mewn gwledydd eraill, fel Awstralia a Chanada. Yn Unol Daleithiau'r America, mae Espionage Act 1917, sy’n cwmpasu rhai o’r darpariaethau hyn, wedi ei herio yn y llysoedd ar sawl achlysur (gan gynnwys achos y Pentagon Papers yn 1971).



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.