Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Différance"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 3: Llinell 3:
 
Ymhellach, mae yna arwyddocâd i bresenoldeb y llythyren ‘a’ sydd yn y bathiad oherwydd nad yw’r gwahaniaeth rhwng ‘différence’ a ‘différance’ yn bodoli o gwbl ar lafar (mae ynganiad y ddau air yn union yr un fath), ac mae hyn yn dwyn i gof drafodaeth sydd yn anhepgor i syniadaeth Derrida, sef y drafodaeth am y par deuol llafar/ysgrifenedig. Mae’r llythyren ‘a’ hefyd yn arbennig o gymwys i dynnu sylw at hyn oherwydd ei rôl symbolaidd fel llythyren gyntaf yr wyddor. Defnyddia Derrida hefyd y gair ‘dissémination’ i ddisgrifio’r ffordd y gall ‘ystyr’ gael ei chwalu i gyfeiriadau a phosibiliadau diddiwedd mewn [[testun]] llenyddol, gan ddefnyddio gwaith y bardd Stéphane Mallarmé (1842-1898) fel enghraifft allweddol.
 
Yn Gymraeg awgrymodd Jane Aaron y gair ‘gwahiriad’ fel cyfieithiad o fathiad Derrida, gan  gyfuno’r geiriau ‘gwahaniaeth’ a ‘gohiriad’ er mwyn cyfleu’r grymoedd o fewn i iaith. Yn ôl ei hesboniad hi yn Sglefrio ar Eiriau: ‘Rhaid gohirio am byth y posibilrwydd o benodi un cysyniad, un ystyr arwyddedig, i ddelwedd eiriol, allan o’r lliaws o wahanol arwyddedigion sydd ag a fydd iddi’. Defnyddir ‘gwahiriad’ hefyd gan John Rowlands yn ei drafodaeth yntau o’r cysyniad yn 1996: ‘System gaeedig yw iaith, wedi’i seilio ar wahaniaeth a gohiriad (différance neu wahiriad), felly fe fydd hi’n llithro o’n gafael yn barhaus hyd ddiwedd y byd heb ildio unrhyw ystyr gyflawn byth.’  
+
Yn Gymraeg awgrymodd Jane Aaron y gair ‘gwahiriad’ fel cyfieithiad o fathiad Derrida, gan  gyfuno’r geiriau ‘gwahaniaeth’ a ‘gohiriad’ er mwyn cyfleu’r grymoedd o fewn i iaith. Yn ôl ei hesboniad hi yn ''Sglefrio ar Eiriau'': ‘Rhaid gohirio am byth y posibilrwydd o benodi un cysyniad, un ystyr arwyddedig, i ddelwedd eiriol, allan o’r lliaws o wahanol arwyddedigion sydd ag a fydd iddi’. Defnyddir ‘gwahiriad’ hefyd gan John Rowlands yn ei drafodaeth yntau o’r cysyniad yn 1996: ‘System gaeedig yw iaith, wedi’i seilio ar wahaniaeth a gohiriad (différance neu wahiriad), felly fe fydd hi’n llithro o’n gafael yn barhaus hyd ddiwedd y byd heb ildio unrhyw ystyr gyflawn byth.’  
  
Gwrthwyneb ‘différance’ yw logoganolrwydd, neu’r syniad o ystyr a bennir gan wirionedd digyfenwid sy’n bodoli y tu allan i’r [[testun]], ond yn union fel yn achos bathiadau eraill Derrida ni ddylid meddwl am y gair ‘différance’ fel cysyniad, er bod y syniadau a gyfleir ganddo yn hollol greiddiol i’w ôl-[[strwythuraeth]].  
 
Llinell 9: Llinell 9:
 
[[Llyfryddiaeth]]
 
[[Llyfryddiaeth]]
  
Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), tt. 63-83.
+
Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), ''Sglefrio ar Eiriau'' (Llandysul: Gomer), tt. 63-83.
  
Derrida, J. (1967), L’Écriture et la différance (Paris: Seuil).  
+
Derrida, J. (1967), ''L’Écriture et la différance'' (Paris: Seuil).  
  
Derrida, J. (1972), Marges de la philosophie (Paris: Minuit).
+
Derrida, J. (1972), ''Marges de la philosophie'' (Paris: Minuit).
 
Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y [[nofel]] Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, CLI, rhif 636 (Ionawr), 5-24.
+
Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y <nowiki>nofel</nowiki> Gymraeg ôl-fodernaidd’, ''Y Traethodydd'', CLI, rhif 636 (Ionawr), 5-24.

Diwygiad 11:55, 26 Mehefin 2018

Un o fathiadau enwocaf a mwyaf dylanwadol Jacques Derrida (1930-2004), gair sy’n gyfuniad o’r ferf ‘différer’ (sydd â dwy ystyr, sef gohirio, neu ‘fod yn wahanol i’) a’r enw ‘différence’ (gwahaniaeth). Pwrpas y cyfuno yw gallu dweud, ar yr un pryd, ddau beth ynglyn â’r berthynas rhwng iaith ac ystyr. Yn ôl Derrida nid yw iaith yn rhoi mynediad uniongyrchol i ystyr am ddau reswm: yn gyntaf oherwydd mai dim ond ‘gwahaniaethau’ sydd oddi fewn i iaith, ac felly nad oes yna ystyr heb wahaniaethau, ac yn ail oherwydd bod ystyr yn cael ei ohirio o un arwyddwr (h.y. gair) i’r llall ar hyd cadwyn di-ddiwedd. Felly mae ‘différance’ ar un wedd yn cyfleu’r syniad mai’r ffaith fod geiriau’n wahanol i’w gilydd sy’n gyfrifol am eu hystyron unigol, yn hytrach na bod yna berthynas annatod rhwng gair a’r hyn y mae’n cyfeirio ato. Syniad sy’n gyfarwydd o waith yr ieithydd Ferdinand de Saussure (1857-1913) yw hwn, y gellir ei esbonio fel hyn: mae’r gair ‘pen’ yn ystyrlon yn y Gymraeg nid oherwydd bod gan y sain berthynas naturiol â’r gwrthrych a ddisgrifir, ond am fod modd clywed y gwahaniaeth rhwng y gair hwn a geiriau eraill megis ‘llen’ neu ‘pell’. Yn ogystal, er mwyn canfod ystyr ‘pen’ mae angen gallu gwahaniaethu rhynddo â geiriau megis ‘copa’, ‘top’, ‘brig’, ac ati, a dyma ddod â ni at ail wedd ‘différance’, sef y syniad bod ystyr yn cael ei ohirio am gyfnod amhenodol, oherwydd mai dim ond trwy gyfeirio at eiriau eraill y gellir diffinio ystyr gair, ac nid trwy gyrchu ystyr y tu allan neu y tu ôl i destun.

Ymhellach, mae yna arwyddocâd i bresenoldeb y llythyren ‘a’ sydd yn y bathiad oherwydd nad yw’r gwahaniaeth rhwng ‘différence’ a ‘différance’ yn bodoli o gwbl ar lafar (mae ynganiad y ddau air yn union yr un fath), ac mae hyn yn dwyn i gof drafodaeth sydd yn anhepgor i syniadaeth Derrida, sef y drafodaeth am y par deuol llafar/ysgrifenedig. Mae’r llythyren ‘a’ hefyd yn arbennig o gymwys i dynnu sylw at hyn oherwydd ei rôl symbolaidd fel llythyren gyntaf yr wyddor. Defnyddia Derrida hefyd y gair ‘dissémination’ i ddisgrifio’r ffordd y gall ‘ystyr’ gael ei chwalu i gyfeiriadau a phosibiliadau diddiwedd mewn testun llenyddol, gan ddefnyddio gwaith y bardd Stéphane Mallarmé (1842-1898) fel enghraifft allweddol.

Yn Gymraeg awgrymodd Jane Aaron y gair ‘gwahiriad’ fel cyfieithiad o fathiad Derrida, gan gyfuno’r geiriau ‘gwahaniaeth’ a ‘gohiriad’ er mwyn cyfleu’r grymoedd o fewn i iaith. Yn ôl ei hesboniad hi yn Sglefrio ar Eiriau: ‘Rhaid gohirio am byth y posibilrwydd o benodi un cysyniad, un ystyr arwyddedig, i ddelwedd eiriol, allan o’r lliaws o wahanol arwyddedigion sydd ag a fydd iddi’. Defnyddir ‘gwahiriad’ hefyd gan John Rowlands yn ei drafodaeth yntau o’r cysyniad yn 1996: ‘System gaeedig yw iaith, wedi’i seilio ar wahaniaeth a gohiriad (différance neu wahiriad), felly fe fydd hi’n llithro o’n gafael yn barhaus hyd ddiwedd y byd heb ildio unrhyw ystyr gyflawn byth.’

Gwrthwyneb ‘différance’ yw logoganolrwydd, neu’r syniad o ystyr a bennir gan wirionedd digyfenwid sy’n bodoli y tu allan i’r testun, ond yn union fel yn achos bathiadau eraill Derrida ni ddylid meddwl am y gair ‘différance’ fel cysyniad, er bod y syniadau a gyfleir ganddo yn hollol greiddiol i’w ôl-strwythuraeth.

Llyfryddiaeth

Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), tt. 63-83.

Derrida, J. (1967), L’Écriture et la différance (Paris: Seuil).

Derrida, J. (1972), Marges de la philosophie (Paris: Minuit).

Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, CLI, rhif 636 (Ionawr), 5-24.