Dilyniant
Defnyddir 'dilyniant' mewn dwy ffordd mewn astudiaethau llenyddol Cymraeg.
1. Testun sy'n dwyn cysylltiad agos o ran cymeriadau, lleoliad etc â gwaith blaenorol, fel arfer gan yr un awdur. Mae nofel Islwyn Ffowc Elis, Yn ôl i Leifior (1956) yn ddilyniant i Cysgod y Cryman (1953). Cyhoeddodd Gareth Ff. Williams Dyfi Jyncshiyn: Y Ddynes yn yr Haul (2009) yn ddilyniant i Dyfi Jyncshiyn: Y Dyn Blin (2007). Yn ddamcaniaethol gallai awdur gwahanol ysgrifennu dilyniant pellach i'r nofelau hyn.
2. Ym maes barddoniaeth defnyddir 'dilyniant o gerddi' i gyfeirio at gyfres o gerddi y mae iddynt fesur o undod a chysondeb thematig a delweddol. O 1969 ymlaen daeth yn gynyddol boblogaidd fel geiriad yng nghystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Am 'bryddest' oedd yn ddilyniant o gerddi y gofynnwyd yn Eisteddfod y Fflint 1969; gwobrwywyd dilyniant Dafydd Rowlands, 'I Gwestiynau fy Mab' ac ar ôl hynny cafwyd dilyniannau arobryn dylanwadol Bryan Martin Davies yn 1970 ('Darluniau ar Gynfas') a 1971 ('Y Golau Caeth'). Yn y cyd-destun eisteddfodol daethpwyd i ddisgwyl i'r dilyniant gydymffurfio â rhai confensiynau. Nodweddiadol oedd sylw Bryan Martin Davies yn 1980 y dylai 'dilyniant o gerddi gynnwys rhyw fath o ddyfais gelfyddydol sy'n cysylltu'r cerddi unigol ynghyd mewn undod organaidd.' Yn raddol enillodd y dilyniant ei le fel prif ffurf cystadleuaeth y goron, gydag amrywiad mwy llac 'casgliad o gerddi' weithiau yn ymddangos. Yn yr 21g. gofynnwyd am ddilyniant yng nghystadleuaeth y gadair hefyd; 'dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn' oedd geiriad y gystadleuaeth yn 2011 a 2012. Nid ffurf sy'n gyfyngedig i gystadleuaeth yw'r dilyniant. Ceir enghreifftiau niferus yng ngwaith Bobi Jones ac Alan Llwyd er enghraifft, a chyhoeddodd Gwyneth Lewis gyfrol gyfan, Y Llofrudd Iaith (2015), ar ffurf dilyniant o gerddi.
Robert Rhys
Llyfryddiaeth
Davies, B. M. (1980), 'Beirniadaeth: Cerdd Hir neu Ddilyniant o Gerddi', Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Dyffryn Lliw 1980 (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol), tt. 28-35.
Lewis, G. (2015), Y Llofrudd Iaith http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/y-llofrudd-iaith-gwyneth-lewis [Cyrchwyd: 27 Gorffennaf 2016].
Rhys, R. (1985), 'Sylw neu ddau ar y dilyniant o gerddi yng nghystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol', Barddas, rhifau 99/100. t.7, 9.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.