Dioededd
Saesneg: Immediacy
Nodwedd ddiffiniol o newyddion yw amseroldeb rhywbeth, boed yn achlysur neu ddigwyddiad, sy’n digwydd neu efallai’n parhau i ddigwydd. Mae’r hyn sy’n deilwng o gael ei alw’n newyddion yn amrywio o un cyfrwng newyddion i’r llall, ond mae pawb yn trin dioededd fel rhinwedd wrth ymdrin â newyddion sy’n torri (yn enwedig wrth drin sgŵps neu stori ecscliwsif).
Gorau po leiaf o amser sydd wedi mynd heibio rhwng y digwyddiad a’r adroddiad newyddion, ac mae dioededd yn faen prawf allweddol wrth ystyried perfformiad gwasanaeth newyddion. Felly, mae’n arwydd o fri, effeithlonrwydd ac enw da.
Yn ategol at hynny, mae’n cael ei ystyried gan newyddiadurwyr a chynulleidfaoedd newyddion fel ei gilydd yn un o werthoedd newyddion pwysig, oherwydd mewn achos o ddarlledu, mae’n caniatáu i wylwyr a gwrandawyr ‘weld a chlywed drostynt eu hunain’ luniau a sain uniongyrchol heb gynnwys y darlledwr.
Mae eraill yn dadlau bod dioededd yn rhy aml yn cael ei werthfawrogi er ei fwyn ei hun, gyda’r obsesiwn am fod y cyntaf i gyhoeddi stori yn arwain at adroddiadau anghywir ac arwynebol.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.